Skip to main content
English
English
Clawr crynodeb Mwy nag Ailgylchu gyda theitl mewn gwyn ar gefndir tywyll a nifer o eiconau cysylltiedig â gwasanaeth mewn cylchoedd lliw ar hyd yr ymyl dde.

Amdanom Ni

Mwy nag Ailgylchu

Gwneud yr economi gylchol yng Nghymru yn realiti

Cymru yw’r 3edd genedl orau yn y byd am ailgylchu, ac rydym yn angerddol dros ddiogelu ein hamgylchedd a’n tirwedd. Yn ogystal ag ailgylchu popeth y gallwn, rydym am annog cymunedau lleol ledled Cymru i ailddefnyddio ac atgyweirio’r eitemau sydd ganddynt yn eu cartrefi. O wneud hyn, byddwn yn cadw deunyddiau’n ddefnyddiol ac yn osgoi gwastraffu unrhyw beth. Economi Gylchol yw’r enw ar hyn, strategaeth y mae Llywodraeth Cymru eisiau ei gwneud yn realiti yng Nghymru.

I ddarganfod mwy am strategaeth Mwy nag Ailgylchu Llywodraeth Cymru, ewch i https://llyw.cymru/strategaeth-economi-gylchol

Mwy nag Ailgylchu: Canllaw Hawdd ei Ddarllen

Cynnwys cysylltiedig

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon