Skip to main content
English
English
Llaw yn dal potel siampŵ plastig gwyrdd

Newyddion Ac Ymgyrchoedd

Cyngor Gorau ar Ailgylchu

Mae ailgylchu popeth y gallwch yn fwy gwych na feddyliech chi! Yng Nghymru, rydyn ni ar flaen y gad gydag ailgylchu, a ni yw’r drydedd genedl orau yn y byd am ailgylchu. Ond mae angen eich help arnom i gyrraedd rhif un drwy ailgylchu mwy o’r pethau cywir yn fwy aml, gyda’n gilydd. Mae mwy na 94% ohonom yn ailgylchu’n rheolaidd, ond gyda’n hanner ni yn dal i beidio ailgylchu popeth posibl, mae angen inni fynd gam ymhellach ac ailgylchu mwy. Pe byddai pob un ohonom yn ailddefnyddio neu’n ailgylchu un peth arall bob dydd, buasai’n gwneud gwahaniaeth mawr. Bydd yn ailgylchwr gwych, gwarchod y blaned a helpu Cymru i fod y wlad orau yn y byd am ailgylchu drwy wneud y canlynol:

1. Os yw wedi’i wneud o blastig, ac yn siâp potel, ailgylcha ef

Mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n ailgylchu. Mewn gwirionedd, mae mwy nag 88% ohonon ni’n ailgylchu poteli plastig fel poteli diodydd, nwyddau glanhau a nwyddau ymolchi. Cofia’i wagio, ei wasgu a rhoi’r caead yn ôl arno cyn ei ailgylchu. Gellir gadael y chwistrell ar boteli glanhau.

2. Rhoi rinsiad cyflym iddo

Cofia rinsio potiau, tybiau a chynwysyddion yn gyflym cyn eu hailgylchu; gan gofio tynnu unrhyw haenau plastig. Does dim angen eu golchi’n drylwyr, ac mae eu rhoi yn y peiriant golchi llestri’n mynd dros ben llestri – ac yn gwastraffu ynni!

3. Ailgylcha ganiau erosol o bob ystafell

Gellir ailgylchu metelau ailgylchadwy fel caniau erosol dro ar ôl tro heb i ansawdd y deunydd ddirywio. Cofia ailgylchu’r caniau erosol gwag o’r ystafell wely a’r ystafell ymolchi, fel chwistrell gwallt, diaroglydd a gel eillio. Mae ailgylchu cyn lleied â dau gan erosol yn arbed digon o ynni i bweru set DJ am un awr.

4. Ailgylcha dy holl wastraff bwyd

Pan gaiff ei ailgylchu, mae dy wastraff bwyd yn cael ei droi’n ynni adnewyddadwy. Buasai dim ond un croen banana’n creu digon o ynni i wefru dau ffôn clyfar. Er bod y rhan fwyaf ohonom yn ailgylchu ein gwastraff bwyd, mae rhywfaint o fwyd yn dal i gyrraedd y bin sbwriel. Cofia bod modd ailgylchu gwastraff fel bagiau te a gwaddodion coffi, plisg wyau, esgyrn a chrafion llysiau a ffrwythau.

5. Tynna’r bwyd oddi ar ddeunydd pacio wedi’i wneud o gardbord

Tynna ddarnau o fwyd oddi ar ddeunydd pacio o bapur a chardbord cyn eu hailgylchu. Er enghraifft, galli gynnwys y bocs pitsa, ond iti wneud yn siŵr bod unrhyw fwyd wedi cael ei dynnu oddi arno.

6. Defnyddia’r prawf crychu

Ansicr a ellir ailgylchu darn o bapur? Rho gynnig ar ei grychu yn dy law. Os nad yw’n bownsio’n ôl, yna gellir ei ailgylchu. Mae hwn yn brawf da i’w wneud gyda phapur lapio. Ac os wyt ti am ailgylchu cardiau pen-blwydd, rhwyga unrhyw ddarnau gyda llwch llachar arno i ffwrdd yn gyntaf.

7. Cofia ei wasgu

Gwasga boteli plastig a chaniau’n gyflym – mi wnaiff hynny arbed lle yn dy gynhwysydd ailgylchu a’u gwneud yn fwy effeithlon i’w cludo. Gwasga eitemau ffoil at ei gilydd yn ysgafn i’w helpu i fynd drwy’r broses ddidoli heb fynd ar goll.

8. Os nad wyt ti’n siŵr, gwiria

Os nad wyt ti’n siŵr os, sut, neu ymhle y galli ailgylchu eitem, galli edrych ar ein Lleolydd Ailgylchu. Y cwbl sydd angen i ti ei wneud yw rhoi dy god post i mewn a bydd yr ateb yn ymddangos

Cynnwys cysylltiedig

  • Ffeithiau difyr am ailgylchu

    Newyddion Ac Ymgyrchoedd

    Ffeithiau difyr am ailgylchu

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon