Dechreuwyr yn dangos i ni sut i ailgylchu
Dechreuwyr yn dangos i ni sut i ailgylchu
Mae James, Liam, Megan ac Amber yn fyfyrwyr nodweddiadol ac yn dda iawn am ailgylchu! Darllenwch eu hawgrymiadau ynglŷn â sut y gwnaethant ddechrau arni, sut gwnaethant ddod o hyd i ddyddiadau casglu, sut i ailddefnyddio, a’u pump prif awgrym ar gyfer ailgylchu.
Yn ein blwyddyn gyntaf yn y brifysgol, roedd ein neuaddau preswyl yn cynnig cipolwg da iawn ar ailgylchu. Roeddent yn cynnig dau fin, sef un ar gyfer gwastraff cyffredinol ac un ar gyfer ailgylchu. Ers hynny, daeth rhannu deunydd i’w ailgylchu o wastraff yn arferiad, ac mae mor hawdd i’w wneud hefyd gan mai dim ond rhoi’r deunydd pacio mewn bag lliw gwahanol sydd angen ei wneud. Hefyd, mae gwybod ein bod ni’n ceisio helpu’r amgylchedd yn gwneud i ni deimlo ychydig yn well.
Gan eu bod yn dod o’r ardal leol, roedd James, Liam a Megan yn eithaf cyfarwydd â’r systemau ailgylchu. Fodd bynnag, roedd Amber yn ansicr, gan fod y system ychydig yn wahanol yn Lloegr. Ond ar ôl ffonio Cyngor Caerdydd roedd y system llawer cliriach. Gwnaethant roi’r dyddiadau casglu i ni a pha wythnos oedd p’un, ac anfon pecyn cychwyn. Pan symudom i mewn i’n tŷ yn yr ail flwyddyn, cawsom becyn a oedd yn esbonio pryd oedd ein dyddiad casglu, a pha fath o wastraff yr oedd angen i ni ei roi allan a.y.y.b.
Fodd bynnag, os nad ydych yn gwybod beth yw’ch dyddiadau casglu, pa wastraff sy’n cael ei gasglu pa wythnos ac yn y blaen, gallwch ffonio’r cyngor i gael y wybodaeth. Roeddent yn hyfryd, yn gyfeillgar ac yn gynorthwyol.
Yn ein tŷ, ein prif bin yw’r bin ailgylchu. Mae hyn yn beth da gan fod y deunydd i’w ailgylchu’n cael ei gasglu bob wythnos, felly mae tipyn yn fwy taclus a phleserus gan fod llai o fagiau bin o gwmpas y lle. Hefyd, mae gennym fag du ar gyfer ein gwastraff cyffredinol, sydd prin yn llawn o gwbl ar ôl pythefnos, sy’n profi ei bod hi mor hawdd ailgylchu pethau.
Rydym yn ailgylchu gan ei fod yn rhywbeth sy’n hawdd iawn i’w wneud a gall pawb ei wneud. Mae hefyd yn helpu’r amgylchedd ac yn gwneud i chi deimlo ychydig yn well amdanoch chi eich hun nad ydych yn bod yn hollol anwybodus ynglŷn â gwastraff a’ch bod chi’n ceisio gwneud rhywbeth i helpu.
Rydym yn ailddefnyddio popeth!
Rydym yn ailddefnyddio jariau gwydr at ddibenion gwahanol, rydym hefyd (yn amlwg) yn ailddefnyddio bagiau plastig ar gyfer mynd i siopa. Rydym yn ailddefnyddio ein poteli plastig fel poteli yfed. Rydym yn ailgylchu ein caniau tun, blychau, deunydd pacio plastig, cardbwrdd, potiau plastig, tybiau prydau parod plastig, powlenni plastig, poteli gwydr; y rhan fwyaf o bethau a dweud y gwir.
Ond os nad ydych yn siwr beth i’w wneud, byddwn yn argymell cysylltu â’r cyngor, gwneud cais am becyn cychwyn, neu hyd yn oed edrych ar y wefan, gan yr esbonnir y rhan fwyaf o bethau ar honno. Mae ailgylchu’n rhywbeth hawdd iawn i’w wneud ac mae wedi dod yn rhan o drefn bob dydd sy’n cymryd braidd dim amser o gwbl.
Dyma ein pump prif awgrym ar gyfer ailgylchu - mae’r rhain yn gymwys i fyfyrwyr newydd neu os ydych yn newydd i ailgylchu:
- Cysylltwch â’r cyngor i gael pecyn cychwyn/croeso.
- Newidiwch eich prif fin i fod yn fin ailgylchu (cewch eich synnu faint y gallwch ei ailgylchu)
- Edrychwch ar-lein am ffyrdd dyfeisgar i ailddefnyddio eitemau a chreu pethau da.
- Os ydych yn besimistaidd ynglŷn ag ailgylchu, rhowch gynnig arni am wythnos a chewch weld pa mor hawdd yw hi i ailgylchu.
- AILGYLCHWCH, nid yw’n anodd!
Diolch am y cyngor!