Skip to main content
English
English

Newyddion Ac Ymgyrchoedd

Osgoi halogi eich ailgylchu

Ar y dudalen hon

Mae pobl yng Nghymru’n gwneud yn wych wrth ailgylchu eu heitemau o’r cartref bob wythnos, ac rydym yn ddiolchgar ichi am ddal ati i fod yn ailgylchwyr gwych! Mewn gwirionedd, mae 95% o ddinasyddion Cymru’n ailgylchu’n rheolaidd, ond a wyddoch chi fod rhai ohonom yn dal i roi’r eitemau anghywir yn ein cynwysyddion ailgylchu?

Mae rhoi ein gwastraff yn y cynwysyddion ailgylchu cywir yn bwysig iawn a phan fyddwn ni’n cael hynny’n anghywir, fe’i gelwir yn ‘halogi’. Pan fo gormod o ddeunydd wedi’i halogi’n cael ei roi yn y cynwysyddion anghywir, gall atal ein heitemau o’r cartref gael eu hailgylchu, sy’n golygu bod ein hailgylchu’n cael ei golli am byth.

Eitemau cyffredin rydyn ni’n eu rhoi yn y lle anghywir

Mae’r rhan fwyaf ohonom yn gwneud yn iawn ac yn rhoi’r eitemau cywir yn y cynwysyddion ailgylchu cywir. Fodd bynnag, y camgymeriadau mwyaf cyffredin y mae pobl yn eu gwneud yw rhoi’r eitemau canlynol i mewn gyda’u hailgylchu:

  • Gwastraff anifeiliaid;

  • Jariau canhwyllau;

  • Eitemau ceramig;

  • Cambrenni dillad;

  • Bydiau cotwm a gwlân cotwm;

  • Gwastraff COVID-19 a PPE;

  • Cewynnau tafladwy;

  • Gwydrau yfed;

  • Pecynnau ‘codenni’ bwyd a diod feddal;

  • Llestri coginio a llestri ffwrn gwydr;

  • Cwareli ffenestri gwydr;

  • Caeadau plastig ystwyth;

  • Teganau plastig;

  • Tâp gludiog;

  • Hancesi papur;

  • Tiwbiau past dannedd;

  • Weips gwlyb.

Cyngor ar gyfer osgoi halogi eich ailgylchu

Dyma ambell ddarn o gyngor i’ch helpu i osgoi halogi eich ailgylchu a sicrhau bod yr holl ymdrech rydych yn ei wneud yn cael ei wobrwyo, nid ei wastraffu. Bydd yr ymdrech ychwanegol i roi ein hailgylchu yn y cynwysyddion cywir bob tro yn helpu Cymru i gyrraedd rhif un yn y byd am ailgylchu.

Gwiriwch ein teclyn Lleolydd Ailgylchu i weld beth y gallwch ei ailgylchu gartref;

Ewch draw i’n tudalennau Ailgylchu Eitem i wirio sut i ailgylchu eitemau’r ydych yn ansicr yn eu cylch;

Gweler gwefan eich cyngor lleol am gyfarwyddiadau ar sut i ailgylchu eitemau penodol, er enghraifft, a ddylech adael caeadau ar boteli neu jariau ynteu eu tynnu i ffwrdd cyn eu hailgylchu.

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon