Beth i'w wneud gyda
EITEMAU TRYDANOL

Yn cynnwys: Clociau larwm; chwaraewyr CD/DVD/casetiau a chonsolau gemau; taclau bach y gegin fel tegellau, tostwyr, cymysgwyr bwyd a chymysgyddion, microdonnau; nwyddau twtio personol fel sychwyr gwallt, sythwyr gwallt, haearnau crychu gwallt, brwsys dannedd trydanol ac eillwyr trydanol; taclau’r ardd fel peiriannau torri glaswellt, tocwyr gwrychoedd a pheiriannau chwythu/rhwygo dail; eitemau eraill fel lampau, tortshis, sugnwyr llwch, ffonau, ffonau symudol, radios, setiau teledu, peiriannau argraffu, camcorder a larymau mwg. Ar gyfer eitemau trydanol mwy fel oergelloedd, rhewgelloedd a pheiriannau golchi - gweler Nwyddau Gwynion.
Ble gallaf i ailgylchu? »
Os oes gennych chi eitem drydanol sydd mewn cyflwr da o hyd, ystyriwch yr opsiynau gwahanol:
Pasiwch nhw ymlaen...
Elusennau a sefydliadau ailddefnyddio
- Gall eitemau trydanol gael eu rhoi i rai siopau elusen neu sefydliadau ailddefnyddio dodrefn – mae llawer ohonynt yn cynnig gwasanaethau casglu
Gwiriwch i weld a yw eich cyngor chi’n cynnig gwasanaeth ailddefnyddio
Ar-lein
- Gallwch basio eitemau ymlaen yn rhad ac am ddim ar wefannau fel Freecycle a Freegle;
- Chwiliwch ar-lein am gwmnïau a fydd yn cyfnewid hen eitemau trydanol am arian parod;
- Neu gallech eu gwerthu ar wefannau fel eBay, Gumtree a Preloved.
Friends, family and local events
- Holwch ffrindiau a pherthnasau a hoffent gael eich eitemau trydanol diangen – efallai mai dyna’r union beth y maent yn chwilio amdano...
- Cadwch lygad am ddigwyddiadau cyfnewid lleol – efallai y byddwch yn bachu eich bargen eich hun!
- Gwerthwch mewn arwerthiannau cist car, arwerthiannau ail-law, ac arwerthiannau moes a phryn
- Rhowch hysbyseb yn eich papur newydd lleol neu ffenestr siop
Ar y stryd fawr
- Mae rhai siopau fel Cash Converters a CeX yn prynu eitemau trydanol neu electronig, yn enwedig os oes gennych chi’r bocs gwreiddiol a’r cyfarwyddiadau ac ati
Os yw’r eitem wedi torri...
A oes modd ei thrwsio?
- Gallai trwsio eitem ei hadnewyddu ac arbed arian i chi hefyd – yn enwedig ar eitemau trydanol drytach;
- Edrychwch ar-lein am gyngor ar sut i drwsio eitemau eich hun neu i weld a all fod yn syml ac yn rhad i arbenigwr ei wneud. Er enghraifft, mae www.espares.co.uk a www.ifixit.com yn cynnig gwybodaeth am ddim am drwsio ystod o eitemau trydanol neu gallwch wirio os fydd digwyddiad repaircafewales.org yn eich ardal chi.
Sut ydw i’n ei ailgylchu?
Mae’n hawdd gwirio a ellir ailgylchu eitem, tegan neu gêm drydanol. Yn syml, gofynnwch y cwestiynau canlynol:
- A oes ganddo blwg?
- A yw’n defnyddio batris?
- A oes angen ei wefru?
- A oes ganddo lun o groesi allan bin ar olwynion arno?
Os gwnaethoch chi ateb oes/ydy i unrhyw rai o’r cwestiynau hyn, gellir ei ailgylchu.
- Gwiriwch i weld a yw eich cyngor yn cynnig casgliad ailgylchu gwastraff y cartref ar gyfer eitemau trydanol bach.
- Os nad ydyw, ewch â nhw i’ch canolfan ailgylchu lleol.
- Yn aml, bydd siopau’n casglu eich eitemau trydanol diangen wrth iddynt gludo eich rhai newydd – yn enwedig eitemau mwy fel setiau teledu, oergelloedd a rhewgelloedd (sylwch y gall rhai manwerthwyr godi tâl am gasglu eich hen eitemau trydanol). Ewch i'n chwilio i ddod o hyd i'ch canolfan ailgylchu agosaf.
Cynnwys cysylltiedig Oeddech chi’n gwybod...?
- Yn ôl data swyddogol Asiantaeth yr Amgylchedd, ailgylchodd y DU dim ond traean o’r pwysau o nwyddau trydanol ag y prynodd y llynedd.