Skip to content
English
English
Bachu ar bwer gwastraff bwyd

Her Teuluoedd Bydd Wych

Ymunwch â’r Ymgyrch Gwastraff Bwyd Gwych i harneisio pŵer gwastraff bwyd a helpu Cymru gyrraedd Rhif 1

Mae eich plentyn wedi dysgu popeth am bŵer ailgylchu gwastraff bwyd yn yr ysgol, a nawr mae’n amser iddyn nhw gyflawni cam olaf eu hymgyrch gartref gyda chi, am gyfle i ennill gwobrau gwych i’r teulu oll.

Dy Ymgyrch Gwaith Cartref

Mae Cymru wedi gweithio i ennill ei lle fel trydedd genedl ailgylchu orau’r byd, ond mae mwy y gallwn ei wneud o hyd o ran achub bwyd rhag y bin.

Wyddoch chi, pan gaiff gwastraff bwyd ei ailgylchu yng Nghymru, ei fod yn cael ei droi’n ynni adnewyddadwy? Ffaith ddifyr: Gallai ailgylchu dim ond un croen banana gynhyrchu digon o ynni i wefru ffôn clyfar yn llawn.

Cyn i chi ddechrau, wyliwch ein ffilm fer gyda’ch plentyn i ddysgu mwy am y broses ryfeddol hon – o’ch cadi cegin i gynhyrchu trydan:

Caddy with a sticker

Ymgyrch 1: Ymchwilio

Mae peth gwastraff bwyd na ellir ei fwyta, a’r enw ar hwn yw bwyd “anfwytadwy” a does dim modd ei osgoi.Allwn ni ddim bwyta crwyn bananas, plisg wyau, esgyrn cyw iâr neu fagiau te – ond gallwn wneud yn siŵr eu bod yn cael eu hailgylchu er mwyn troi gwastraff yn ynni gwyrdd.

Gyda’ch plentyn, cofnodwch y gwastraff bwyd anfwytadwy a grëir gan un o brydau bwyd y teulu gan ddefnyddio’r daflen waith cartref a ddaeth adref gyda’ch plentyn.

Ymgyrch 2: Byddwch yn greadigol, a rhoi cynnig ar y gystadleuaeth

O’r rhestr o fwyd anfwytadwy a gasglwyd yn Nhasg 1, dewis un a dylunio sticer sy’n dangos sut gall ailgylchu’r bwyd hwn bweru dyfais drydanol yn eich cartref.

  • Dylid defnyddio’r sticer gwag a ddarparwyd gan yr athro i greu’r dyluniad.

  • Dim sticer?Gallech wneud poster i’w roi yn y gegin yn hytrach.

Sut i gymryd rhan?

  1. Rhowch y sticer ar eich cadi gwastraff bwyd. Gallwch hefyd roi’r sticer neu boster ar yr oergell

  2. Os nad oes cadi cegin gennych, gallwch archebu un gan eich cyngor yma

  3. Cyflwynwch ffotograff o’ch gwaith am gyfle i ennill taith undydd i’r teulu i un o brif atyniadau Cymru!

Beth yw’r gwobrau?

Cyflwynwch ffotograff o greadigaeth eich plentyn am gyfle i ennill trip diwrnod i’r teulu i un o brif atyniadau Cymru.

Mae yna wledd o wobrau ar gael, yn cynnwys mynediad am ddim i deulu o bedwar i Folly Farm, Dan-yr-Ogof, Cefn Mably Farm, Plantasia Tropical Zoo, Meadows Farm Village neu Pentre Peryglon.

Cyflwynwch eich ffotograff
Folly Farm, Oakwood Park, Dan-yr-Ogof, Cefn Mably, Plantasia Tropical Zoo, Meadows Farm Village and Danger Point.

Cyflwynwch eich ffotograff

Telerau ac amodau cystadleuaeth.