Skip to main content
English
English
JCB ar ben mynydd o wastraff mewn safle tirlenwi

Sut i Ailgylchu

Pam mae’n bwysig ailgylchu?

Ar y dudalen hon

Effaith amgylcheddol ailgylchu

Mae mwy a mwy o bobl yn ailgylchu bob dydd. Os yw eitemau ailgylchadwy yn cyrraedd safleoedd tirlenwi, caiff eu gwerth ei golli am byth. Mae ailgylchu hefyd yn lleihau’r angen i gloddio (mwyngloddio, chwarelu a thorri coed), puro a phrosesu deunyddiau crai, sydd oll yn creu symiau sylweddol o lygredd aer a dŵr. Mae hyn yn helpu i arbed ynni, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a helpu i daclo newid hinsawdd.

Er bod deunyddiau eilgylch yn nwyddau gwerthfawr ar y farchnad fyd-eang ac yn bwysig yn ariannol, mae ailgylchu’n dda i’r amgylchedd hefyd. Mae’n gwneud y defnydd gorau o’n hadnoddau naturiol cyfyngedig.

Mae ailgylchu yn stori lwyddiant go iawn, a dylem ymfalchïo yn yr hyn rydym wedi’i gyflawni yng Nghymru – ond mae llawer mwy y gallwn ei wneud o hyd.

Pum myth ailgylchu

Myth 1: does dim pwynt ailgylchu, nid yw’n gwneud gwahaniaeth

Mae ailgylchu’n atal tunelli o wastraff rhag mynd i dirlenwi. Yn y Deyrnas Unedig, mae ailgylchu’n arbed tua 10-15 miliwn o dunelli o allyriadau carbon bob blwyddyn, swm sy’n gyfatebol â thynnu 3.5 miliwn o geir oddi ar y ffyrdd.

Myth 2: bydd fy ailgylchu’n cael ei daflu gyda’r sbwriel yn y pen draw, beth bynnag

Mae eich deunydd eilgylch yn adnodd gwerthfawr. Wedi iddo gael ei gasglu o garreg eich drws, caiff ei ddidoli, ei sypio a’i gludo at ailbroseswyr i gael ei wneud yn nwyddau newydd.

Myth 3: dydw i ddim yn creu unrhyw wastraff bwyd, felly nid oes angen imi ddefnyddio casgliad gwastraff bwyd

Rydym oll yn creu rhywfaint o wastraff bwyd anochel, fel crwyn ffrwythau a llysiau, plisg wyau, bagiau te ac esgyrn. Os ydych chi’n cael casgliad gwastraff bwyd gartref, gall y rhain fynd yn eich cadi gwastraff bwyd.

Myth 4: Dim ond ychydig weithiau y gellir ailgylchu papur

Er ei bod yn wir bod ffibrau papur yn dechrau torri i lawr unwaith maen nhw wedi cael eu hailgylchu bump i saith o weithiau, hyd yn oed wedyn gellir eu defnyddio ar gyfer cartonau wyau a deunydd inswleiddio.

Myth 5: Mae ailgylchu metel yn defnyddio mwy o ynni na chloddio’r deunyddiau crai

Nid yw hyn yn wir. Mae cloddio a phrosesu metelau’n defnyddio symiau enfawr o adnoddau ac ynni. Mae ailgylchu caniau’n arbed hyd at 95% o’r ynni y mae ei angen i wneud caniau newydd o ddeunydd crai.

Mae llawer o fythau ynghylch ailgylchu. Beth am ddal ati i chwilota drwy ein gwefan i ddysgu mwy? Er enghraifft, darganfyddwch beth i’w wneud gydag eitemau penodol nad ydych chi’n siŵr yn eu cylch.

Darganfod beth y gallwch ei ailgylchu gartref

Nodwch eich cod post i wirio

Cynnwys cysylltiedig

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon