Skip to main content
English
English

Meddyginiaethau

Ailgylchu gartref

Ailgylchu oddi cartref

Ydi, mae’n bosibl ailgylchu meddyginiaethau mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.

Sut i ailgylchu meddyginiaethau

  • Dylid dychwelyd meddyginiaethau heb eu hagor, heb eu defnyddio a rhai heibio’u dyddiad i’r fferyllfa i’w gwaredu;

  • Gellir ailgylchu’r bocs cardbord sy’n dal y pecynnau swigod, ynghyd ag unrhyw ddarnau papur y tu mewn, fel taflenni cyfarwyddiadau;

  • Ni ddylid rhoi anadlyddion yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu gan eu bod yn cynnwys nwyon sy’n niweidiol i’r amgylchedd. Yn hytrach, gellir mynd â nhw i unrhyw fferyllfa i’w hailgylchu;

  • Peidiwch â fflysio meddyginiaethau i lawr y toiled.

Ailgylchu eitem arall

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon