Skip to main content
English
English
Casgliad o ddeunydd pacio cartref ar laswellt gan shutterstock.com/g/j.chizhe

Newyddion Ac Ymgyrchoedd

Ansicr a allwch chi ei aillgylchu o gartref ai peidio? Darllenwch hwn…

Ailgylchu uchelgeisiol, dymuno-gylchu, ailgylchu optimistaidd... beth bynnag rydych chi’n ei alw, yn anffodus, gan amlaf mae’n arwain at halogi bag cwbl addas o ailgylchu.

Os na wyddoch chi’n barod, mae’r termau hyn oll yn cyfeirio at y foment honno pan fyddwch chi’n hofran uwchben y bin ailgylchu gydag eitem rydych chi’n meddwl y gallwch ei hailgylchu... ond dydych chi ddim yn hollol siŵr! Mae nifer ohonom yn euog o fod yn optimistaidd a rhoi’r eitem yn y bin ailgylchu gan obeithio ein bod yn gwneud y dewis cywir. Er gwaethaf ein bwriadau gorau, yn anffodus, gall hyn olygu bod y bag cyfan o ailgylchu’n cael ei wrthod. Mae tîm Cymru yn Ailgylchu wedi llunio rhestr o eitemau y maen nhw wedi cael trafferth gyda nhw yn y gorffennol. Beth am rannu’r eitemau sy’n eich drysu chi, ac fe wnawn ein gorau i ateb eich cwestiwn? Cysylltwch â ni @WalesRecycles ar Instagram, @CymruAilgylchu ar Twitter neu ar Facebook www.facebook.com/cymruynailgylchu

  • Bocsys Pizzas Gellir ailgylchu cardbord glân, fodd bynnag dylid rhoi bocsys pizza sydd wedi’u staenio â saim a/neu olew gael eu rhoi yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.

  • Rhwydi pacio plastig Dylid rhoi’r eitemau hyn yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.

  • Tâp gludiog ar focsys cardbord Rhaid tynnu tâp gludiog oddi ar eich cardbord a’i roi yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu. Dylid fflatio bocsys cardbord mawr, eu torri’n ddarnau llai, a’u rhoi yn eich ailgylchu gartref.

  • Hancesi papur a Phapur Cegin Dylai eich holl hancesi papur, papur cegin neu dyweli papur gael eu rhoi yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.

  • Gwydr wedi torri Dylid lapio gwydr wedi torri’n ddiogel (gallwch ddefnyddio hen bapur newydd neu bapur cegin, neu eu bagio’n ddwbl, i sicrhau na chaiff ein criwiau casglu eu niweidio wrth eu casglu) a’u rhoi yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.

  • Gwydrau yfed Mae rhai gwydrau diod na ellir eu hailgylchu drwy’r un broses a ddefnyddir ar gyfer poteli a jariau gwydr cyffredin, felly ni ellir eu casglu i gael eu hailgylchu gyda’i gilydd. Os oes gennych chi unrhyw wydrau yfed nad ydych eu heisiau mwyach, ond eu bod mewn cyflwr da, beth am ystyried mynd â nhw i siop elusen leol i eraill gael elwa o’u defnyddio.

  • Cwpanau / Caeadau / Llewys Coffi Papur Nid yw cwpanau coffi papur yn cael eu derbyn gan eich awdurdod lleol fel rhan o’ch casgliadau ailgylchu wrth ymyl y ffordd fel arfer, a dylid eu rhoi yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu – oni bai fod eich awdurdod lleol wedi gofyn yn benodol ichi eu rhoi yn eich ailgylchu.

Mae technoleg ailgylchu’n datblygu yn y maes hwn ac mae rhai cyfleusterau sy’n gallu ailgylchu cwpanau papur. Fodd bynnag, os nad yw eich cyngor yn defnyddio’r cyfleusterau hynny, mae’r cwpanau papur yn achosi problemau yn y broses ailgylchu papur a cherdyn draddodiadol. Holwch eich cyngor lleol i ddarganfod a allwch chi fynd â nhw i’ch canolfan ailgylchu gwastraff y cartref leol.

Dylid rhoi caeadau cwpanau coffi yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.

Os yw llawes gardbord eich cwpan goffi’n sych a heb ei staenio, yna gellir ei roi yn eich cynhwysydd ailgylchu ar gyfer cardbord.

  • Teganau plastig Mae teganau plastig wedi’u gwneud o ddeunydd a elwir yn ‘blastig caled’, ac ni ellir ei ailgylchu yn yr un ffordd â’r poteli, potiau a thybiau plastig a gesglir fel rhan o’r gwasanaeth casglu ailgylchu.

Os oes gennych chi deganau neu gemau plastig sy’n gweithio’n iawn yna, da chi, rhowch nhw i siop elusen neu grŵp cymunedol lleol.

Os yw eich teganau a gemau plastig y tu hwnt i’w hadfer, efallai bod modd ailgylchu rhai o’r cydrannau o hyd os tynnwch y tegan yn ddarnau. Mae hyn yn cynnwys batris a phecynnau batris o unedau rheoli o bell, a dylid tynnu ac ailgylchu’r rhain – dysgwch sut i ailgylchu batris yma.

Ewch ag unrhyw blastigion caled na ellir eu hailddefnyddio i’ch eich canolfan ailgylchu leol.

  • Papur wedi’i addurno Gellir ailgylchu papur sydd wedi’i farcio gan greonau, paent, neu binnau ysgrifennu neu liwio.

Fodd bynnag, rhaid tynnu unrhyw lwch llachar, neu unrhyw addurniadau ffabrig, metel neu blastig oddi ar y papur. Gellir eu hailddefnyddio neu gallwch eu rhoi yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.


Cofiwch rannu’r eitemau sy’n eich drysu, ac fe wnawn ein gorau i ateb eich cwestiwn. Cysylltwch â ni @WalesRecycles ar Instagram, @CymruAilgylchu ar Twitter neu ar Facebook www.facebook.com/cymruynailgylchu


Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon