Mae ein teclyn Lleolydd Ailgylchu wedi bod yn helpu dinasyddion Cymru fod yn ailgylchwyr gwell trwy roi gwybodaeth am beth y gallant ei ailgylchu ac ymhle.
Darganfod beth y gallwch ei ailgylchu gartref
Trwy roi eich cod post yn ein teclyn Lleolydd Ailgylchu, gallwch ddarganfod yn union beth mae eich cyngor lleol yn ei dderbyn yn eu casgliad ailgylchu – fe wnawn ni hyd yn oed ddweud wrthych chi ym mha fin neu fag i’w roi!
Gallwch hefyd wirio a oes gennych chi gasgliad gwastraff o’r ardd a dod o hyd i fanylion cysylltu eich cyngor lleol, rhag ofn bod gennych ymholiadau am ddyddiau casglu neu i gael biniau yn lle hen rai.
Dod o hyd i’ch lleoliadau ailgylchu agosaf ar gyfer eitemau eraill
Gan nad yw’n bosibl ailgylchu pob deunydd na phob eitem gartref, mae’r Lleolydd Ailgylchu hefyd yn caniatáu ichi ddod o hyd i’ch lleoliadau agosaf ar gyfer ailgylchu unrhyw beth o fagiau plastig i ddillad i wastraff adeiladu.
Bydd y Lleolydd Ailgylchu’n rhoi’r pellter bras o’ch cod post chi i bob un o’ch lleoliadau agosaf, bydd yn rhestru eitemau eraill a dderbynnir ar yr un safle, a bydd yn darparu map.
I gael gwybodaeth fanwl a chynghorion ar sut i ailgylchu eitemau bob dydd ac eitemau anoddach eu hailgylchu, ewch i fwrw golwg ar ein canllaw A–Y ar ailgylchu cannoedd o eitemau.