Skip to main content
English
English

Canllawiau cymunedol

Mae ein gwefan a’n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn lleoedd i drafod a rhannu awgrymiadau ac ysbrydoliaeth i’n helpu ni gyd ailgylchu fwy o bethau, yn amlach, o ar draws y cartref.

Wrth gymryd rhan yng nghymuned ar-lein Ailgylchu dros Gymru, p’un a yw hynny trwy adael sylwadau a chynnwys ar ein gwefan neu ymuno â’r sgwrs ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, rydym yn gofyn i bawb ddilyn ein canllawiau cymunedol.

Mae’r canllawiau hyn yn cwmpasu cynnwys sy’n cael ei rannu gan ddefnyddwyr ar https://cymruynailgylchu.org.uk/, a phostiau ar gyfrifon Twitter, Facebook, Instagram a YouTube Cymru yn Ailgylchu. Lluniwyd y canllawiau hyn er mwyn darparu amgylchedd o ansawdd da i bawb sy’n cyfrannu yn ein cymuned ar-lein.

A fyddech cystal â chymryd munud i’w darllen, a’u hystyried pan fyddwch yn postio neu’n cyfrannu.

  • Cofiwch: Sicrhau eich bod yn dilyn Telerau Defnyddio y llwyfan cyfryngau cymdeithasol;

  • Cofiwch: Barchu pobl eraill sy’n cyfrannu at y drafodaeth;

  • Cofiwch: Gadw at y pwnc dan sylw;

  • Peidiwch â: Rhannu gwybodaeth gyswllt bersonol, a all fod yn berthnasol i chi neu unigolion eraill;

  • Peidiwch â: Phostio cynnwys sydd yn amlwg yn hyrwyddo neu ardystio gweithgarwch masnachol.

Byddwn yn dileu unrhyw sylwadau sy’n cael eu rhannu ar ein gwefan neu sianeli cyfryngau cymdeithasol nad ydynt yn bodloni ein canllawiau cymunedol, neu rai sy’n:

  • Sarhaus neu anweddus;

  • Twyllodrus neu gamarweiniol;

  • Mynd yn groes i unrhyw hawliau eiddo deallusol;

  • Torri unrhyw gyfraith neu reoliad;

  • Sbam.

Rydym yn cadw’r hawl i wahardd a/neu hysbysu’r awdurdodau o ddefnyddwyr ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol sy’n gadael sylwadau sydd yn ein barn ni yn mynd yn groes i’r canllawiau hyn, neu ganllawiau’r llwyfan cyfryngau cymdeithasol.

Byddwn yn dileu ac yn adrodd ar unrhyw broffiliau cyfryngau cymdeithasol a grëir gan ddefnyddio delweddau a logos Ailgylchu dros Gymru heb ganiatâd.

Argaeledd ac ymateb i negeseuon

Byddwn yn diweddaru ac yn monitro ein gwefan a’n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn ystod oriau swyddfa, Llun i Gwener. Weithiau, gallwn hefyd osod diweddariadau wedi’u trefnu gyda’r nos ac ar benwythnosau.

Er ein bod yn gwerthfawrogi eich adborth a’ch cyfraniadau, ac y byddwn yn ceisio ymateb pa bryd bynnag y gallwn, nid ydym yn gallu ateb yn unigol i’r holl negeseuon a dderbyniwn drwy ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

Dolenni at wefannau eraill

Ar wefan a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol Ailgylchu dros Gymru, efallai y cynhwyswn ddolenni at sefydliadau ac unigolion eraill.

Rydym yn dilyn canllawiau penodol wrth benderfynu pa ddolenni i’w rhannu.

Rydym ni ond yn cysylltu â sefydliadau ac unigolion sy’n cynorthwyo ein nodau i helpu cwsmeriaid yn y DU leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu.

Ni fyddwn yn rhannu dolenni lle mai’r prif ddiben yw hyrwyddo neu gefnogi gweithgarwch masnachol.

Lle bo modd, rydym yn darparu nifer o enghreifftiau o sefydliadau sy’n gallu helpu, er mwyn darparu dewis.

Cadwn yr hawl i benderfynu peidio â chysylltu â sefydliadau eraill. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni allwn drafod pam y mae cais am ddolen wedi’i wrthod.

Nodwch nad yw WRAP (y sefydliad sy’n rhedeg ymgyrch Cymru yn Ailgylchu) yn gyfrifol am gynnwys neu ddibynadwyedd gwefannau cysylltiedig ac nid yw o reidrwydd yn cefnogi’r barnau a fynegir ynddynt. Ni ellir ystyried rhestru yn gefnogaeth o unrhyw fath.