Skip to main content
English
English

Papur Lapio

Ailgylchu gartref

Mae rhai cynghorau lleol yn derbyn papur lapio yn eu cynllun casgliadau ailgylchu o’r cartref, ond nid yw eraill yn ei dderbyn gan nad yw rhai melinau papur yn derbyn papur lapio, felly holwch eich cyngor yn gyntaf.

Pa fathau o bapur lapio y gellir ei ailgylchu?

  • Papur lapio syml sy’n pasio’r ‘prawf crychu’.

Pa fathau o bapur lapio a deunyddiau cysylltiedig na ellir eu hailgylchu?

  • Unrhyw dâp gludiog ac addurniadau fel rhubanau;

  • Papur wedi’i addurno â ffoil neu lwch llachar.

Mae’n dda gwybod

Pam nad yw rhai cynghorau lleol yn derbyn papur lapio i’w ailgylchu?

  • Mae rhai mathau o bapur lapio yn denau iawn a phrin yw’r ffibrau o ansawdd dda i’w hailgylchu yn y rhain;

  • Mae papur lapio yn aml wedi’i liwio, ei lamineiddio a/neu’n cynnwys ychwanegion nad ydynt yn bapur, fel siapiau lliw aur neu arian, llwch llachar, plastigion ac ati, ac ni ellir ailgylchu’r rhain;

  • Mae gan lawer o bapur lapio dâp gludiog yn sownd iddo, sy’n ei wneud yn anodd iawn ei ailgylchu.

Ailgylchu eitem arall

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon