Skip to main content
English
English

Newyddion Ac Ymgyrchoedd

Dod yn bartner

Ar y dudalen hon

Ynghylch ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha

Lansiwyd ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha ym mis Medi 2020, a dyma ymgyrch ailgylchu mwyaf Cymru erioed. Ariennir yr ymgyrch gan Lywodraeth Cymru, ac fe’i rheolir gan Cymru yn Ailgylchu; mae’r ymgyrch yn anelu at helpu Cymru gyrraedd y nod o ailgylchu 70% erbyn 2025, a bod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050.

Cymru yw’r ail genedl orau yn y byd am ailgylchu ar hyn o bryd, ac mae’r ymgyrch yn annog dinasyddion Cymru i ailgylchu mwy o’r pethau cywir yn fwy aml er mwyn helpu i gael Cymru i rif un yn y byd am ailgylchu.

Mae mwy y gallwn ei wneud o hyd i annog pawb yng Nghymru i ailgylchu ac mae cefnogaeth ein partneriaid yn ffordd ardderchog o hybu ac atgyfnerthu neges Bydd Wych. Ailgylcha.

Cefnogaeth partneriaid

Mae ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha wedi derbyn cefnogaeth anhygoel gan bob un o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru, ynghyd â phartneriaid cenedlaethol fel prifysgolion lleol, cymdeithasau tai, brandiau, sefydliadau amgylcheddol, atyniadau ymwelwyr, clybiau chwaraeon a chyrff y llywodraeth.

Cefnogodd ein partneriaid yr ymgyrch drwy rannu negeseuon Bydd Wych. Ailgylcha ar eu sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol a’u sianelu cyfathrebu mewnol, gan helpu i dargedu cynulleidfaoedd anodd eu cyrraedd.

Buddion cefnogi ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha

  • Bydd cefnogi’r ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha ar eich sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos i’ch cwsmeriaid, eich staff a’ch rhanddeiliaid eich bod yn malio am yr amgylchedd;

  • Trwy rannu negeseuon ein hymgyrch a defnyddio #ByddWychAilgylcha yn eich gweithgaredd ar y cyfryngau cymdeithasol, gallwch greu cyhoeddusrwydd a sylw cadarnhaol yn y cyfryngau i’ch sefydliad;

  • Bydd eich cefnogaeth i’r ymgyrch yn dangos eich bod yn cymryd Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol o ddifrif: rydych chi’n gwneud yn hytrach na dim ond dweud!

Mynd ati i gymryd rhan

Gallwn roi mynediad ar-lein ichi at gasgliad o asedau a deunyddiau Bydd Wych. Ailgylcha a gallwch eu lawrlwytho a’u defnyddio ar eich sianeli cyfathrebu. Gallwch gefnogi’r ymgyrch drwy:

  • Ddefnyddio ein hasedau a chopi ategol Bydd Wych. Ailgylcha, a’r hashnod #ByddWychAilgylcha ar eich sianeli cyfathrebu i ddangos eich bod yn rhan o ymgyrch sy’n sbarduno newid ymddygiad cadarnhaol;

  • Rhannu eich cynnwys eich hunan a defnyddio #ByddWychAilgylcha;

  • Ymgorffori ‘Lleolydd Ailgylchu’ Cymru yn Ailgylchu ar eich gwefan neu fewnrwyd, a fydd yn galluogi eich cwsmeriaid a’ch staff i chwilio’r cyfleusterau ailgylchu yn eu hardal leol. Am fwy o wybodaeth, anfonwch ebost at [email protected];

  • Cyfeirio eich cwsmeriaid a’ch staff ymlaen i wefan Fy Ailgylchu Cymru, ble gallant ddarganfod beth sy’n digwydd i’w hailgylchu ac i ble mae’n mynd;

  • Hyrwyddo cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol drwy hoffi, rhannu ac aildrydar ein negeseuon ynghylch Bydd Wych. Ailgylcha a welwch ar sianeli Cymru yn Ailgylchu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon