Skip to main content
English
English
Matt Pritchard, dyn gwyn gyda gwallt melyn a thatŵs mewn gwisg cogydd, yn sefyll i mewn o bentwr o fagiau ailgylchu bwyd llawn.

Newyddion Ac Ymgyrchoedd

Mae’r Dirty Vegan yn herio Cymru i ailgylchu mwy o wastraff bwyd i bweru cartrefi

Ar y dudalen hon

Mae Matt Pritchard yn cefnogi ymgyrch Byddwch Mighty i roi gwastraff bwyd yn y cadi cegin yn hytrach na'r bin - ac yn rhannu rhai awgrymiadau ar gadw'r cadi yn lân

Mae'r cogydd, yr awdur a'r athletwr adnabyddus Matt Pritchard (The Dirty Vegan) yn cefnogi’r alwad gan ymgyrch Bydd Wych i bobl yng Nghymru ailgylchu mwy o'u gwastraff bwyd er mwyn ceisio mynd i'r afael â newid hinsawdd a lleihau dibyniaeth y genedl ar danwyddau ffosil ar gyfer ynni.

Mae modd troi gwastraff bwyd yng Nghymru yn ynni mewn cyfleusterau arbenigol ledled y wlad, ac yn 2021-22 roedd mwy na 10,000 o gartrefi Cymru yn cael eu pweru drwy ailgylchu gwastraff bwyd. Ond dengys data bod tua chwarter o’r holl sbwriel cyffredinol yn cynnwys gwastraff bwyd y llynedd, sy'n golygu nad oedd 100,000 tunnell o wastraff bwyd yn cael ei roi mewn cadis ailgylchu bwyd.

Mae sefydliad anllywodraethol WRAP – sy’n gweithredu ar newid hinsawdd – wedi cyfrifo… y gallai’r bwyd gwastraff hwn fod wedi pweru 7,500 o dai ychwanegol yng Nghymru am flwyddyn gyfan.

Er mwyn helpu i annog mwy o bobl i ailgylchu eu gwastraff bwyd, mae Matt yn cefnogi ymgyrch Bydd Wych, a lansiwyd gan WRAP Cymru a Llywodraeth Cymru, ac yn annog pobl i ddefnyddio'r cadi bwyd yn hytrach na’r bin arferol ar gyfer eu holl wastraff bwyd.

Esboniodd Matt: "Fel rhywun sy'n angerddol am fwyd a'r blaned, mae pob agwedd ar yr ymgyrch hon yn taro deuddeg i mi. A finnau’n gogydd, rwy'n poeni sut mae bwyd yn cyrraedd fy mhlât, ond mae ei lwybr wedi hynny yn llawn mor bwysig! Mae'r syniad y gall newid mor fach yn ein cartrefi helpu i'w pweru gydag ynni glân-gwyrdd yn golygu y gallwn ni i gyd gyfrannu at fynd i'r afael â newid hinsawdd, sy’n wych.

"Mae Cymru yn drydydd yn y byd o ran ailgylchu ar aelwydydd, ond mae unrhyw un sy'n fy ‘nabod, hefyd yn gwybod fy mod i wrth fy modd yn derbyn her. Felly, rwy’n herio pobl Cymru i ailgylchu eu gwastraff bwyd a'n helpu ni i gyrraedd y brig!"

Dangosodd arolwg diweddar gan WRAP mai un o'r rhwystrau mwyaf i ailgylchu gwastraff bwyd oedd ei fod ‘ych-a-fi’, gyda rhai ddim yn ailgylchu oherwydd arogleuon a gollyngiadau o’u cadis bwyd.

Er bod canran drawiadol o 95% o bobl Cymru yn ailgylchwyr rheolaidd, mae'r nifer hwn yn gostwng i 78% o ran ailgylchu bwyd, er gwaethaf yr ynni posibl y gall hyn helpu i'w gynhyrchu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i sicrhau bod 70% o holl wastraff cartrefi yn cael ei ailgylchu erbyn 2025 ac i fod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050.

Meddai Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd: "Gydag ailgylchu bwyd y gallwn gael yr effaith fwyaf ar gyfraddau ailgylchu Cymru, a helpu hefyd i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.

"Rydyn ni'n gwybod fod pobl Cymru eisiau parhau â'u gwaith da gan mai Cymru yw'r drydedd wlad orau yn y byd o ran ailgylchu, a bydd yr ymgyrch hon yn hwb pellach i hyn drwy addysgu pobl a thynnu sylw at sut y gellir troi ein gwastraff bwyd yn ynni gwyrdd, yn hytrach na’i fod yn mynd i safleoedd tirlenwi."

Dywedodd Catherine David, Cyfarwyddwr Cydweithio a Newid WRAP: "Mae pobl yng Nghymru yn ailgylchwyr anhygoel. Dengys ein hastudiaeth ddiweddar fod bron i 90% yn teimlo’n falch fod Cymru ar flaen y gad yn fyd-eang ar faterion ailgylchu a’r amgylchedd, gyda 86% yn dweud eu bod yn mynd allan o'u ffordd i ailgylchu.

"Fodd bynnag, nid da lle gellir gwell a gallwn wneud mwy o hyd, gan gynnwys ailgylchu ein holl wastraff bwyd er mwyn cynhyrchu ynni adnewyddadwy a helpu Cymru i ddod yn arweinydd y byd o ran ailgylchu.

"P'un a ydych chi'n ailgylchu eich croen tatws, plisgyn wy, crwyn banana neu esgyrn, cofiwch y gall pob darn o wastraff bwyd helpu i greu pŵer i gartrefi a chymunedau Cymru - felly byddwch wych ac ailgylchwch eich gwastraff bwyd."

Un teulu sy'n cefnogi Matt yw'r teulu Kynan o Ddinas Powys. Dywedodd Cristina, sy’n ailgylchwr brwd ac yn fam i dri o blant:

"Gyda thri o blant gartref, rydyn ni'n cynhyrchu llawer o wastraff bwyd ac mae'n wych gwybod ein bod ni'n cynhyrchu ynni gwyrdd drwy ei ailgylchu. Rydyn ni'n llenwi ein cadi bwyd o fewn diwrnod neu ddau, ac yna rydyn ni'n ei wagio i'n prif fin bwyd y tu allan. Dwi bob amser yn ei olchi gyda hylif golchi llestri i'w gadw'n ffres a glân.

"Mae ailgylchu bwyd wedi dod yn rhan annatod o'n trefn amser swper fel ein bod yn ei wneud yn awtomatig nawr - mae'n syml yn y bôn ac yn gwneud cymaint o wahaniaeth!"

Darganfyddwch mwy am yr yngyrch Bydd Wych. Ailgylcha yma

Cyngor Matt i chwalu ffactor ‘ych-a-fi’ gwastraff bwyd

  1. Rhoi bag yn eich cadi bwyd – Bydd rhoi bag yn eich cadi bwyd yn y gegin yn cadw’r arogl yn y cadi, gan helpu i leihau arogleuon a gollyngiadau, a'i atal rhag mynd yn fudr.

  2. Osgoi eitemau hylifol – Cadwch hylifau fel llaeth, sudd, neu olew coginio allan o'ch cadi bwyd i atal 'sudd bin' rhag casglu ar y gwaelod.

  3. Gwagio’ch cadi bwyd yn rheolaidd - Gwagiwch gynnwys eich cadi bwyd i'ch bin gwastraff bwyd awyr agored yn rheolaidd, cyn iddo fynd yn rhy llawn, er mwyn atal arogleuon a drewdod. Cofiwch glymu bagiau bin bwyd yn dynn cyn eu symud o'ch cadi bwyd i’ch bin mawr.

  4. Cau’r caead – Efallai bod hyn yn amlwg, ond bydd cau caead eich cadi cegin yn atal pryfed rhag mynd i mewn, ac arogleuon rhag dianc allan.

  5. Cadw’r cadi bwyd yn lân - Cofiwch lanhau eich cadi bwyd cegin bob ychydig wythnosau. Rinsiwch y cadi yn y sinc. I’w lanhau yn fwy trylwyr, diheintiwch gyda dŵr poeth dros ben o'ch tegell a rhywfaint o hylif golchi llestri.

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon