Skip to main content
English
English

Gemwaith a Watshis

Ailgylchu gartref

Ailgylchu oddi cartref

Ydi, mae’n bosibl ailgylchu gemwaith a watshis mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.

Sut i ailgylchu gemwaith a watshis

  • Gellir rhoi gemwaith a watshis dieisiau neu wedi torri i rai siopau elusen a sefydliadau elusennol i godi arian. Rhowch nhw mewn bag plastig ar wahân i’w cadw gyda’i gilydd, i’w hatal rhag mynd ar goll yn y broses ddidoli;

  • Mae eitemau a allai gael eu derbyn yn cynnwys clustlysau od, mwclis wedi torri, breichledi, broetshis a chadwyni, a watshis nad ydynt yn gweithio.

Mae’n dda gwybod

Fel arall, mae sefydliadau ar-lein fel Recycling for Good Causes yn derbyn gemwaith a watshis drwy’r post, mewn unrhyw gyflwr, i’w hailwerthu/ailgylchu i godi arian i elusennau cenedlaethol a grwpiau lleol fel y Sgowtiaid a’r Girl Guides.

Ailgylchu eitem arall

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon