Skip to main content
English
English
Dau gogydd yn sefyll ym Marchnad Caerdydd

Newyddion Ac Ymgyrchoedd

Dirty Vegan Matt Pritchard a Chris ‘Flamebaster’ Roberts yn lansio'r ymgyrch newydd Bydd Wych. Ailgylcha i leihau'r bil gwastraff bwyd £786 miliwn yng Nghymru

Mae ffigurau newydd yn dangos bod pobl yng Nghymru yn gwastraffu £786 miliwn trwy daflu bwyd i ffwrdd y gellid bod wedi'i fwyta neu ei ailgylchu. Mae hyn yn costio bron £600 y flwyddyn i'r teulu cyffredin yng Nghymru*.

Mae'r ymchwil, gan gorff anllywodraethol yr amgylchedd, WRAP Cymru, yn dangos bod y teulu cyffredin o ddau yn gwastraffu £49 o fwyd y mis, gan gynyddu i £83 ar gyfer teulu o bedwar.

Rhyddheir y ffigurau yn rhan o'r ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha gan Gymru yn Ailgylchu, sy'n rhan o WRAP Cymru. Mae'r ymgyrch, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn annog pobl i ddefnyddio'r holl fwyd maen nhw'n ei brynu i leihau gwastraff ac arbed arian, ac ailgylchu unrhyw beth na ellir ei fwyta, fel plisg wyau neu grwyn bananas.

I gefnogi'r ymgyrch, mae'r cogyddion o Gymru Matt Pritchard, sef y ‘Dirty Vegan’, a Chris Roberts o S4C, a adwaenir fel Flamebaster, wedi cymryd drosodd Marchnad Caerdydd i goginio cyfres o brydau cyflym, hawdd eu paratoi a ysbrydolwyd gan yr eitemau bwyd sy'n cael eu gwastraffu fwyaf yng Nghymru; bara, ffrwythau, llysiau, cyw iâr a thatws.

Dau gogydd ym Marchnad Caerdydd, un yn dal cadi gwastraff bwyd ac un yn torri llysiau ar fwrdd torri pren

Roedd ymwelwyr â'r farchnad yn cael eu gwahodd i flasu'r prydau a'u hannog i'w hail-greu gartref, a bydd y dylanwadwyr yn cyfleu'r neges hollbwysig i ailgylchu bwyd na ellir ei fwyta er mwyn creu ynni adnewyddadwy.

Dau gogydd yn sefyll ym Marchnad Caerdydd yn dal powlenni gwyn o fwyd a ffyrc.

Dywedodd llysgennad yr ymgyrch, y ‘Dirty Vegan’ Matt Pritchard:

“Mae swm enfawr o fwyd y gellid bod wedi'i fwyta yn cael ei daflu i'r bin sbwriel o hyd. Mae angen i ni i gyd gofio Peidio â Bwydo’r Bin! Gadewch i ni fwydo ein hunain, ein ffrindiau a'n teuluoedd yn gyntaf ac ailgylchu unrhyw fwyd na ellir ei fwyta fel y gellir ei drosi'n ynni.

“Trwy ddefnyddio'r syniadau hyn ar gyfer ryseitiau, sydd ar gael ar-lein, gall pawb gael effaith ar eu gwastraff bwyd a'u pocedi. Mae'r syniadau'n creu prydau cyflym, blasus a rhwydd gan ddefnyddio bwyd sydd eisoes yn nhai'r rhan fwyaf o bobl. Fe allwn ni i gyd arbed rhywfaint o arian a lleihau ein gwastraff bwyd, sy'n wych i'r amgylchedd.”

Y cogydd Matt Pritchard yn sefyll ym Marchnad Caerdydd yn gwisgo het lydan ac yn gosod sosban o fwyd ar hob.

Dywedodd Chris Roberts, sef Flamebaster:

“Rydyn ni i gyd wedi bod yno, mynd trwy'r oergell a theimlo'n euog am yr hyn dydyn ni ddim wedi'i fwyta, ond does dim rhaid iddo fod fel 'na. Gwnewch y mwyaf o'ch bwyd gyda phrydau gan ddefnyddio ein syniadau fel ysbrydoliaeth, ac ailgylchwch unrhyw beth na allwch ei fwyta. Meddyliwch, bob tro rydych chi'n ailgylchu croen banana, fe allech chi fod yn pweru bwlb golau yn eich cartref.

“Bydd mynd â'r neges hon ar daith heddiw yn ysbrydoli pawb i roi cynnig ar yr awgrymiadau hyn gartref. Rydyn ni'n edrych ymlaen at drafod â chwsmeriaid Marchnad Caerdydd a gweld beth maen nhw'n ei feddwl am ein syniadau blasus! Byddwn hyd yn oed yn ymweld â bois pizza Ffwrnes a'u herio i goginio pizza gyda bwyd a allai fod wedi cael ei wastraffu fel arall.”

Y cogydd Chris Roberts yn sefyll ym Marchnad Caerdydd yn gwisgo ffedog goch gyda'i ddwylo ar ei gluniau.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd:

"Mae'n wych ein bod ni fel cenedl ymhlith y goreuon o ran ailgylchu, ond fe allwn wneud mwy.

Mae lleihau'r gwastraff bwyd rydych chi'n ei greu yn y lle cyntaf yn bwysig iawn, a bydd yr ymgyrch hon yn rhoi llawer o syniadau i chi ar gyfer defnyddio'r holl fwyd a gweddillion bwytadwy sydd gennych. Ond os oes angen i chi daflu unrhyw fwyd i ffwrdd, ailgylchwch ef mewn cadi bwyd sy'n cael ei ddarparu gan eich awdurdod lleol. Mae hyn yn ffordd bwysig o'n helpu i osgoi unrhyw wastraff diangen a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur".

Wrth sôn am y cynnydd sy'n cael ei wneud yng Nghymru, dywedodd Angela Spiteri, Rheolwr Ymgyrch Cymru yn Ailgylchu yn WRAP Cymru, sef y corff anllywodraethol y tu ôl i'r ymgyrch:

“Rydyn ni'n gwastraffu gwerth £786 miliwn o fwyd y gellid bod wedi'i fwyta, sy'n aruthrol. Mae hynny'n swm sylweddol i wlad gymharol fach ac yn llawer o arian a allai fod yn fuddiol iawn i deuluoedd yng Nghymru.

“At hynny, aeth llawer o'r bwyd yna i'r bin yn lle'r cadi bwyd! Yn 2023 yn unig, ailgylchwyd digon o fwyd yng Nghymru i bweru 10,000 o gartrefi neu 160 o ysgolion. Mae hynny oherwydd bod pobl yng Nghymru yn wych am ailgylchu, rydyn ni ymhlith y goreuon yn y byd, ond mae angen i ni fynd ymhellach.

“Dyna pam mae'r ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha hon yn canolbwyntio ar gynyddu ymwybyddiaeth o gost bwydo'r bin yn ddiangen i deuluoedd. Yn syml, trwy beidio â bwydo ein biniau, gallwn arbed arian a chreu ynni glanach a gwyrddach yn lle hynny.”

Darganfyddwch fwy am y ymgyrch Bydd Wych a sut i wneud gwahaniaeth yma

Yr ystadegau:

Cymerwyd yr ystadegau o WRAP, 2024, Gwastraff Bwyd a Diod Cartrefi yng Nghymru 2021/22. Mae manylion am y data a'r cyfrifiadau a ddefnyddiwyd ar gyfer cost ariannol gwastraff bwyd ar gael yn adroddiad Gwastraff Bwyd a Diod Cartrefi yng Nghymru 2021/22. I grynhoi, defnyddir data o arolwg bwyd teuluoedd DEFRA i gyfrifo'r gost fesul kg bwytadwy o fwyd a brynwyd. Yna, mae'r gost hon fesul kg bwytadwy yn cael ei lluosi â chyfanswm pwysau'r holl wastraff bwyd bwytadwy ar gyfer pob math o fwyd i gael cyfanswm y gost ar gyfer Cymru.

* 2.3 o bobl *** Mae Bydd Wych. Ailgylcha yn ymgyrch a gyflwynir gan WRAP Cymru trwy'r brand Cymru yn Ailgylchu a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

**** Edrychodd dadansoddiad cyfansoddiadol ar wahân, a gynhaliwyd ar draws pob un o'r 22 awdurdod lleol, ar gynnwys gwastraff cartref yng Nghymru. Mae'r canlyniadau'n dangos mai gwastraff bwyd yw'r deunydd y gellid ei ailgylchu sy'n fwyaf tebygol o fod mewn sbwriel cyffredinol - sy'n golygu mai dyna lle y gallai deiliaid tai yng Nghymru gael yr effaith fwyaf ar gyfraddau ailgylchu yng Nghymru.

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon