Skip to main content
English
English

Goleuadau Coed Nadolig

Ailgylchu gartref

Ailgylchu oddi cartref

Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Goleuadau Coed Nadolig mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.

Gweld mannau ailgylchu cyfagos

Sut i ailgylchu goleuadau coed Nadolig

Mae goleuadau Nadolig yn perthyn i gategori eitemau trydanol bach a dylid eu hailgylchu mewn canolfan ailgylchu gwastraff y cartref ac ni ddylid eu rhoi yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.

Mae rhai cynghorau lleol yn casglu nwyddau trydan bach fel rhan o’u casgliadau ailgylchu, ac mae’n bosibl y byddant hefyd yn darparu biniau casglu arbennig ar safleoedd eraill hefyd, e.e. meysydd parcio archfarchnadoedd.

Mae’n dda gwybod

Yr enw ar unrhyw eitemau sydd â phlwg, sy’n defnyddio batris, sydd angen ei wefru, neu sydd â llun bin olwynion wedi’i groesi allan arno, yw Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff, neu WEEE (Waste Electrical and Electronic Equipment).

Ni ddylid anfon yr eitemau hyn i dirlenwi a gellir eu hailgylchu mewn canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref a gyda rhai manwerthwyr. Mae rhai cynghorau lleol hefyd yn casglu eitemau trydanol bach fel rhan o’u casgliadau wrth ymyl y ffordd.

Ailgylchu eitem arall

Feindiwch eich ganolfan ailgylchu agosaf

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon