Skip to main content
English
English
Casgliad o mathau gwahanol o gwastraff bwyd

Sut i Ailgylchu

Sut i ailgylchu gwastraff bwyd

Ar y dudalen hon

Pam mae’n bwysig ailgylchu gwastraff bwyd?

Mae ailgylchu eich gwastraff bwyd yn well i’r amgylchedd, dim ots pa mor fach yw’r symiau sydd gennych i’w rhoi yn eich cadi. Os nad ydych yn ailgylchu eich gwastraff bwyd, caiff ei botensial ei golli am byth. Er mwyn osgoi hyn, mae holl gynghorau Cymru’n casglu gwastraff bwyd bob wythnos. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn ailgylchu ein gwastraff bwyd gan ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, felly mae’n bwysig ailgylchu eich gwastraff bwyd bob wythnos.

Mae llawer o ffydd y gellir defnyddio gwastraff bwyd sy’n cael ei ailgylchu. Gellir ei droi’n wrteithiau ar gyfer amaeth neu ei droi’n ffurfiau ynni naturiol sy’n ddewis amgen da i danwydd ffosil.

Mae mwy a mwy o bobl yn ailgylchu eu gwastraff bwyd. Pe bydden ni oll yn rhoi’r gorau i wastraffu bwyd a ellid bod wedi’i fwyta, byddai ganddo’r un effaith CO2 â thynnu 1 o bob 4 car oddi ar ffyrdd y Deyrnas Unedig.

Beth sy’n cael mynd i’ch cadi gwastraff bwyd?

  • Eich holl fwyd na chafodd ei fwyta a chrafion oddi ar y plât;

  • Bwyd heibio ei ddyddiad neu wedi llwydo;

  • Cig neu bysgod amrwd ac wedi’i goginio, yn cynnwys esgyrn;

  • Ffrwythau a llysiau yn cynnwys llysiau amrwd ac wedi’u coginio a chrwyn;

  • Nwyddau pob fel bara, teisennau a phasteiod;

  • Nwyddau llaeth, wyau a phlisg wyau;

  • Hen fagiau te a gwaddodion coffi;

  • Bwyd anifeiliaid anwes;

  • Reis, pasta a ffa.

Beth na ddylid ei roi yn eich cadi gwastraff bwyd?

  • Pethau nad ydynt yn fwyd, yn cynnwys cewynnau;

  • Deunydd pacio o unrhyw fath;

  • Unrhyw ddeunydd nad yw’n wastraff bwyd;

  • Gall hylifau fel llaeth neu olew ollwng neu arllwys wrth gludo gwastraff bwyd. Ni ddylid rhoi llaeth yn eich cadi gwastraff bwyd. Gellir rhoi ychydig bach o olew yn eich cadi gwastraff bwyd os oes digon o wastraff bwyd ynddo i’w amsugno.

Gallwch ddarganfod mwy am y canlynol ar wefan eich cyngor:

  • Pa ddiwrnod y cesglir eich gwastraff bwyd bob wythnos;

  • Pa eitemau y dylech eu rhoi yn eich cadi gwastraff bwyd;

  • Sut i archebu cadi gwastraff bwyd newydd;

  • Darganfod a yw bagiau leinio cadis ar gael am ddim yn eich ardal chi ai peidio.

Beth sy’n digwydd i fy ngwastraff bwyd?

Mae bwyd a gaiff ei wastraffu’n cael effaith fawr ar newid hinsawdd, a dyn pam mae mwy a mwy ohonom yn ailgylchu ein gwastraff bwyd. Y peth gorau y gallwn ei wneud â’n bwyd yw ei fwynhau... ond mae rhywfaint o wastraff bwyd yn anorfod, fel plisg wyau, crwyn bananas, esgyrn cig a physgod a bagiau te.

Mae’n bwysig inni oll ailgylchu ein gwastraff bwyd. Mae holl gynghorau Cymru’n casglu gwastraff bwyd yn wythnosol, ac mae’r gwasanaeth hwn ar gael i 99% o boblogaeth Cymru erbyn hyn.

Treulio anaerobig

Wedi i’n gwastraff bwyd gael ei gasglu, caiff ei drin gan ddefnyddio proses a elwir yn ‘dreulio anaerobig’.

Mae’r broses hon yn defnyddio micro-organebau o’r enw ‘methanogenau’ i dorri gwastraff bwyd i lawr mewn tanc caeedig, ynghyd â thail anifeiliaid fferm a chnydau ynni. Wrth iddo dorri i lawr, mae’n cynhyrchu bio-nwy, a gaiff ei gasglu a’i ddefnyddio i gynhyrchu ynni gwyrdd yn cynnwys trydan, gwres a thanwydd cerbydau. Mae hefyd yn creu biowrtaith y gellir ei ddefnyddio mewn amaeth ac ar gyfer adfywio tir.

Mae defnyddio ein gwastraff bwyd i gynhyrchu’r ynni gwyrdd hwn yn lleihau’r angen inni ddefnyddio tanwydd ffosil, sy’n niweidiol i’n bywyd gwyllt, ein hiechyd a’n hamgylchedd, a chaiff ei ddisodli gyda’r dewis amgen cynaliadwy hwn sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd. Mae’n lanach na phrosesau cynhyrchu ynni eraill hefyd, sy’n golygu ei fod yn creu llai o nwyon tŷ gwydr.

Mae’n dda gwybod

Mae’r teulu cyfartalog yn taflu gwerth tua £720 o siopa bwyd bob blwyddyn – swm cyfatebol â bil cyfleustodau arferol. Mae compostio gartref yn ffordd wych o ailgylchu eitemau gwastraff bwyd fel crwyn llysiau a ffrwythau, bagiau te a phlisg wyau, a bydd ein gerddi’n ddiolchgar iawn inni.

Darganfod mwy am sefydlu compostio gartref

Cynnwys cysylltiedig

  • Sut i sefydlu compostio gartref

    Sut i Ailgylchu

    Sut i sefydlu compostio gartref

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon