Skip to main content
English
English

Dy antur hydrefol. Eu taith fawr nesaf.

O ddail crin ac anturiaethau hanner tymor, i firi Calan Gaeaf llawn arswyd, mae'r hydref yn llawn pethau i fynd allan a'u mwynhau. Lle bynnag bydd dy anturiaethau’n mynd â thi, dewisa’r bin cywir a rhoi dyfodol i dy ailgylchu y tu hwnt i un noson ddychrynllyd.

Wyt ti erioed wedi meddwl tybed beth sy'n digwydd ar ôl i ti roi rhywbeth yn y bin cywir?

Yng Nghymru, galli ailgylchu lle bynnag y byddi di. Mae mwy na 90% o’r ailgylchu a gesglir yng Nghymru yn cael ei brosesu o fewn y DU, ac mae mwy na’i hanner yn aros yma yng Nghymru.

Gwylia’r ffilm i ddilyn y daith – o'r eiliad y byddi di'n dewis y bin cywir i'r hyn sy'n digwydd nesaf.

Ailgylchu, dyna rydyn ni'n ei wneud yng Nghymru

Mae Cymru eisoes yn 2il genedl orau’r byd am ailgylchu, ond rydyn ni’n anelu am yr aur! Mae pob eitem sy'n cael ei hailgylchu'n gywir yn mynd â ni un cam yn nes at y safle uchaf, gan helpu i gadw deunyddiau gwerthfawr yn ddefnyddiol ac arbed ynni.

Gellir ailgylchu metel dro ar ôl tro ar ôl tro heb i’w ansawdd ddirywio o gwbl.

A gallai ailgylchu dim ond un can arbed digon o ynni i bweru Hocus Pocus a’r Addams Family un ar ôl y llall. Dyna sbort dychrynllyd!

Mae dros 90% ohonom yn ailgylchu potiau a thybiau plastig

Felly pan fydd byrbrydau’r hydref wedi dod i ben, rho’r antur nesaf i’r tybiau ffrwythau, potiau hwmws, a photeli drwy ddewis y bin cywir.

Mae 100% o’r gwydr sy'n cael ei ailgylchu yng Nghymru yn cael ei brosesu yn y DU

A gallai ailgylchu un botel wydr arbed digon o ynni i bweru XXX. Dyna encôr dychrynllyd o dda.

Mae gwastraff bwyd yn cael ei ailgylchu i greu ynni gwyrdd yng Nghymru

Gallai hyd yn oed dau groen banana gynhyrchu digon o ynni i wefru i gael mwy fyth o anturiaethau hydrefol!

Cadw’r daith i fynd

O deithiau cerdded hydrefol ac anturiaethau hanner tymor, i firi Calan Gaeaf a nosweithiau clyd gartref, lle bynnag y mae'r tymor yn mynd â thi, dewisa’r bin cywir a rhoi’r antur nesaf i dy ailgylchu. 

Rydyn ni eisoes yn Rif 2 yn y byd. Dewch inni gael Cymru i Rif 1.

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon