Skip to main content
English
English
Casgliad o peteli gwydr gwyrdd a brown

Sut i Ailgylchu

Sut caiff gwydr ei ailgylchu?

Ar y dudalen hon

Sut caiff gwydr ei ailgylchu?

Unwaith caiff gwydr ei gasglu a’i gludo i’w ailbrosesu, caiff:

  • Ei ddidoli yn ôl lliw yn fecanyddol, os bydd angen;

  • Ei falurio a thynnu halogyddion;

  • Ei gymysgu â’r deunyddiau crai i’w liwio a/neu ychwanegu rhinweddau yn ôl y galw;

  • Ei doddi mewn ffwrnais;

  • Ei fowldio neu ei chwythu i wneud poteli neu jariau newydd.

Pam mae’n bwysig ailgylchu gwydr?

Mae gwydr yn ddeunydd 100% ailgylchadwy a gellir ei ailgylchu nifer ddiddiwedd o weithiau heb i’w ansawdd ddirywio. Caiff gwydr newydd ei wneud o bedwar prif gynhwysyn: tywod, lludw soda, calchfaen ac ychwanegion eraill ar gyfer lliwio neu driniaeth arbennig. Mae’n rhaid cloddio’r holl ddeunyddiau crai hyn, gan ddefnyddio adnoddau naturiol ac ynni i’w cloddio a’u prosesu.

Felly, gyda gweithred mor syml ag ailgylchu ein gwydr, gallwn leihau’r tanwydd ffosil anadnewyddadwy a gaiff ei ddefnyddio, a lleihau allyriadau CO2 proses o’r deunyddiau carbonad crai fel calchfaen.

Sut caiff gwydr eilgylch ei ddefnyddio?

Gellir defnyddio gwydr eilgylch i wneud amrywiaeth eang o nwyddau bob dydd, yn cynnwys rhai cwbl annisgwyl, yn cynnwys:

  • Poteli a jariau newydd;

  • Deunydd inswleiddio gwlân gwydr ar gyfer cartrefi, sy’n helpu gydag effeithlonrwydd ynni hefyd;

  • Haenau hidlo dŵr.

Sut i ailgylchu gwydr

Mae’r rhan fwyaf o gynghorau lleol yn casglu poteli a jariau gwydr yn eu casgliadau o’r cartref. Gellir eu danfon i fanciau poteli hefyd.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn ailgylchu eu gwydr, fodd bynnag mae mwy y gallwn ei wneud o hyd, fel cofio ailgylchu ein jariau gwydr clir sy’n aml yn cael eu hanghofio amdanynt.

Dysgu mwy am sut i ailgylchu poteli a jariau gwydr

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon