Skip to main content
English
English
Tortilla gyda rhywfaint o lenwad ar blât wrth ymyl padell yn llawn llenwad

Newyddion Ac Ymgyrchoedd

5 pryd gwych i wneud i’ch bwyd fynd ymhellach

Ar y dudalen hon

Wyddoch chi bod y teulu cyffredin o ddau yn gwastraffu £49 o fwyd y mis?

Fe wnaeth cogyddion meistr – Matt ‘Dirty Vegan’ Pritchard a Chris ‘Flamebaster’ Roberts – ddangos syniadau a ryseitiau syml, gan drawsnewid bwydydd gaiff eu gwastraffu’n aml.

Gwnewch y mwyaf o’ch bwyd ac arbed arian! Mae’r ryseitiau gwych yma yn dangos pa mor hawdd yw hi i greu prydau sydyn a blasus, pan fydd amser yn brin.

Bydd ein pump ‘pryd gwych’ yn eich helpu i arbed arian a lleihau gwastraff drwy ddefnyddio cynhwysion sy’n mynd yn angof yn aml. Maen nhw’n hyblyg, yn faethlon, ac yn hawdd a sydyn i’w paratoi. Perffaith ar gyfer aelwydydd prysur sydd ar frys o bryd i’w gilydd.

Gwedd grand ar omled padell

Omelette llysiau mewn padell gyda dogn wedi'i dynnu allan a'i weini ar blât gwyn

Gallwch droi omled sylfaenol yn saig arbennig yn gwbl ddidrafferth.

  • Estynnwch badell ffrio nad yw’n glynu a dechrau gan goginio unrhyw lysiau tan maen nhw’n feddal

  • Mae winwns wedi’u gratio, pupurau a courgette yn gyfuniad blasus a lliwgar; ambell daten wedi’i berwi gyda’i chroen dal arni am fwy o sylwedd – ond gallwch ddefnyddio unrhyw beth, mae cig wedi’i goginio’n wych hefyd!

  • Ychwanegwch eich wy wedi’i chwisgo i’r badell, a’i sesno â halen a phupur.

  • Taenwch gaws arno a’i grilio am ychydig funudau nes bydd yn frown euraidd a’r wy wedi coginio. Blasus!

Cofiwch ailgylchu: Plisg wyau, crwyn winwns, creiddiau pupurau, coesynnau neu grafion anfwytadwy llysiau eraill.

Wyddoch chi fod gwastraff bwyd yn cael ei ailgylchu i greu ynni adnewyddadwy?

Fajita cyw iâr rhost

Tortilla gyda rhywfaint o lenwad ar blât wrth ymyl padell yn llawn llenwad

Brwydro gwastraff bwyd gyda fajita. Rhowch eich blas eich hun ar y clasur hwn.

  • Dewiswch bron unrhyw lysiau sydd angen eu defnyddio fel opsiwn amgen (neu fel ychwanegiad!) i’ch sylfaen fajita sylfaenol o winwns a phupurau.

  • Gall pethau fel madarch, tomatos, sbigoglys neu lysiau rhost dros ben roi hwb iddo.

  • Coginiwch nhw mewn padell gyda llond llwy fwrdd o olew, nes byddan nhw’n feddal, a’u sesno gyda’ch hoff sbeisys fajita.

  • Mae pecyn parod yn iawn!

  • Taflwch eich cyw iâr wedi’i goginio dros ben i’r badell a’i dwymo nes mae’n chwilboeth. Mwynhewch mewn bara tortila neu ar daten drwy’i chroen.

Cofiwch ailgylchu: Esgyrn cyw iâr, creiddiau pupurau, topiau moron, coesynnau neu grafion anfwytadwy llysiau eraill.

Ffaith ddifyr! Gallai ailgylchu esgyrn un cyw iâr bweru oergell am 10 awr.

Pasta un pot

Pot o basta gyda saws a llwy bren

Llai o olchi llestri, mwy o flas!

  • Dechreuwch y pryd hyblyg hwn drwy ffrio eich cig wedi’i goginio a/neu lysiau dros ben mewn llond llwy fwrdd o olew nes mae’n feddal.

  • Moron wedi’u gratio, cennin wedi’u sleisio, pupurau a madarch wedi’u torri, neu unrhyw beth arall sy’n llechu yn yr oergell.

  • Ychwanegwch eich hoff saws pasta – Pesto? Tomato? Chi piau’r dewis!

  • Coginiwch ef nes bydd yn chwilboeth a chymysgu unrhyw basta wedi’i goginio drwyddo – blasus a chyflym!

Cofiwch ailgylchu: Gwreiddiau’r cennin, pennau moron, coesynnau neu grafion anfwytadwy llysiau, esgyrn cig.

Ffaith ddifyr! Gallai ailgylchu 6 bag te ferwi tegell i wneud disgled arall.

Caws pob epig

Brechdan gaws wedi'i thostio, wedi'i thorri'n groeslin gyda'r haneri wedi'u pentyrru ar ben ei gilydd

Trowch y byrbryd cysurlon hwn yn wledd epig.

  • Bydd bron unrhyw ‘dameidiau dros ben’ yn dyrchafu eich brechdan grasu glasurol.

  • Byddwch yn fentrus, defnyddiwch unrhyw fara sy’n digwydd bod yn y cwpwrdd – pita, bara tortila, neu rôl. Mae ychwanegu tafell o gig wedi’i goginio, neu hyd yn oed lwyaid o’r cyri neu tsili sydd dros ben ers neithiwr at eich hoff lenwad caws yn ei wneud yn epig!

  • Tostiwch eich llenwad rhwng darnau o fara menyn, mewn padell gynnes neu yn y ffwrn ffrio.

  • Gweinwch gydag eitemau salad o’ch oergell.

Cofiwch ailgylchu: Coesynnau tomatos, creiddiau pupurau, gwreiddiau cennin, coesynnau neu grafion anfwytadwy llysiau eraill.

Ffaith ddifyr! Gallai ailgylchu llond cadi o wastraff bwyd bweru 8 rownd o dost.

Pwdin iogwrt

2 ddysgl wydr fach yn cynnwys iogwrt gyda ffrwythau, a 2 lwy

Pwdin blasus y bydd hyd yn oed y plant yn dwli arno!

  • Byddwch yn greadigol gyda'r tameidiau olaf o ffrwythau – rhowch dafelli tenau o fanana, afalau (does dim angen plicio!) yn haenau mewn dysgl gydag iogwrt.

  • Gallwch ychwanegu unrhyw ffrwythau eraill sydd angen eu defnyddio – mae’r cyfuniadau’n ddi-ben-draw.

  • Taenwch ychydig o granola crensiog, cnau, rhesins neu fisgedi wedi’u torri’n fân a diferyn o fêl.

Cofiwch ailgylchu: Crwyn bananas, creiddiau afalau, crafion ffrwythau anfwytadwy.

Ffaith ddifyr! Gallai ailgylchu 2 groen banana wefru 3 ffôn clyfar yn llawn.

Os na alli di ei fwyta fe, ailgylcha fe a chreu ynni adnewyddadwy.

Dylai bagiau te, esgyrn, a hyd yn oed bwyd heibio’i ddyddiad – dim ots pa mor ych a fi – oll fynd i’r bin bwyd a helpu creu ynni adnewyddadwy. Gwyliwch fideo Matt Pritchard i weld y broses anhygoel hon ar waith!

Cynnwys cysylltiedig

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon