Skip to main content
English
English

Poteli Nwy

Ailgylchu gartref

Ailgylchu oddi cartref

Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Poteli Nwy mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.

Gweld mannau ailgylchu cyfagos

Sut i ailgylchu poteli nwy

  • Mae rhai cynghorau lleol yn derbyn poteli nwy mewn canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref. Holwch staff y ganolfan ailgylchu i gael gwybod ymhle i roi’r poteli er mwyn iddyn nhw gael eu storio’n ddiogel cyn cael eu hailddefnyddio;

  • Mae’r rhan fwyaf o boteli nwy wedi’u cynllunio ar gyfer oes hir a gellir eu hail-lenwi a’u hailddefnyddio. Bydd llawer o fanwerthwyr a chyflenwyr yn caniatáu ichi ddychwelyd eich potel nwy a’i chyfnewid am un arall ar ôl ichi ddefnyddio’r nwy ynddi.

  • Ni ddylid rhoi silindrau nwy yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu gan eu bod yn gallu ffrwydro os cânt eu gwasgu.

Mae’n dda gwybod

Dychwelyd ac ailddefnyddio poteli nwy

Bydd llawer o fanwerthwyr a chyflenwyr yn caniatáu ichi ddychwelyd eich potel nwy a’i chyfnewid am un arall ar ôl ichi ddefnyddio’r nwy ynddi.

  • Mae cyngor ynghylch poteli Calor Gas i’w gael ar eu tudalen ail-lenwi, cyfnewid a dychwelyd;

  • Ar gyfer silindrau nwy heblaw am rai Calor Gas, darllenwch y cyngor ar wefan Liquid Gas UK.

Ailgylchu eitem arall

Feindiwch eich ganolfan ailgylchu agosaf

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon