Skip to content
English
English
Llun sialc gwyn o blwg tri phin trydanol ar gefndir du gyda stribed o groen oren fel y cebl gyda'r testun "Bydd Wych Ailgylch" and "Be Mighty Recycle"

Bobl Cymru! Mae’r pŵer yn eich dwylo

Rydyn ni’n falch o fod yn drydedd genedl ailgylchu orau’r byd. Darllenwch ymlaen i ddarganfod sut y gallwch arbed arian, creu pŵer i Gymru a helpu i fynd â Chymru i rif 1

Mae’r rhan fwyaf ohonom yn gwybod y dylai gwastraff bwyd fynd i’r cadi cegin, ond bwyd yw chwarter cynnwys y bin sbwriel cyfartalog o hyd. Mae taflu bwyd bwytadwy i ffwrdd yn costio ffortiwn inni, ond mae gan fwyd na ellir ei fwyta’r potensial i gael ei drawsnewid yn ynni, pan gaiff ei ailgylchu.

Amlinelliad sialc o fatri ar gefndir du wedi'i lenwi â chrwyn banana a'r testun "Ailgylchu dau groen banana yn creu digon o ynni i wefru dy ffôn clyfar" mewn coch a gwyn.

Gwyliwch fideo Matt Pritchard i ddarganfod sut mae gwastraff bwyd a gesglir o gartrefi Cymru'n cael ei droi’n ynni.

Ddim yn ailgylchu dy wastraff bwyd ar hyn o bryd? Ymuna â’r 80% ohonom sy’n gwneud eisoes drwy archebu cadi yma.

Beth yw'r cost gwastraffu bwyd?

Mae 24% o’r bin sbwriel cyffredin yn wastraff bwyd!

Mae 24% o’r bin sbwriel cyffredin yn wastraff bwyd!

Digon i lenwi 3,300 o fysus deulawr y llynedd! Gallai dros 80% o hwn fod wedi cael ei fwyta. Cymru! Gadewch i ni daclo gwastraff bwyd – paid â bwydo'r bin!

Mae taflu bwyd bwytadwy i ffwrdd yn costio £60 y mis i deulu cyffredin y DU

Mae taflu bwyd bwytadwy i ffwrdd yn costio £60 y mis i deulu cyffredin y DU

Trawsnewid y llysiau sy’n heneiddio, y ffrwythau sy’n mynd yn feddal, neu’r bara sy’n crebachu, i wneud rysetiau blasus fel crempogau, cawl a chyri! Paid â bwydo'r bin, lleihau gwastraff, arbed ££.

Os na allwch ei fwyta, ailgylchwch ef!

Os na allwch ei fwyta, ailgylchwch ef!

Boed yn plisgyn wyau, esgyrn, bagiau te, neu hyd yn oed fwyd wedi llwydo - ni waeth pa mor ‘yucky’ - gellir ei droi yn ynni. Paid â bwydo'r bin!

Archeba gadi cegin yma

Ailgylcha dy wastraff bwyd fel pro – 5 tip gwych gan Matt i osgoi’r “ych a fi”

“Mae rhai pobl yn meddwl y gall ailgylchu gwastraff bwyd fod braidd yn ‘ych a fi’ – ond does dim rhaid iddo fod”. Mae ailgylchu ein gwastraff bwyd yn creu llai o arogleuon mewn gwirionedd, ac mae’n lanach na’i roi yn y bin. Galli osgoi’r elfen ych a fi drwy ddilyn tips gwych Matt.

Paid â bwydo’r bin!

Paid â bwydo’r bin!

Mae’r rhan fwyaf ohonom yn gwybod mai i’r cadi mae gwastraff bwyd yn perthyn, ond er hynny gwastraff bwyd yw 24% o gynnwys y bin sbwriel cyfartalog, a gellid bod wedi bwyta 83% o hwnnw. Paid â bwydo’r bin dros Galan Gaeaf eleni.

Clicia yma i weld sut