Skip to main content
English
English
Papur ac amlenni ar ddesg

Sut i Ailgylchu

Sut caiff papur ei ailgylchu?

Ar y dudalen hon

Fel cenedl, rydym yn defnyddio 12 miliwn o dunelli o bapur bob blwyddyn ac mae’r teulu cyfartalog yn y Deyrnas Unedig yn taflu gwerth chwe choeden o bapur bob blwyddyn. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn ailgylchu eu papur a’u cardbord gan helpu i arbed adnoddau naturiol a lleihau’r ynni a ddefnyddir.

Pam mae’n bwysig ailgylchu papur?

Pan fyddwn yn ailgylchu ein papur, rydym yn defnyddio llai o ynni o’i gymharu â thorri coed newydd i lawr ar gyfer cael deunyddiau ‘newydd’, neu ‘crai’ i greu eitemau newydd wedi’u gwneud o bapur. Mae ailgylchu’n lleihau ein hallyriadau carbon gan 20%, sy’n helpu i atal newid hinsawdd.

Gellir ailgylchu eich holl bapur, waeth beth ei liw, siâp neu faint, cyn belled â’i fod yn sych.

Sut caiff papur ei ailgylchu?

Mae pob un o gynghorau Cymru’n casglu papur i’w ailgylchu ac mae’r rhan fwyaf ohonom yn ailgylchu ein papur gan ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.

Caiff tua 80% o’r papur a gaiff ei gynhyrchu yn y Deyrnas Unedig ei greu gan ddefnyddio cynnwys eilgylch. Caiff y papur a chardbord a gesglir o’ch cartref ei wahanu yn ôl mathau a graddau yn gyntaf. Wedyn, caiff ei droi’n fwydion gyda dŵr a chemegau i wahanu’r ffibrau a’i sgrinio i dynnu inc, haenau plastig, clipiau papur, styffylau a glud.

Ar ôl ei lanhau, mae’n bosibl y bydd sylweddau lliwio’n cael eu hychwanegu cyn i gymysgedd o 1% mwydion a 99% ffibr ei chwistrellu ar rwyll sy’n symud yn gyflym, sy’n ffurfio’r dalenni ac yn tynnu’r dŵr. Caiff y ddalen ei gwasgu i dynnu’r dŵr ac yna caiff ei rholio a’i chynhesu i gyflawni’r trwch a’r cynnwys lleithder cywir.

Sut caiff papur eilgylch ei ddefnyddio?

Mae’r papur eilgylch yn cael ei weindio ar roliau anferthol cyn cael ei dorri a’i ddanfon i wneud nwyddau papur o’r newydd, yn cynnwys cardbord, papur newydd a phapur ysgrifennu. Gellir ei ddefnyddio hefyd i gynhyrchu eitemau fel labeli, bagiau, a chardiau rhodd.

Dysgu mwy am sut i ailgylchu papur

Sut i ailgylchu papur

Darganfod a allwch ailgylchu papur gartref

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon