Skip to main content
English
English

Cyfrifiaduron (PCs), gliniaduron a monitorau

Ailgylchu gartref

Ailgylchu oddi cartref

Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Cyfrifiaduron (PCs), gliniaduron a monitorau mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.

Gweld mannau ailgylchu cyfagos

Sut i ailgylchu cyfrifiaduron (PCs), gliniaduron a monitorau

Yr enw ar unrhyw eitemau sydd â phlwg, sy’n defnyddio batris, sydd angen ei wefru, neu sydd â llun bin olwynion wedi’i groesi allan arno, yw Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff, neu WEEE (Waste Electrical and Electronic Equipment).

Ni ddylid anfon yr eitemau hyn i dirlenwi a gellir eu hailgylchu mewn canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref a gyda rhai manwerthwyr. Mae rhai cynghorau lleol hefyd yn casglu eitemau trydanol bach fel rhan o’u casgliadau wrth ymyl y ffordd.

  • Pan fyddwch yn prynu gliniadur neu gyfrifiadur newydd, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r manwerthwr rydych yn ei brynu ganddo eich helpu i gael gwared ar eich hen beiriant;

  • Gallwch hefyd ailgylchu cyfrifiaduron mewn canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref;

  • Mae rhoi eich offer cyfrifiadurol dieisiau i elusen yn ffordd wych o helpu eraill. I rai elusennau, mae’n bwysig fod yr offer yn gweithio ac mewn cyflwr da; fodd bynnag mae gan grwpiau eraill, fel WEEECharity, dechnegwyr sy’n gallu eu hatgyweirio.

Dod o hyd i elusen WEEE

Cofiwch ddileu eich data

Mae’n bwysig eich bod yn dileu’r holl ffeiliau a rhaglenni ar ddisg galed eich dyfais ac yn tynnu eich data personol oddi arni cyn ei phasio ymlaen i rywun neu’n ei hanfon i’w hailgylchu – mae cyngor i’w gael yng nghanllaw Which ar dynnu ffeiliau oddi ar eich dyfais.

Ailgylchu eitem arall

Feindiwch eich ganolfan ailgylchu agosaf

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon