Skip to main content
English
English
Casgliad o deunydd pacio mewn basged ar llawr ystafell ymolchi

Sut i Ailgylchu

Sut i ailgylchu o'r ystafell ’molchi

Ar y dudalen hon

Mae mwy a mwy o bobl yn ailgylchu eitemau o bob rhan o’r tŷ. Yn yr ystafell ’molchi, defnyddiwn blastig o bob lliw a llun, a gellir ailgylchu’r rhan fwyaf o’r rhain. Ydych chi’n ailgylchu eich poteli siampŵ? Mae 90% ohonom yng Nghymru’n gwneud, ond mae gennym le i ailgylchu mwy o hyd.

Y 10 prif beth y gall pawb ei ailgylchu o’r ystafell ’molchi

Dyma ddeg eitem y gellir (ac y dylid) eu hailgylchu o’r ystafell ’molchi unwaith y maen nhw’n wag:

  1. 1

    Poteli siampŵ

  2. 2

    Poteli cyflyrydd gwallt;

  3. 3

    Poteli gel cawod a swigod bath;

  4. 4

    Bocsys past dannedd neu sebon;

  5. 5

    Tiwbiau papur toiled;

  6. 6

    Poteli hylif glanhau ystafell ’molchi a channydd, yn cynnwys unrhyw gaeadau chwistrell;

  7. 7

    Diaroglyddion, chwistrell corff ac erosolau chwistrell gwallt;

  8. 8

    Ewyn eillio;

  9. 9

    Poteli eli croen;

  10. 10

    Poteli sebon dwylo, yn cynnwys caeadau a phympiau.

Mae’n dda gwybod

Pe byddai pawb yn y Deyrnas Unedig yn ailgylchu un botel o hylif glanhau ystafell ’molchi, gellid arbed digon o ynni i redeg sugnwr llwch o gwmpas tua 82,460 o gartrefi.

Pum hac i’ch helpu i gadw trefn ar eich ailgylchu o’r ystafell ’molchi

  1. 1

    Beth am hongian bag ar gefn y drws? Os ydych chi’n brin o le ar y llawr, beth am hongian bag deniadol ar fachyn neu ar handlen y drws?

  2. 2

    Cuddiwch eich eitemau gwag mewn cwpwrdd neu ddrôr – gallwch gadw’ch eitemau gwag mewn cwpwrdd neu ddrôr nes byddwch wedi casglu digon i wneud trip i’ch cynhwysydd ailgylchu;

  3. 3

    Defnyddiwch ail fin – gallwch fanteisio ar y lle sy’n wastraff dan y sinc a chael bin ailgylchu yn eich ystafell ’molchi;

  4. 4

    Trowch fasged neu focs yn fin ailgylchu ar gyfer yr ystafell ’molchi;

  5. 5

    Eisiau cael trefn yn syth bin? Os yw’n well gennych gael gwared ar eitemau gwag cyn gynted â phosibl, rhowch nhw ar y landin neu yn y fasged dillad pan fyddan nhw’n wag ac ewch â nhw i’r cynhwysydd ailgylchu’r tro nesaf byddwch chi’n mynd i lawr y grisiau.

Darganfyddwch pa blastigion o’r ystafell ’molchi y gallwch eu hailgylchu gartref.

Nodwch eich cod post i wirio

Cynnwys cysylltiedig

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon