Skip to main content
English
English
Cragen wy wedi cracio gyda physt rygbi wedi'u tynnu â sialc a choed ar gefndir coch gyda'r slogan "Troi gwastraff bwyd yn bwer I Gymru. Bydd wych. Ailgylcha fe."

Newyddion Ac Ymgyrchoedd

Pweru’r Chwe Gwlad eleni gyda’ch gwastraff bwyd, a helpu Cymru i fod y gorau yn y byd

Mae pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni’n mynd rhagddi, ac mae ymchwil diweddaraf Cymru yn Ailgylchu wedi datgelu bod pobl Cymru’r un mor angerddol dros ailgylchu ag y maen nhw dros y gêm.

Rydyn ni ar frig y gynghrair gyda’n hailgylchu – ni yw’r genedl orau yn y Deyrnas Unedig, yr ail yn Ewrop, a’r drydedd yn y byd. Mae bron 90% o bobl Cymru’n teimlo balchder wrth weld Cymru’n arwain y gad ac, yn union fel y rygbi, mae mwy nag 80% yn deud bod ailgylchu’n rhan bwysig o’u hunaniaeth.

Rydyn ni ar hymgyrch gwych i gael Cymru i rif un yn y byd, ac un o’r ffyrdd hawsaf i chi chwarae eich rhan yw drwy ailgylchu eich holl wastraff bwyd. Mae tua chwarter yr hyn sy’n cyrraedd y bin sbwriel cyffredinol yn wastraff bwyd, felly mae llawer mwy y gallwn ei wneud.

Byddwch nid yn unig yn helpu Cymru gyrraedd y brig, byddwch hefyd yn creu ynni, sydd â’r potensial i bweru unrhyw beth, o oleuadau Stadiwm Principality i’r oergell sy’n cadw eich cwrw’n oer ar gyfer y gêm. Mae’n wir, yng Nghymru, rydyn ni hefyd yn arwain y gad wrth greu ynni adnewyddadwy gan ddefnyddio gwastraff bwyd wedi’i ailgylchu, sy’n helpu i leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil.

Felly, p’un ai gartref ar y soffa, yn y dafarn leol gyda’ch ffrindiau, neu’n eistedd yn y standiau yn Stadiwm Principality fyddwch chi, pan ddaw amser chwythu’r chwiban, cofiwch yr holl fuddion all eich gwastraff bwyd eu rhoi i’ch profiad o’r Chwe Gwlad.

  1. 1

    Pweru llifoleuadau Stadiwm Principality – Bananas sy’n pweru’r chwaraewyr, gall y crwyn bweru’r stadiwm. Pe byddai pawb yng Nghymru’n ailgylchu 1 croen banana, byddai’n creu digon o ynni i bweru llifoleuadau Stadiwm Principality am bron i 10 diwrnod.

  2. 2

    Pweru set deledu gartref – Gallai 47 o fagiau te wedi’u hailgylchu greu digon o drydan i bweru set deledu am 80 munud – digon o amser i wylio dau hanner un o gemau’r Chwe Gwlad!

  3. 3

    Gwylio’r gêm ar eich ffôn – Gall ailgylchu 2 groen banana wefru 3 ffôn clyfar yn llawn. Mae hynny’n fwy na digon i wylio sawl gêm.

  4. 4

    Pweru oergell i oeri’r cwrw – Byddai llond cadi o wastraff bwyd yn cynhyrchu digon o drydan i bweru oergell am 18 awr – a dyna’ch cwrw’n oer neis ar gyfer y gêm y penwythnos hwn!

  5. 5

    Pweru set y DJ yn y noson allan ar ôl y gêm – Cychwyn allan i’r clybiau ar ôl y gêm? Gallai dim ond 7½ cadi o wastraff bwyd wedi’i ailgylchu gynhyrchu’r trydan i bweru set DJ am awr gyfan!

  6. 6

    Pweru’r tegell fore trannoeth – Gallai ailgylchu dim ond 6 bag te greu digon o drydan i ferwi’r tegell i wneud eich disgled yn y bore.

Fe wnaethom ailgylchu digon o wastraff bwyd y llynedd i bweru mwy na 10,000 o gartrefi, ond pe byddai’r gwastraff bwyd a gafodd ei daflu i’r bin sbwriel cyffredinol wedi cael ei ailgylchu hefyd, buasem wedi gallu pweru tua 7,500 yn rhagor o gartrefi. Felly cofiwch ailgylchu eich holl wastraff bwyd na ellir ei fwyta – gellir ailgylchu plisg wyau, esgyrn, bagiau te, a chrafion ffrwythau a llysiau – a dewch inni groesi’r llinell gydag ailgylchu gwastraff bwyd y tymor rygbi hwn.

Dyna yw pŵer ailgylchu eich gwastraff bwyd

Cynnwys cysylltiedig

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon