Skip to main content
English
English

Deunydd Pacio Plastig Brown

Ailgylchu gartref

Nid yw pob cyngor lleol yn derbyn deunydd pacio plastig brown yn eu casgliadau ailgylchu o’r cartref – mae’n well ichi eu holi nhw’n uniongyrchol.

Mae’n dda gwybod

Pan fo deunydd pacio plastig yn mynd i’w ailgylchu, caiff ei ddidoli yn wahanol fathau o blastigion, a chaiff y rhain wedyn eu rhoi mewn sypiau yn barod i’w hailbrosesu. Defnyddir technoleg laser arbennig i wneud y gwaith didoli hwn. Roedd plastig brown yn arfer bod yn anodd i’r laser ei weld, ac felly nid oedd yn dueddol o gael ei ddidoli ar gyfer ailgylchu.

Fodd bynnag, mae math newydd o blastig brown y gall y laserau hyn eu canfod, ac mae’n bosibl ailgylchu’r rhan fwyaf o ddeunydd pacio plastig brown erbyn hyn.

Ailgylchu eitem arall

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon