Skip to main content
English
English
Llaw gwyn yn rhoi can diod i mewn twb plastig gyda caniau eraill

Sut i Ailgylchu

Sut caiff caniau eu hailgylchu?

Ar y dudalen hon

Mae llawer o’r cynnyrch bwyd a diod a brynwn yn cael eu pacio mewn caniau wedi’u gwneud naill ai o alwminiwm neu o ddur, a gellir ailgylchu’r ddau ddeunydd hyn ar ôl inni orffen eu defnyddio, naill ai i wneud caniau newydd, neu i wneud eitemau eraill. Mae holl gynghorau Cymru’n casglu caniau a thuniau, naill ai mewn cynhwysydd gyda photeli, potiau a thybiau plastig, neu wedi’u cymysgu gydag ailgylchu sych arall, fel cardbord, papur, plastigion, a photeli a jariau gwydr. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn ailgylchu ein caniau a thuniau gan ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.

Pam mae’n bwysig ailgylchu caniau?

Gellir ailgylchu alwminiwm a dur ill dau dro ar ôl tro heb i’w ansawdd ddirywio, ac mae mwy a mwy o bobl yn ailgylchu eu caniau, sy’n helpu i arbed tanwydd ffosil anadnewyddadwy, lleihau’r ynni a ddefnyddir, a lleihau allyriadau nwyon fel carbon deuocsid i’r atmosffer.

Pan fyddwn yn ailgylchu’r eitemau hyn a’u troi’n ganiau a thuniau newydd, defnyddiwn lai o ynni o’i gymharu â defnyddio deunyddiau newydd crai, gan hefyd leihau ein hallyriadau carbon sy’n helpu i atal newid hinsawdd.

Alwminiwm

Mae alwminiwm yn adnodd sy’n ffurfio tuag 8% o gramen y ddaear. Caiff ei fwyngloddio a’i echdynnu o focsit, sy’n cynnwys y cyfansawdd alwmina, mewn proses electrolytig ynni-ddwys. Mae pedair tunnell o focsit yn cynnwys dwy dunnell o alwmina, sy’n rhoi un dunnell o alwminiwm gwerthfawr. Caiff y metel hwn ei ddefnyddio mewn adeiladau, trafnidiaeth a defnyddiau diwydiannol eraill, ynghyd â deunyddiau pacio.

Alwminiwm yw’r deunydd mwyaf costeffeithiol i’w ailgylchu, gan ddefnyddio dim ond tua 5% o’r ynni a’r allyriadau y mae eu hangen i’w wneud o focsit crai.

Ar ben hynny, gellir toddi’r holl ddeunydd sgrap dros ben o’r broses cynhyrchu alwminiwm a’i ddefnyddio dro ar ôl tro. Oherwydd hyn, mae ailgylchu’n rhan o gylch bywyd normal nwyddau diwydiannol mawr – mae tua 75% o’r alwminiwm sydd wedi cael ei wneud erioed yn dal i fod mewn cylchrediad.

Dur

Mae dur wedi’i wneud o un o adnoddau naturiol mwyaf cyffredin y ddaear, mwyn haearn, ynghyd â chalchfaen a glo. Mae cloddio’r deunyddiau crai hyn a’r broses gynhyrchu sy’n rhan o wneud dur yn cael effaith amgylcheddol. Nid yn unig mae’r broses yn galw am ddefnyddio symiau mawr o ynni ond mae deunyddiau crai yn cael eu gwastraffu wrth gloddio, ac mae’r broses gynhyrchu hefyd yn creu gwastraff ac allyriadau.

Gellir ailgylchu dur dro ar ôl tro heb i’w ansawdd ddirywio, felly drwy ailgylchu ein dur, gallwn arbed tanwyddau ffosil anadnewyddadwy, lleihau’r ynni a ddefnyddir a lleihau’r deunyddiau crai a gaiff eu gwastraffu.

Sut caiff caniau eu hailgylchu?

Caniau alwminiwm

Caiff caniau alwminiwm eu rhwygo’n fân, gan dynnu unrhyw haenau o liw oddi arnynt. Cânt wedyn eu toddi mewn ffwrnais enfawr a chaiff y metel tawdd ei arllwys i fowldiau ingot i galedu. Gellir troi pob ingot yn tua 1.5 miliwn o ganiau.

Mae ffoil alwminiwm yn aloi gwahanol ac fe gaiff ei ailgylchu ar wahân fel arfer, gyda sgrap alwminiwm arall i wneud eitemau bwrw fel cydrannau injans.

Caniau dur

Caiff caniau dur eu rhoi yn y ffwrnais a chaiff haearn tawdd ei ychwanegu. Wedyn, caiff ocsigen ei chwythu i mewn i’r ffwrnais sy’n cynhesu i tua 1700°C. Caiff y metel hylifol ei arllwys i fowld i ffurfio slabiau mawr sydd wedyn yn cael eu rholio’n goiliau. Caiff y coiliau hyn eu defnyddio i wneud pob math o nwyddau dur. Caiff caniau dur eu prosesu gyda sgrap dur arall, ond nid gyda chaniau alwminiwm.

Sut caiff caniau eilgylch eu defnyddio?

Caiff llawer o’r caniau diodydd alwminiwm a gesglir yng Nghymru eu hailgylchu dro ar ôl tro a’u troi’n ganiau diodydd newydd, eu llenwi, a’u rhoi ar y silff drachefn mewn cyn lleied â chwe wythnos.

Gellir ailgylchu dur nifer ddiddiwedd o weithiau, a gan ei fod yn ddeunydd a ddefnyddir mor eang, mae’r amrywiaeth o ffyrdd y gellir ei ddefnyddio’n ddiddiwedd hefyd. Gellir dod o hyd i ddur mewn amrywiaeth eang iawn o nwyddau, o draciau trên a cheir, i fframiau beiciau a chlipiau papur ac, wrth gwrs, caniau bwyd a diod newydd.

Sut i ailgylchu tuniau bwyd a chaniau diodydd

Gellir ailgylchu llawer o eitemau alwminiwm a dur eraill ynghyd â thuniau bwyd a chaniau diod, yn cynnwys erosolau, tybiau tecawê ffoil, a thiwbiau piwrî tomatos. Os gwnawn ni ailgylchu mwy o ganiau, gallwn leihau’r symiau o ddeunyddiau crai y mae eu hangen i gynhyrchu nwyddau newydd.

Darganfod mwy am sut i ailgylchu tuniau bwyd a chaniau diod

Nodwch eich cod post i wirio os dych chi'n gallu ailgylchu caniau gartref

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon