Skip to main content
English
English
Screengrab from myrecyclingwales.org.uk homepage showing map of Wales with containers and material stream icons along with introductory text: "Where does your recycling go? My Recycling Wales allows you to browse Welsh local authorities and see what happens to your waste across the UK, and even around the world. Learn more"

Sut i Ailgylchu

Beth sy’n digwydd i fy ailgylchu?

Ar y dudalen hon

I ddarganfod beth sy’n digwydd i’ch ailgylchu unwaith y caiff ei gasglu gan eich cyngor lleol, ewch i Fy Ailgylchu Cymru ble gallwch bori drwy gynghorau lleol Cymru a gweld beth sy’n digwydd i’ch ailgylchu ledled y Deyrnas Unedig a hyd yn oed o amgylch y byd.

Ariennir Fy Ailgylchu Cymru gan Lywodraeth Cymru a’r arbenigwyr cynaliadwyedd WRAP Cymru i roi gwybodaeth ichi ynghylch yr hyn sy’n digwydd i’ch ailgylchu. Mae’r safle’n dangos faint o ailgylchu mae eich cyngor lleol yn ei gasglu bob blwyddyn, a’i dynged yn ôl adroddiadau.

Darganfod sut caiff eich ailgylchu ei gasglu, ei ddidoli a’i brosesu.

Casgliad wrth ymyl y ffordd

Mae casgliadau ailgylchu’n amrywio ar draws Cymru. Mae’r ffactorau sy’n dylanwadu ar y gwasanaethau hyn yn cynnwys a yw’r ardal yn drefol neu’n wledig, y gwahanol fathau o gartrefi a’r cyfleusterau sydd ar gael i brosesu eich ailgylchu.

Dyma, yn fras, y tri math o gynllun:

  • 'Cynlluniau didoli wrth ymyl y ffordd, sy’n golygu bod preswylwyr yn didoli eu gwastraff ac yn rhoi eu heitemau ailgylchadwy mewn cynwysyddion ar wahân ar gyfer gwahanol fathau o ddeunyddiau, fel cardbord, papur, caniau a thuniau, poteli a jariau gwydr, a photeli, potiau a thybiau plastig. Caiff y cynwysyddion hyn wedyn eu gwagio gan griwiau casglu i’w hadrannau perthnasol ar y lori casglu ailgylchu wrth ymyl y ffordd;

  • 'Cynlluniau dwy ffrwd, ble caiff cardbord a phapur eu casglu mewn un cynhwysydd, a chaniau a thuniau, poteli a jariau gwydr, a photeli, potiau a thybiau plastig mewn cynhwysydd arall;

  • 'Casgliadau cymysg, sy’n golygu bod deunyddiau ailgylchadwy’n cael eu casglu yn yr un cynhwysydd, ac yn cael eu rhoi mewn un cynhwysydd ar y lori casglu ailgylchu cyn cael ei gludo i Gyfleuster Adennill Deunyddiau (MRF) a’i ddidoli.

Prosesu mewn Cyfleuster Adennill Deunyddiau (Materials Recovery Facility/MRF

Mae cynghorau sy’n cynnal cynlluniau casgliadau cymysg yn cludo eu hailgylchu i MRF. Caiff yr holl ailgylchu cymysg ei ddidoli yno a’u gwahanu yn ôl mathau a graddau deunyddiau, naill ai â llaw neu gan beiriant (neu’r ddau). Mae rhai MRF yn graddio deunyddiau wedyn cânt eu didoli ymhellach cyn cael eu hanfon i ailbroseswyr sy’n cynhyrchu’r cydrannau ar gyfer nwyddau newydd.

Mae peiriannau, prosesau, a’r deunyddiau y mae amrywiol MRF yn ei dderbyn yn amrywio. Unwaith bydd deunyddiau wedi cael eu didoli, ac yn dibynnu ar lefelau halogiad, gall deunyddiau eilgylch ddod yn nwyddau gwerthfawr ar y farchnad fyd-eang.

Mae’r cynghorau hynny sy’n gweithredu casgliadau didoli wrth ymyl y ffordd yn gallu anfon eu deunyddiau i’w hailgylchu yn uniongyrchol at ailbrosesydd a gwireddu gwerth ariannol llawn y deunyddiau y maent yn eu casglu. Fodd bynnag, nid yw hynny’n wir ar gyfer casgliadau cymysg gan fod ffi glwyd/cost prosesu yn daladwy.

Enghraifft o Broses Ddidoli MRF

  • Mae’r gwaith didoli yn dechrau drwy dynnu unrhyw eitemau na ellir eu hailgylchu allan;

  • Mae peiriant sy’n achosi cryndod yn gwahanu’r cardbord a’r papur – mae gwahanol fathau o bapur yn cael eu didoli â llaw a’u bwndelu;

  • Mae’r deunyddiau i’w hailgylchu sy’n weddill yn parhau ar beiriant cludo ble caiff caniau dur eu tynnu allan gan ddefnyddio magnetau;

  • Caiff gwahanol fathau o blastig eu hadnabod a’u gwahanu gan ddefnyddio sganwyr gweledol;

  • Defnyddir math arbennig o fagnet o’r enw ‘cerrynt trolif’ i ddidoli caniau alwminiwm;

  • Gwydr yw’r deunydd sydd dros ben erbyn hyn, a chaiff ei ollwng oddi ar ben draw’r peiriant cludo i mewn i gynhwysydd mawr;

  • Unwaith y byddant wedi’u gwahanu, caiff y deunyddiau i’w cludo i gael eu hailbrosesu mewn ffatrïoedd arbenigol, yn barod i gael eu troi’n nwyddau newydd.

Problemau a achosir gan halogiad

Pan fo eitemau anghywir neu fudr yn cael eu rhoi yn y cynhwysydd ailgylchu, mae’n rhaid eu tynnu allan â llaw, fel arall byddai’n dirywio ansawdd yr ailgylchu, gan effeithio ar y marchnadoedd y gellir gwerthu’r deunydd iddynt. Mae hyn yn arafu’r broses, ac os na chaiff yr eitemau eu dal, gall flocio neu ddifrodi’r peiriannau ac offer arall.

Mae’r deunyddiau a gesglir i’w hailgylchu yn amrywio o ardal i ardal, felly er efallai bod eitem o ddeunydd pacio’n cynnwys cyfarwyddyd sy’n dweud y gellir ei ailgylchu, dylech ei roi allan i’w gasglu dim ond os yw eich cyngor lleol wedi cadarnhau eu bod yn ei dderbyn.

Gwiriwch beth allwch ei roi yn eich cynwysyddion ailgylchu gartref

Nodwch eich cod post i wirio

Beth sy’n digwydd i fy ngwastraff bwyd?

Y peth gorau y gallwn ei wneud â’n bwyd yw ei fwynhau... ond mae rhywfaint o wastraff bwyd yn anorfod, fel plisg wyau, crwyn bananas, esgyrn cig a physgod a bagiau te.

Mae’n bwysig inni oll ailgylchu ein gwastraff bwyd. Mae holl gynghorau Cymru’n casglu gwastraff bwyd yn wythnosol, ac mae’r gwasanaeth hwn ar gael i fwy na 99% o boblogaeth Cymru erbyn hyn.

Treulio anaerobig

Os nad ydych yn ailgylchu eich gwastraff bwyd, caiff ei botensial ei golli am byth. Er mwyn osgoi hyn, mae holl gynghorau lleol Cymru’n casglu gwastraff bwyd bob wythnos. Wedi i’n gwastraff bwyd gael ei gasglu, caiff ei drin fel arfer gan ddefnyddio proses a elwir yn ‘dreulio anaerobig’. Mae’r broses hon yn defnyddio micro-organebau o’r enw ‘methanogenau’ i dorri gwastraff bwyd i lawr mewn tanc caeedig, ynghyd â thail anifeiliaid fferm a chnydau ynni. Wrth iddo dorri i lawr, mae’n cynhyrchu bio-nwy, a gaiff ei gasglu a’i ddefnyddio i gynhyrchu ynni gwyrdd yn cynnwys trydan, gwres a thanwydd cerbydau. Mae hefyd yn creu biowrtaith y gellir ei ddefnyddio mewn amaeth ac ar gyfer adfywio tir.

Cynnwys cysylltiedig

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon