Ein gwaith
Fel rhan o’r brand Ailgylchu Nawr, Cymru yn Ailgylchu yw’r ymgyrch ailgylchu cenedlaethol ar gyfer dinasyddion ledled Cymru.
Nod yr ymgyrch, a gefnogir ac ariannir gan Lywodraeth Cymru, ac a’i fabwysiadwyd gan gynghorau lleol a phartneriaid eraill ledled Cymru, yw ysbrydoli newid ymddygiad cadarnhaol ac annog dinasyddion i ailgylchu mwy o bethau’n fwy aml o bob rhan o’r cartref.
WRAP Cymru sy’n cynnal yr ymgyrch fel rhan o becyn o waith sy’n anelu at gynyddu effeithlonrwydd adnoddau deunyddiau a chyflawni economi gylchol yng Nghymru.
Y Rhaglen Newid Gydweithredol
Mae Rhaglen Newid Gydweithredol (Collaborative Change Programme/CCP) WRAP Cymru ar gyfer Cymru’n cynnig cymorth strategol a thechnegol i helpu cynghorau lleol ddatblygu a chyflawni cynlluniau manwl i gyflawni deilliannau strategaeth gwastraff genedlaethol Llywodraeth Cymru, Mwy nag Ailgylchu.
Gweithio gyda chynghorau lleol
Fel rhan o Ailgylchu Nawr, mae ein hymgyrch Cymru yn Ailgylchu’n defnyddio cyfathrebiadau ac ymyraethau newid ymddygiad wedi’u seilio ar dystiolaeth i annog dinasyddion i ailgylchu mwy, gan weithio’n agos gyda chynghorau lleol.
Ym mis Medi 2020, fe wnaethom lansio ymgyrch ailgylchu cenedlaethol cyntaf Cymru erioed, ‘Bydd Wych. Ailgylcha’, a oedd yn defnyddio negeseuon normio cymdeithasol a darluniau creadigol i annog holl ddinasyddion Cymru i ailgylchu cymaint ag y gallant o’u cartrefi. Fe wnaethom ymgynghori gyda’r holl gynghorau lleol i greu Pecyn Adnoddau a oedd yn darparu asedau cyfathrebu iddynt i greu eu helfen eu hunain o’r ymgyrch ‘Bydd Wych. Ailgylcha’ ehangach.
Aethom yn ein blaenau i gynhyrchu 3 rownd o’r ymgyrch ‘Bydd Wych. Ailgylcha’ yn genedlaethol, a phob un yn cael ei hyrwyddo gan gynghorau lleol a phartneriaid eraill, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, prifysgolion, Croeso Cymru, atyniadau twristiaeth, cymdeithasau tai, sefydliadau amgylcheddol a brandiau yng Nghymru.
Parhawn i fod yn ymrwymedig i chwarae ein rhan yng ngwireddu uchelgais Llywodraeth Cymru i arwain y byd gyda’n hailgylchu, drwy gefnogi awdurdodau lleol mewn amrywiaeth o ffyrdd. I ddysgu mwy, ewch i Cymorth i awdurdodau lleol Cymru neu gallwch anfon ebost atom i [email protected].
Gweithio gyda sefydliadau partner
Mae ymgyrch Cymru yn Ailgylchu hefyd yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau partner ledled Cymru i annog eu preswylwyr lleol, eu cwsmeriaid, myfyrwyr, ymwelwyr, tenantiaid tai a nifer o gynulleidfaoedd eraill i ailgylchu mwy drwy ein hamrywiol ymgyrchoedd ailgylchu.
Mae ein partneriaid yn cynnwys Llywodraeth Cymru, cynghorau lleol, prifysgolion, Croeso Cymru, atyniadau twristiaeth, cymdeithasau tai, sefydliadau amgylcheddol a brandiau yng Nghymru.
Rydym yn rhannu deunyddiau ymgyrch ‘Bydd Wych. Ailgylcha’ gyda phartneriaid i’w defnyddio ar eu sianelu cyfathrebu digidol a phrint er mwyn atgyfnerthu negeseuon ailgylchu er mwyn helpu i gael Cymru i rif 1 yn y byd am ailgylchu.