Skip to main content
English
English
Bocs plastig gyda pteli a jariau gwydr

Amdanom Ni

Cwestiynau cyffredin

Ar y dudalen hon

Oes gennych chi ymholiad ailgylchu? Efallai bydd yr atebion i’r cwestiynau cyffredin isod o gymorth.

Sut gallaf i ddarganfod beth y caf roi yn fy nghynwysyddion ailgylchu gartref?

I weld rhestr o ddeunyddiau y mae eich cyngor lleol yn eu casglu fel rhan o’i gynllun ailgylchu – fel gwydr, papur, cardbord, caniau, plastigion ac ati – rhowch eich cod post yn ein teclyn Lleolydd Ailgylchu. Bydd hefyd yn dweud wrthych ym mha fag, bin, bocs, cadi neu sach y dylech roi pob eitem.

Mae’r wybodaeth am fy nghynllun casgliadau wrth ymyl y ffordd yn y teclyn Lleolydd Ailgylchu’n anghywir, sut gallaf i adael ichi wybod am hyn?

Cwblhewch ein ffurflen ar-lein ar ein tudalen ‘Cysylltu â Ni’ i gyflwyno eich cais i ddiweddaru manylion eich cynllun casgliadau wrth ymyl y ffordd.

Nid yw fy ailgylchu a fy ngwastraff na ellir ei ailgylchu wedi cael ei gasglu, beth ddylwn ei wneud?

Bydd angen ichi adael i’ch cyngor lleol wybod am hyn. Gallwch ddod o hyd i fanylion cysylltu eich cyngor drwy roi eich cod post yn ein teclyn Lleolydd Ailgylchu.

Hoffwn ddarganfod sut i ailgylchu eitem benodol, sut allaf i wneud hyn?

Mae ein tudalennau gwe ‘ailgylchu eitem’ yn trafod amrywiaeth eang o eitemau ac yn rhoi manylion ichi ynghylch a allwch eu hailgylchu gartref ynteu mewn mannau danfon oddi cartref.

Mae’r wybodaeth am Ganolfan Ailgylchu neu ‘fanc danfon’ ar y teclyn Lleolydd Ailgylchu’n anghywir, sut gallaf i adael ichi wybod am hyn?

Caiff y data ar gyfer Canolfannau Ailgylchu a ‘banciau danfon’ ei ddarparu gan gynghorau lleol i sefydliad o’r enw Valpak – darparwr gwasanaethau cydymffurfiaeth amgylcheddol, data a rheoli adnoddau – a gaiff wedyn ei wthio i mewn i’n teclyn Lleolydd Ailgylchu.

Os byddwch yn dod ar draws gwybodaeth anghywir am Ganolfan Ailgylchu neu ‘fanc danfon’, anfonwch ebost at [email protected], os gwelwch yn dda.

Sut gallaf ailgylchu eitem swmpus na allaf ei chludo fy hun?

Mae’n bosibl y bydd eich cyngor lleol yn gallu trefnu casgliad gwastraff swmpus ichi. Fel arall, gallwch ddod o hyd i fanylion cysylltu eich cyngor drwy roi eich cod post yn ein teclyn Lleolydd Ailgylchu.

Gall eitemau swmpus gynnwys:

  • Gwelyau a matresi;

  • Soffas a switiau dodrefn;

  • Byrddau a chadeiriau;

  • Wardrobau;

  • Ffyrnau a pheiriannau golchi llestri;

  • Oergelloedd/rhewgelloedd, peiriannau golchi a pheiriannau sychu dillad;

  • Carpedi ac isgarpedi.

A allaf ychwanegu eich teclyn Lleolydd Ailgylchu i fy ngwefan?

Mae’r teclyn Lleolydd Ailgylchu ar gael i drydydd partïon ei ychwanegu at eu gwefan. Gellir plannu’r teclyn ar un neu fwy o dudalennau gan ddefnyddio darn syml o god.

I ddarganfod mwy neu i wneud cais i ddefnyddio’r teclyn, anfonwch ebost at [email protected], os gwelwch yn dda.

Sut gallaf i ychwanegu fy sefydliad fel lleoliad ar y Lleolydd Ailgylchu?

Gallwn dderbyn ceisiadau gan sefydliadau sydd â lleoliadau ailgylchu neu ailddefnyddio sydd ar agor i’r cyhoedd. Am fwy o wybodaeth, anfonwch ebost at [email protected], os gwelwch yn dda.

Rwy’n gweithio i gyngor lleol, ac mae angen inni ddiweddaru ein gwybodaeth am gasgliadau wrth ymyl y ffordd; sut mae mynd o’i chwmpas hi?

Mae cynghorau lleol yn diweddaru’r wybodaeth am eu casgliadau wrth ymyl y ffordd bob blwyddyn gan ddefnyddio system o’r enw Local Authority Recycling Scheme Updater (LARSU), sydd wedyn yn gwthio’r wybodaeth i mewn i’n teclyn Lleolydd Ailgylchu. Yn ychwanegol at yr adolygiad blynyddol hwn, caiff cynghorau lleol ddiweddaru’r data am eu cynllun ar unrhyw adeg i adlewyrchu newidiadau i’w gwasanaethau. Mae gan bob cyngor unigolyn wedi’i enwi sy’n gyfrifol am ddiweddaru data eu cynllun yn y system LARSU. Os nad ydych yn siŵr pwy yw eich person cyswllt chi, anfonwch ebost at [email protected], os gwelwch yn dda.

Fel arall, gallwch gwblhau ein ffurflen ar-lein ar ein tudalen ‘Cysylltu â ni’ i gyflwyno eich cais i ddiweddaru manylion eich cynllun casgliadau wrth ymyl y ffordd.

Sut dylwn i gael gwared ar jariau canhwyllau?

Gallwch roi jariau gwydr sy’n hen neu’n wag a oedd yn arfer dal cannwyll yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu, nid gyda’ch poteli a jariau gwydr i’w hailgylchu. Mae’r math o wydr a ddefnyddir ar gyfer canhwyllau fel Yankee Candles angen cael ei doddi ar dymheredd llawer uwch na thymheredd ailgylchu poteli a jariau gwydr cyffredin, fel y rhai a ddefnyddir ar gyfer bwyd a diod. Mae hyn yn golygu na ellir prosesu gwydr dal canhwyllau gyda’ch poteli a jariau gwydr.

Lapiwch y rhain yn ddiogel mewn hen bapur newydd neu bapur cegin, neu eu bagio’n ddwbl, i sicrhau na chaiff ein criwiau casglu eu brifo wrth eu casglu.

Sut dylwn i gael gwared ar eitemau ceramig?

Ni ellir ailgylchu eitemau ceramig fel powlenni, cwpanau, jygiau, platiau a fasau yn yr un modd â photeli a jariau gwydr arferol, fel y rhai a ddefnyddir ar gyfer bwyd a diodydd. Os bydd arnoch angen cael gwared ag unrhyw eitemau ceramig sydd wedi malu, rhowch nhw yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu. Lapiwch y rhain yn ddiogel mewn hen bapur newydd neu bapur cegin, neu eu bagio’n ddwbl, i sicrhau na chaiff ein criwiau casglu eu brifo wrth eu casglu. Mae’n bosibl y gallwch hefyd fynd ag eitemau ceramig wedi malu i’ch canolfan ailgylchu leol.

Os nad yw eich eitemau ceramig wedi torri, a’ch bod am gael gwared arnynt am nad oes eu hangen neu eu heisiau arnoch mwyach, gallwch fynd â nhw i siop elusen i bobl eraill gael cyfle i’w defnyddio.

Sut dylwn i gael gwared â chambrenni dillad?

Os oes gennych chi gambrenni dillad neu gotiau wedi torri, p’un ai rhai metel, plastig ynteu bren ydyn nhw, ewch â nhw i’ch canolfan ailgylchu leol.

Os oes gennych gambrenni dillad nad oes eu hangen arnoch mwyach, a’u bod mewn cyflwr da, yna:

  • gofynnwch i’ch teulu a ffrindiau a oes eu heisiau arnynt;

  • rhestrwch nhw ar wefan neu grŵp ar y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer eitemau am ddim;

  • cysylltwch â’ch siop elusen leol rhag ofn eu bod yn eu derbyn; neu

  • ceisiwch eu dychwelyd i’r siop ble gwnaethoch brynu’r dilledyn, efallai y gallant eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu.

Gall fod yn anodd cael gafael ar gambrenni dillad ar gyfer plant bach, felly mae’n bosibl y gwelwch fod galw amdanynt ar grwpiau rhiant a babanod ar-lein.

Sut dylwn i gael gwared ar lestri coginio gwydr?

Ni ellir ailgylchu llestri coginio gwydr, fel Pyrex, ar hyn o bryd. Er mai math o wydr yw llestri coginio Pyrex, mae wedi cael ei drin yn arbennig yn ystod y broses o’i gynhyrchu i wrthsefyll tymereddau uchel, sy’n golygu na ellir ei ailgylchu.

Os oes gennych chi lestri coginio Pyrex i gael gwared arnynt, peidiwch â’i roi allan i’w ailgylchu gyda’ch poteli a jariau gwydr. Lapiwch y rhain yn ddiogel mewn hen bapur newydd neu bapur cegin, neu eu bagio’n ddwbl, i sicrhau na chaiff ein criwiau casglu eu brifo wrth eu casglu. Gallwch ei roi yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu. Hefyd, cewch fynd â llestri coginio gwydr sydd wedi torri neu falu i’ch canolfan ailgylchu leol.

Os nad yw eich llestri coginio gwydr wedi torri, ond nad oes ei angen neu eisiau arnoch mwyach, ystyriwch fynd â’r llestri i siop elusen leol i bobl eraill gael cyfle i’w ddefnyddio.

Sut dylwn i gael gwared ar wydrau yfed gwydr?

Rhowch unrhyw wydrau yfed sydd wedi torri yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu, gan gofio eu lapio’n ddiogel yn gyntaf. Gallwch ddefnyddio hen bapur newydd neu bapur cegin, neu eu bagio’n ddwbl, i sicrhau na chaiff ein criwiau casglu eu brifo wrth eu casglu. Ni ellir ailgylchu rhai gwydrau yfed gan ddefnyddio’r un broses a ddefnyddir ar gyfer poteli a jariau gwydr cyffredin, sy’n golygu na ellir eu casglu i’w hailgylchu gyda’i gilydd.

Os oes gennych chi wydrau yfed sydd mewn cyflwr da, heb dorri, ac nad oes eu heisiau arnoch mwyach, gallwch fynd â nhw i siop elusen leol i bobl eraill gael cyfle i’w defnyddio.

Sut dylwn i gael gwared ar wydr fflat fel cwareli ffenestri?

Os bydd arnoch angen cael gwared ar unrhyw wydr fflat, fel cwareli ffenestri, ewch ag ef i’ch canolfan ailgylchu leol. Mae gwydr fflat yn debygol iawn o gynnwys eitemau na ellir eu hailgylchu. Ac efallai bydd yr eitemau gwydr fflat hynny y gellir eu hailgylchu angen cael eu toddi ar dymheredd gwahanol i boteli a jariau gwydr, fel y rhai mae eich cyngor lleol yn eu casglu o’ch cartref.

Yn aml iawn, mae eitemau gwydr fflat wedi’u trin gyda chemegau neu haenau, ac mae llawer o fathau o wydr sgrin wynt yn cynnwys elfennau cynhesu, ac mae angen trin y rhain gan ddefnyddio prosesau gwaredu penodol.

A ellir ailgylchu pecynnau (codenni) ffoil sy’n dal bwyd a diod?

Dylech gael gwared ar unrhyw becynnau ffoil sy’n dal bwyd a diod drwy eu rhoi yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu. Mae’r codenni hyn yn cynnwys pecynnau bwyd a diod fel coffi, bwyd babanod, reis microdon a bwyd anifeiliaid anwes. Cânt eu gwneud o gymysgedd o wahanol ddeunyddiau, a all gynnwys metel alwminiwm, ffibrau a phlastigion, sy’n eu gwneud yn anodd eu hailgylchu ar hyn o bryd.

