Skip to main content
English
English

Nwyddau Gwyn

Ailgylchu gartref

Ailgylchu oddi cartref

Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Nwyddau Gwyn mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.

Gweld mannau ailgylchu cyfagos

Sut i ailgylchu nwyddau gwyn

  • Os yw eich eitem mewn cyflwr da ac yn gweithio’n iawn o hyd, holwch a yw eich cyngor lleol yn cynnig gwasanaeth ailddefnyddio, neu gallwch ei roi i siop elusen neu fudiad ailddefnyddio dodrefn;

  • Yn aml, bydd manwerthwyr yn casglu eich nwyddau trydanol dieisiau pan fyddan nhw’n danfon eich un newydd – yn enwedig eitemau mwy fel setiau teledu, oergelloedd a rhewgelloedd;

  • Os nad yw eich eitem yn gweithio mwyach, holwch i weld a yw eich cyngor lleol yn cynnig gwasanaeth casglu ar gyfer nwyddau trydanol swmpus, neu ewch â nhw i ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref.

Mae’n dda gwybod

Gallai atgyweiriad syml roi bywyd newydd i eitem gan arbed arian i chi ar yr un pryd. Holwch a allai fod yn hawdd ac yn rhad i arbenigwr atgyweirio eich peiriant neu gallwch chwilio ar-lein am gyfarwyddiadau ar gyfer atgyweiriadau syml. Gallwch hefyd edrych ar wefannau fel www.ifixit.com a www.espares.co.uk.

Ailgylchu eitem arall

Feindiwch eich ganolfan ailgylchu agosaf

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon