Skip to main content
English
English

Telerau ac Amodau

Wrth ddefnyddio’r Safle hwn, rydych chi’n cydsynio â’r Telerau ac Amodau hyn. Os nad ydych yn cytuno â’r Telerau ac Amodau, peidiwch â defnyddio’r Safle hwn os gwelwch yn dda.

Mae’r Telerau ac Amodau hyn hefyd yn cynnwys Ymwadiad E-bost WRAP.

1. Telerau Cymwys

1.1 Mae eich defnydd o’r Safle hwn hon yn brawf eich bod yn derbyn y telerau ac amodau hyn, sy’n dod i rym gynted ag y defnyddiwch y wefan am y tro cyntaf. Mae gan WRAP yr hawl i newid y telerau a’r amodau hyn unrhyw bryd drwy bostio unrhyw newidiadau ar-lein.

1.2 Mae’n gyfrifoldeb arnoch i adolygu’r wybodaeth a bostir ar-lein yn gyson, er mwyn cael eich hysbysu am newidiadau o’r fath. Os byddwch yn dal i ddefnyddio’r safle ar ôl i newidiadau gael eu postio ar-lein bydd hyn yn dangos eich bod yn derbyn y newidiadau a bostiwyd.

1.3 Os oes gwrthdaro rhwng y Telerau ac Amodau hyn a/neu dermau penodol mewn perthynas â deunydd penodol sy’n ymddangos mewn rhannau eraill o’r safle, yr olaf fydd uchaf.

2. Cyfyngiadau ar Ddefnyddio Deunydd

2.1 Rhaglen Gweithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau, cwmni preifat cyfyngedig drwy warant wedi ei gofrestru yn Lloegr gyda’r rhif 4125764 ac sydd â’i swyddfa gofrestredig yn The Old Academy, 21 Horse Fair, Banbury, Oxfordshire, OX16 0AH ("WRAP") sy’n berchen ar ac yn gweithredu’r safle hwn (“Y Safle”).

2.2 Oni nodir yn wahanol mae’r cynnwys yn cynnwys enwau, delweddau a logos sy’n nodi WRAP a’i gynnyrch a gwasanaethau yn eiddo i WRAP ac fe’u diogelir, heb gyfyngiad, gan ddeddfau hawlfraint a nod masnach ac ni ellir eu hailgynhyrchu na’u hailgyhoeddi.

2.3 Yn amodol wastad ar 1.3 gellir copïo neu lawrlwytho at eich defnydd eich hun ddeunyddiau a gynhyrchir ar y Safle hwn gan WRAP (sydd, er eglurder, ddim yn cynnwys deunyddiau ar wefannau y dolennir iddynt neu rai trydydd partïon), cyn belled â’ch bod:

2.3.1 yn rhoi'r datganiad canlynol wrth bob deunydd o’r fath “Mae’r deunydd hwn wedi ei atgynhyrchu o wefan www.wrap.org.uk <http://www.wrap.org.uk> o’r Rhaglen Gweithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau;

2.3.2 yn cytuno i beidio ag addasu, newid neu greu gwaith sy’n ei efelychu o unrhyw ddeunydd o’r Safle. 2.4 Os ydych yn lawrlwytho meddalwedd o’r Safle yn unol â 2.3, mae’r feddalwedd yn cynnwys unrhyw ffeiliau, delweddau a ymgorfforir yn neu a gynhyrchir gan y feddalwedd ac unrhyw ddata sydd gyda’r feddalwedd (gyda’i gilydd, y “Feddalwedd”) yn cael eu trwyddedu i chi gan WRAP. Nid yw WRAP yn trosglwyddo Hawl y Feddalwedd i chi. Chi sy’n berchen ar y cyfrwng y recordir y Feddalwedd arno, ond mae WRAP, neu eraill, yn cadw hawl gyflawn a llawn dros y Feddalwedd a’r holl eiddo deallusol o’i mewn. Nid oes gennych hawl i ailddosbarthu, gwerthu, dat-grynhoi, gwrthdroi peirianneg y feddalwedd na’i datgymalu.

3. Atebolrwydd

3.1 Nid yw WRAP yn gwarantu y bydd yr hyn a gynhwysir yn y deunydd ar y Safle yn gweithredu heb nam a heb iddo gael ei dorri ar ei draws, y bydd namau yn cael eu cywiro, a bod y Safle neu’r gweinydd sy’n ei greu yn rhydd o firysau neu fygiau nac yn gwarantu cywirdeb, dibynadwyedd na chyflwr gweithiol y deunyddiau.

3.2 Darperir y Safle hwn a'r wybodaeth, enwau, delweddau, lluniau, logos ac eiconau ynghylch neu yn ymwneud â WRAP, ei gynnyrch a'i wasanaethau (neu gynnyrch a gwasanaethau trydydd parti) "FEL Y MAE" ac ar sail "FEL Y BO AR GAEL" heb unrhyw achos na chymeradwyaeth iddo a heb warant o unrhyw fath wedi ei fynegi neu ei awgrymu, yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i warantau goblygedig ynghylch ansawdd ddigonol, addasrwydd at ddefnydd, camddefnyddio hawlfraint, cyfaddasrwydd, diogelwch a chywirdeb.

3.3 Tra bo WRAP yn gwneud pob ymdrech i warantu cywirdeb gwybodaeth o fewn y Safle hwn, nid yw'n derbyn atebolrwydd dros gamgymeriadau ac ar eu risg eu hunain y mae ymwelwyr â'r Safle yn dibynnu ar y wybodaeth.

3.4 Nid yw WRAP yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd gwefannau y mae'n dolennu iddyn nhw ac nid yw o anghenraid yn cymeradwyo'r farn a fynegir ynddyn nhw. Nid yw rhestru i'w ystyried fel cymeradwyaeth mewn unrhyw ffordd.

3.5 Ni fydd unrhyw beth yn y telerau ac amodau hyn yn gweithredu fel neu'n cael eu dehongli fel rhai sy'n eithrio neu gyfyngu ar:

3.5.1 unrhyw warant neu amod statudol yn eich rôl fel "defnyddiwr" fel a ddiffinnir yn adran 12 deddf telerau contract annheg 1977. Mewn achos o'r fath, nid effeithir ar eich hawliau statudol; neu

3.5.2 atebolrwydd WRAP dros farwolaeth neu niwed personol a achosir drwy esgeulustod WRAP neu rai sy'n gweithio drosto neu iddo.

3.6 Heblaw am fel a ddisgrifir yn 3.5, ni fydd WRAP mewn unrhyw amgylchiadau yn atebol am unrhyw niwed yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i, niwed anuniongyrchol neu ganlyniadol, neu unrhyw niwed yn sgil defnydd neu golli defnydd data, neu elw, boed mewn gweithred neu ar gontract, esgeulustod neu weithred gamweddus arall, yn sgil neu mewn perthynas â defnydd o'r Safle.

3.7 Ni fydd cyfanswm ateblorwydd WRAP i chi am niwed, colledion ac achosion gweithredoedd (boed mewn contract neu beidio (yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i esgeulustod) neu arall) yn fwy na'r hyn a dalwyd gennych chi, os o gwbl, am fynediad i'r Safle.

4. Eich Cyfraniadau

4.1 Pan wahoddir chi i gyflwyno cyfraniadau i'r Safle (yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i destun, graffeg, fideo neu sain) mae'n rhaid i chi, drwy gyflwyno, roi hawl a thrwydded barhaol, heb freindal, heb fod yn ecsgliwif, y gellir ei is-drwyddedu i ddefnyddio, atgynhyrchu, addasu, cyhoeddi, cyfieithu, efelychu, dosbarthu, perfformio, chwarae ac ymarfer pob hawlfraint a hawliau cyhoeddusrwydd mewn perthynas ag unrhyw waith o'r fath drwy'r byd ac/neu ei ymgorffori mewn gwaith arall mewn unrhyw gyfrwng y gwyddir amdano ar hyn o bryd neu a ddatblygir yn y dyfodol am gyfnod llawn unrhyw hawliau a allai fodoli yn y cyd-destun, yn unol â chyfyngiadau cyfrinachedd a eglurir ym Mholisi Preifatrwydd WRAP. Os nad ydych am roi hawliau o'r fath i WRAP, awgrymir nad ydych yn cyflwyno eich cyfraniad i'r Safle hwn.

4.2 Drwy gyflwyno cyfraniadau i’r Safle hwn rydych hefyd yn:

4.2.1 gwarantu bod eich cyfraniad yn waith gwreiddiol gennych chi a bod gennych yr hawl i'w ryddhau i WRAP at yr holl ddibenion a grybwyllir uchod; ac yn

4.2.2 indemnio WRAP yn erbyn pob ffi gyfreithiol, iawndal a chostau eraill a allai fod gan WRAP o ganlyniad i chi dorri'r warant uchod; ac yn

4.2.3 cytuno i ollwng unrhyw hawliau moesol i'ch cyfraniad at ddibenion ei gyflwyno a'i gyhoeddi ar y Safle hwn a'r dibenion eraill a grybwyllir uchod; ac yn

4.2.4 cydnabod a chytuno y gallai gael ei gopïo a'i lawrlwytho gan ddefnyddwyr yn unol â 2.3.

5. Defnyddio'r Safle

Rydych yn cytuno i ddefnyddio'r Safle hwn at ddibenion cyfreithlon yn unig, ac mewn ffordd nad yw'n torri ar hawliau neu'n cyfyngu neu lesteirio defnydd gan unrhyw drydydd parti arall o'r Safle na'u mwynhad ohono. Mae cyfyngiadau o'r fath, neu lestair, yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ymddygiad sy'n anghyfreithiol, neu a allai fod yn niwsans neu'n achosi gofid neu anghyfleustra i unrhyw berson a throsglwyddo cynnwys aflednais neu dramgwyddus neu effeithio'n andwyol ar lif normal deialog o fewn y Safle.

6. Dirwyn i Ben

6.1 Mae'r Cytundeb hwn mewn grym tan i'r naill barti neu'r llall ei ddiddymu.

6.2 Gallwch ddirwyn y Cytundeb hwn i ben ar unrhyw adeg drwy ddinistrio'r holl ddeunyddiau a gafwyd o'r Safle a phob dogfennaeth gysylltiol a phob copi neu gyfran boed wedi eu gwneud o dan delerau'r Cytundeb hwn neu beidio.

6.3 Bydd y Cytundeb hwn yn dod i ben yn syth a heb rybudd gan WRAP, os ym marn WRAP yn unig, yr ydych wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw un o delerau neu amodau'r Cytundeb hwn.

6.4 Pan ddaw i ben yn ddirybudd, rhaid i chi ddinistrio pob deunydd a gafwyd o'r Safle a chopïau ohonynt, boed wedi eu gwneud o dan delerau'r Cytundeb hwn neu beidio.

7. Toradwyedd

Os penderfynir bod unrhyw un neu rai o'r Telerau ac Amodau hyn yn anghyfreithiol, yn annilys neu'n amhosibl i'w gorfodi oherwydd deddfau unrhyw wladwriaeth neu wlad y bwriedir i'r Telerau ac Amodau hyn fod yn weithredol ynddynt, byddant, i'r graddau ac o dan yr awdurdodaeth y mae'r telerau ac amodau hynny yn anghyfreithiol, yn annilys neu'n amhosibl i'w gweithredu, yn cael eu torri a'u dileu o'r cymal hwn a bydd gweddill y telerau ac amodau yn goroesi, aros mewn grym ac effaith llawn a pharhau i fod yn rhwymedig ac yn orfodadwy.

8. Awdurdodaeth

8.1 Rheolir a gweithredir y Safle gan WRAP o'i swyddfeydd yn y Deyrnas Unedig. Nid yw WRAP yn honni bod y deunyddiau yn y Safle yn addas nac ar gael i'w defnyddio mewn lleoliadau eraill. Mae'r rheiny sy'n dewis defnyddio'r Safle o leoliadau eraill yn gwneud hynny ar eu menter eu hunain ac maent yn gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â deddfau lleol, os ac i'r graddau y mae deddfau lleol yn berthnasol.

8.2 Bydd y Telerau ac Amodau hyn yn cael llywodraethu a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd anghydfodau a gyfyd yn cael eu delio'n unig dan awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr.

9. Ymwadiad E-bost

9.1 Mae cynnwys e-byst a anfonir gan WRAP (yn cynnwys atodiadau) yn gyfrinachol ac mae hawlfraint arnynt. At ddefnydd yr unigolyn neu'r endid y'u hanfonir nhw atynt yn unig y'u bwriedir nhw. Os ydych wedi derbyn e-bost drwy gamgymeriad, cysylltwch â'r sawl a'i hanfonodd yn syth drwy ddychwelyd yr e-bost neu drwy ffonio 01295 819900 a gofyn i siarad â'r sawl a'i hanfonodd, ac yna ddileu'r e-bost (yn cynnwys unrhyw atodiad) o'ch system. Os nad i chi y bwriadwyd yr e-bost, gwaherddir yn llwyr ddatgelu, copïo, dosbarthu neu ddefnyddio'r cynnwys.

9.2 Mae WRAP yn defnyddio technoleg gwrth-firws i wirio pob neges a anfonir ganddo ond ni all warantu nad oes firysau ac nid yw WRAP yn derbyn atebolrwydd dros unrhyw firws a gyflwynir drwy e-bost neu atodiad a chynghorir chi i ddefnyddio meddalwedd gwrs-firws addas a diweddar.

9.3 Ni all WRAP dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros gywirdeb neu gyfanrwydd cynnwys unrhyw e-bost fel y cafodd ei drosglwyddo dros rwydwaith cyhoeddus ac nid yw cyfathrebu Rhyngrwyd yn Ddiogel. Os oes angen cadarnhad neu wiriad gofynnwch am gopi caled.

9.4 Heblaw am adegau pan fo e-bost yn cael ei anfon yn ystod cwrs arferol busnes, barn yr unigolyn sy'n ei anfon sydd mewn unrhyw neges e-bost ac nid ydyw o anghenraid yn adlewyrchu barn WRAP.

9.5 Mae WRAP yn cadw'r hawl i fonitro e-byst sy'n cyrraedd ac yn gadael yn unol â Rheoliadau Telegyfathrebu (Ymarfer Busnes Cyfreithlon)(Rhyng-gipio Cyfathrebiadau) 2000 ac/neu at ddibenion rheoli ansawdd a/neu hyfforddi.

9.6 Anfonir e-byst at dderbynnydd ar gais, neu mewn ymateb i ddiddordeb y derbynnydd yng ngweithgareddau WRAP. Dymuna WRAP gadw eich gwybodaeth gyswllt at ddibenion cysylltu â chi yn y dyfodol ynghylch gweithgareddau ac amcanion WRAP. Os nad ydych chi am i'ch gwybodaeth gyswllt gael ei chadw, gallwch hysbysu WRAP am hynny drwy anfon e-bost at [email protected] gyda chais penodol i beidio â derbyn gohebiaeth o'r fath.