A ellir ailgylchu caeadau plastig ystwyth?

Tynnwch unrhyw gaeadau plastig ystwyth oddi ar eitemau fel prydau parod a rhowch nhw yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu. Ni ellir ailgylchu’r deunydd tenau hwn yn yr un modd â’ch poteli, tybiau a photiau plastig, a gaiff eu casglu o’ch cartref gan eich cyngor lleol fel rhan o’n gwasanaeth casglu ailgylchu wythnosol.

Mae’r un peth yn wir am unrhyw blastigion tenau eraill y gallech fod angen cael gwared arnynt, fel haenen lynu blastig, deunyddiau lapio bwyd o blastig ystwyth, bagiau llysiau rhewgell plastig a bagiau plastig.

Rhowch y rhain oll yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.

A yw’n bosibl ailgylchu teganau plastig?

Mae teganau plastig wedi’u gwneud o ddeunydd a elwir yn ‘blastig caled’, ac ni ellir ei ailgylchu yn yr un modd â’ch poteli, tybiau a photiau plastig, a gaiff eu casglu o’ch cartref gan eich cyngor lleol fel rhan o’n gwasanaeth casglu ailgylchu wythnosol. Ewch ag unrhyw deganau neu gemau plastig sydd wedi malu i’ch canolfan ailgylchu leol.

Os oes gennych unrhyw deganau neu gemau plastig sydd mewn cyflwr da, gallech eu rhoi i siop elusen neu i grŵp cymunedol lleol. Os yw eich teganau a gemau plastig y tu hwnt i’w trwsio, efallai y gellir ailgylchu rhai o’r darnau os byddwch wedi’u datgymalu. Mae hyn yn cynnwys batris a phecynnau batris o ddyfeisiau rheoli o bell, a dylid tynnu’r rhain a’u hailgylchu.

Holwch eich cyngor lleol sut gallwch ailgylchu batris yn eich ardal chi.

A ellir ailgylchu tiwbiau past dannedd?

Rhowch eich tiwbiau past dannedd gwag yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu. Maen tiwbiau past dannedd yn aml wedi’u gwneud o wahanol fathau o blastig, ynghyd â haenen fetel, sy’n eu gwneud yn anodd eu hailgylchu ar hyn o bryd.

Sut gallaf ailgylchu papur brown?

Mae llawer ohonom yn derbyn danfoniadau archebion oddi ar y we mewn deunydd pacio papur brown neu ddanfoniadau tecawê a bwyd mewn bagiau papur brown. Weithiau, daw ein siopa bwyd hefyd mewn bagiau papur brown, fel madarch, bara a phasteiod.

Rhowch yr holl bapur brown hwn yn eich cynhwysydd ailgylchu ar gyfer ‘cardbord’, nid ‘papur’, oni bai fod bwyd neu saim wedi halogi’r papur. Os felly, rhowch y papur brown budr hwn yn eich bin du neu fagiau duon ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.

Pam mae papur brown yn cael ei ailgylchu gyda chardbord?

Os caiff papur brown ei ailgylchu gyda phapur gwyn, bydd unrhyw bapur newydd a gaiff ei wneud o’r deunydd eilgylch hwn yn cynnwys marciau brown. Fodd bynnag, mae cardbord yn mynd drwy broses ailgylchu llawer mwy gwydn gan nad yw’n ceisio cynhyrchu deunydd glân, gwyn pur, fel papur gwyn. Bydd cardbord sy’n cael ei wneud o bapur brown eilgylch a chardbord eilgylch arall yn cynnwys brychni brown drwyddo, ac mae hynny’n iawn. Bydd y cardbord eilgylch hwn yn cael ei ddefnyddio i greu nwyddau newydd fel bocsys cardbord a chartonau wyau.

Rhowch yr holl bapur brown hwn yn eich cynhwysydd ailgylchu ar gyfer ‘cardbord’, nid ‘papur’, oni bai fod bwyd neu saim wedi halogi’r papur. Os felly, rhowch y papur brown budr hwn yn eich bin du neu fagiau duon ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon