Mae'r haf wedi cyrraedd o'r diwedd – a p’un a byddi di’n mynd i atyniad, yn dianc am drip gwersylla, neu'n dawnsio mewn gŵyl, nawr yw'r amser delfrydol i ailgylchu'n drylwyr, lle bynnag bydd dy anturiaethau'n mynd â thi.
Mae Cymru eisoes yn ail yn y byd am ailgylchu – ond ein bwriad ni yw bachu safle rhif 1. A diolch i’r gyfraith ailgylchu yn y gweithle (a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2024), mae ailgylchu oddi cartref yn haws nag erioed nawr.
Ond mae un arfer bach sy’n gallu gwneud gwahaniaeth mawr...

Meddylia cyn taflu pan fyddi di allan o amgylch y fro!
Cyn iti roi unrhyw beth yn y bin, cymer eiliad i wirio'r arwyddion i gael gwybod beth sy'n mynd i ba fin. Mae'n arferiad un eiliad sy’n gallu cael effaith fawr.
Diolch i'r gyfraith, mae'n rhaid i bob busnes yng Nghymru – gan gynnwys atyniadau, caffis, digwyddiadau a pharciau gwyliau – wahanu gwastraff ailgylchadwy i'w gasglu a'i ailgylchu ymlaen, yn union fel rydyn ni’n ei wneud gartref. Mae'n debyg y gweli di finiau ac arwyddion ar gyfer:
Poteli plastig, caniau diod a chartonau
Gwydr
Bwyd
Papur/cerdyn
Gwastraff cyffredinol
Pan rydyn ni allan o amgylch y fro, mae'n hawdd bod yn y modd awtobeilot – ond gallai rhoi'r peth anghywir yn y bin anghywir halogi'r swp cyfan, sy'n golygu na ellir ailgylchu dim ohono.
Un gwiriad cyflym = un fuddugoliaeth fach i Gymru! Mae pob eitem sy'n cael ei hailgylchu'n gywir yn cael cyfle i gael ail fywyd – gan arbed adnoddau, creu nwyddau newydd, a symud Cymru'n agosach at fod yn Rif 1 yn y byd.
Gwyliau Gwyrddach
Mynd ar wyliau milltir sgwâr yng Nghymru? O anturiaethau gwersylla i dripiau i barc gwyliau, mae ailgylchu tra byddi ar dy wyliau’n haws nag erioed. O wastraff bwyd anfwytadwy i boteli eli haul gwag – gwna’n siŵr eu bod nhw'n mynd i’r bin cywir, bob tro.
Wyddost ti? Mae gwastraff bwyd a gaiff ei ailgylchu yng Nghymru yn cael ei droi'n ynni adnewyddadwy – gall ailgylchu un croen banana yn gywir helpu i gynhyrchu digon o ynni i wefru dau ffôn clyfar!

Ailgylcha’r awen – Ailgylchu mewn gwyliau a digwyddiadau
Mynd i ŵyl neu ddigwyddiad haf? Paid â gadael i dy hwyliau da fynd yn wastraff. Boed yn ddigwyddiad undydd neu'n benwythnos llawn o wersylla a dawnsio, gellir ailgylchu'r rhan fwyaf o'r hyn rwyt ti’n ei bacio a’i ddefnyddio. O ganiau a photeli diodydd gwag i erosolau siampŵ sych gwag a chaniau diaroglydd.
Ffaith ddifyr: Mae ailgylchu dim ond dau gan diod yn gywir yn arbed digon o ynni i bweru set DJ am awr. Felly, gallai dy gynwysyddion gwag helpu i gadw'r parti i fynd! Cadwa lygad am finiau ailgylchu pwrpasol o amgylch y digwyddiad a'u rhoi yn y bin rhwng setiau.
Bwyta, mwynhau, ailgylchu! Y ffordd ddoethach o gael picnic
Os wyt ti’n mwynhau picnic mewn parc, ar y traeth neu fyny’n uwch ym mynyddoedd godidog Cymru, ac nad wyt ti’n gallu gweld biniau ailgylchu o gwmpas, galli chwarae dy ran o hyd.
Pan fyddi di’n mwynhau'r golygfeydd yn un o nifer o fannau prydferth Cymru, y peth gorau y galli di ei wneud yw mynd â dy wastraff adref a'i ailgylchu yno. O botiau iogwrt i boteli diodydd a chreiddiau afalau dros ben, gellir ailgylchu'r cyfan.
Tip gwych: Ni ellir ailgylchu barbeciws untro. Gad iddyn nhw oeri’n llwyr (gall hyn gymryd ychydig oriau), yna rho nhw yn y gwastraff cyffredinol – yn ddiogel ac yn gyfrifol.

Amdani i gael Cymru i Rif 1
Bob tro rwyt ti’n ailgylchu, rwyt ti’n gwneud gwahaniaeth.
Gellir troi gwastraff bwyd yn ynni. Mae poteli a chaniau yn cael bywyd newydd. Mae pob eitem sy'n cael ei binio'n gywir yn helpu i leihau gwastraff, arbed adnoddau, ac yn ein dwyn un cam yn nes at y brig.
Felly lle bynnag y bydd yr haf hwn yn mynd â thi – traeth, gŵyl, neu atyniad poblogaidd yng Nghymru – cadwa bethau’n wyrdd a'i daflu’n gywir.
Meddylia cyn taflu! Dim ond eiliad y mae'n ei gymryd, ond gyda'n gilydd, gallwn wneud Cymru'n ailgylchwr gorau’r byd. Amdani!