Skip to main content
English
English

Batris (cludadwy)

Ailgylchu gartref

Ailgylchu oddi cartref

Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Batris (cludadwy) mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.

Gweld mannau ailgylchu cyfagos

Sut i ailgylchu batris cludadwy

Mae rhai cynghorau lleol yn casglu batris cludadwy fel rhan o’ch gwasanaeth casglu wrth ymyl y ffordd, ond yn y rhan fwyaf o ardaloedd, bydd angen ichi fynd â nhw i ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref neu fan casglu.

Beth arall allaf ei wneud?

  • Defnyddiwch fatris ar gyfer y cartref y gellir eu hailwefru pan fo’n bosibl – gallwch hyd yn oed brynu peiriant gwefru sy’n gweithio gydag ynni solar!

  • I leihau’r nifer o fatris a ddefnyddiwch, ystyriwch brynu eitemau trydanol sy’n gweithio ar eich cyflenwad pŵer yn hytrach na dibynnu ar ddefnyddio batris;

  • Ceisiwch brynu nwyddau sy’n defnyddio ynni adnewyddadwy – radio neu dortsh y gellir ei phweru drwy weindio, goleuadau deinamo i’ch beic, neu gyfrifiannell ynni solar.

Ble i’w ailgylchu

Pan fo’n hawdd ac yn ddiogel gwneud, tynnwch fatris cludadwy allan o’ch eitemau trydanol ac electronig, fel radios a rheolwyr teledu, a’u gwaredu yn eich canolfan ailgylchu leol neu fan casglu arall. Yn aml, gallwch eu rhoi allan i gael eu casglu o’ch cartref fel rhan o’ch casgliad ailgylchu arferol os yw eich cyngor lleol yn cynnig y gwasanaeth hwn.

  • Batris untro safonol a batris y gellir eu hailwefru;

  • Batris cell botwm;

  • Batris o nwyddau a thŵls trydanol o’r cartref;

  • Batris gliniaduron, cyfrifiaduron a ffonau symudol.

Ailgylchu eitem arall

Feindiwch eich ganolfan ailgylchu agosaf

Eitemau tebyg

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon