Skip to main content
English
English
Llun sialc o fatri gyda chrwyn banana y tu mewn ar gefndir du gyda'r capsiwn: Troi gwastraff bwyd yn bwer i Gymru. Bydd wych. Ailgylcha fe.

Newyddion Ac Ymgyrchoedd

Taclo’r ‘ych-a-fi’ i ryddhau pŵer eich ailgylchu gwastraff bwyd

Ar y dudalen hon

Efallai mai gwlad fach yw Cymru, ond rydyn ni’n wlad gref wrth ailgylchu. Mae 95% ohonom yn ailgylchu ein gwastraff yn rheolaidd, rydyn ni eisoes yn drydedd genedl orau’r byd am ailgylchu, ac rydyn ni ar Hymgyrch Gwych i gael Cymru i rif 1.

Er bod bron i holl ddinasyddion Cymru’n ailgylchu eitemau bob dydd fel cardbord, nwyddau ymolchi o’r ystafell ’molchi, a photeli plastig, mae llawer yn parhau i beidio ag ailgylchu eu holl wastraff bwyd. A dweud y gwir, bwyd yw tua chwarter yr hyn sy’n cyrraedd y bin sbwriel cyffredinol o hyd, a gellid ailgylchu pob tamaid ohono.

Mae pŵer yn ein gwastraff bwyd – mae’r rhan fwyaf o’r gwastraff bwyd a gaiff ei ailgylchu yng Nghymru’n cael ei anfon i gyfleusterau treulio anaerobig, ble caiff ei droi’n ynni gwyrdd. Ailgylchodd trigolion Cymru ddigon i bweru mwy na 10,000 o gartrefi’r llynedd, ond gydag oddeutu 100,000 o dunelli o wastraff bwyd yn cyrraedd y bin sbwriel cyffredinol o hyd – digon i bweru 7,500 yn rhagor o gartrefi – caiff yr ynni adnewyddadwy hwn sy’n brwydro newid hinsawdd ei golli am byth.

Datgelodd ein ymchwil mai’r rhwystr pennaf yw’r elfen ‘ych-a-fi’, gyda’r rhan fwyaf o bobl yn petruso oherwydd y posibiliad o arogleuon, gollyngiadau a llanast. Fodd bynnag, nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli bod ailgylchu ein gwastraff bwyd yn creu llai o arogleuon ac mae’n lanach na’i roi yn y bin. Caiff cynnwys ein cadis gwastraff bwyd ei gasglu bob wythnos, ac mae ein gwastraff na ellir ei ailgylchu’n cael ei gasglu’n llai aml.

Rydyn ni oll yn creu rhywfaint o wastraff bwyd anochel – fel plisg wyau, esgyrn, bagiau te a chrafion llysiau a ffrwythau – a dylid ei ailgylchu (os nad yw’n cael ei gompostio gartref) i greu ynni gwyrdd i helpu i bweru cymunedau yng Nghymru.

Dilynwch 5 tip defnyddiol Wales Recycles i ailgylchu eich gwastraff bwyd yn wych:

  1. Defnyddiwch fag leinio cadi – Bydd leinio eich cadi cegin yn cadw’ch gwastraff bwyd yn well, gan helpu i leihau arogleuon a gollyngiadau, a’i atal rhag mynd yn ych-a-fi. Rhowch fagiau leinio mewn cadi glân, sych, a gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n ei orlenwi, i osgoi torri’r bag leinio.

  2. Osgowch eitemau hylifol – Cadwch hylifau fel llaeth, sudd, neu olew coginio allan o’ch cadi i atal ‘sudd bin’ rhag casglu’n ei waelod.

  3. Gwagiwch eich cadi gwastraff bwyd yn rheolaidd – gwagiwch gynnwys eich cadi cegin i’r bin gwastraff bwyd ar garreg y drws yn rheolaidd, cyn iddo fynd yn orlawn, i atal arogleuon a drewdod. Cofiwch glymu’r bagiau leinio cadi’n dynn cyn eu symud o’ch cadi i’ch bin. Os aiff eich cadi i ddrewi, yna mae’n bryd ichi wagio ei gynnwys i’ch bin gwastraff bwyd ar garreg y drws a dechrau o’r newydd gyda bag leinio newydd.

  4. Cadwch gaead arno – Efallai ei fod yn swnio’n amlwg, ond bydd cau caead eich cadi cegin yn atal pryfed rhag mynd iddo, ac yn atal arogleuon rhag dianc. Cofiwch hefyd gau’r caead cloadwy ar eich bin y tu allan yn sownd, i atal pryfetach a phlâu, a diogelu yn erbyn tywydd gwyntog.

  5. Cadwch eich cadi’n lân – Glanhewch eich cadi cegin bob ychydig wythnosau. Rhowch rinsiad iddo yn y sinc. I lanhau eich cadi’n fwy trwyadl, gallwch ei ddiheintio gyda dŵr poeth dros ben o’r tegell ac ychydig o hylif golchi llestri.

Os oes gennych lemon dros ben na fydd yn cael ei fwyta fel arall, gallech rwbio ei du mewn yn erbyn tu mewn eich bin. Mae’n ddiaroglydd naturiol a bydd yn helpu i ladd unrhyw germau a allai fod yn llechu yno.

Darganfod sut mae eich gwastraff bwyd yn creu pŵer yma neu ymunwch â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #ByddWychAilgylcha.

Cynnwys cysylltiedig

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon