Skip to main content
English
English
Llaw yn codi tyri bys gyda'r geiriau: "Trydydd yn y byd am ailgylchu, dim ond dweud. Bydd wych, ailgylchu"

Newyddion Ac Ymgyrchoedd

Gadewch inni gael Cymru i rif un yn y byd am ailgylchu

Cymru yw’r drydedd genedl orau yn y byd am ailgylchu, ac mae 94% o ddinasyddion Cymru’n ailgylchu eitemau cyffredin o’u cartrefi ar hyn o bryd, sy’n golygu ein bod ar y trywydd iawn i fod yn genedl o ailgylchwyr gwych!

Mae’n newyddion gwych bod aelwydydd ar hyd a lled Cymru’n parhau gyda’u gwaith da ac yn dal ati i ailgylchu popeth y gallant. Os ydych chi’n ansicr a ellir ailgylchu eitem, gallwch wirio’r manylion ailgylchu ar y pecyn yn gyntaf, yna mynd draw i wefan eich cyngor lleol i wirio a ellir ailgylchu eitemau anghyfarwydd ai peidio. Gallwch ddod o hyd i’ch lleoliad agosaf i ailgylchu eich eitemau o’r cartref drwy ddefnyddio ein Lleolydd Ailgylchu.

Cyngor ac Awgrymiadau Ailgylchu

Mae gan Cymru yn Ailgylchu gyngor ac awgrymiadau ailgylchu ardderchog i’ch helpu i fod yn ailgylchwyr gwych! Trwy ddal ati gyda’r gwaith da, gallwn helpu Cymru ar ei hymgyrch gwych i fod yn genedl orau’r byd am ailgylchu.

1. Gwastraff bwyd

Gallwch ailgylchu’r holl fwyd amrwd ac wedi’i goginio yn eich cadi gwastraff bwyd, yn cynnwys crwyn ffrwythau a llysiau, plisg wyau, crafion oddi ar y plât, bwyd wedi mynd heibio’i ddyddiad, a mwy! Gallwch hefyd ailgylchu eich hen fagiau te a gwaddodion coffi gyda’ch gwastraff bwyd. Mae’r rhan fwyaf ohonom yng Nghymru’n ailgylchu ein gwastraff bwyd, a gall un llond cadi o wastraff bwyd gynhyrchu digon o drydan i bweru set teledu am ddwy awr o ffilm Bond.

2. Poteli plastig

Gellir ailgylchu poteli plastig, o boteli diodydd i boteli nwyddau glanhau a nwyddau ymolchi, ac mae 92% o bobl Cymru’n eu hailgylchu’n rheolaidd. Gwagiwch, gwasgwch a rhowch y caead yn ôl ar boteli i’w hailgylchu, a thynnwch unrhyw chwistrellau a phympiau gan na ellir ailgylchu’r rhain. Mae ailgylchu dim ond un botel siampŵ yn arbed digon o ynni i bweru stereo am bump awr.

4. Deunydd pacio cardbord

Mae’r rhan fwyaf ohonom yn defnyddio cardbord, yn enwedig gyda siopa ar-lein yn fwy poblogaidd nag erioed. Ar hyn o bryd, mae 92% o bobl Cymru’n ailgylchu eu cardbord. Cofiwch dynnu unrhyw dâp pacio a fflatio’r bocsys i arbed lle yn eich cynhwysydd ailgylchu.

4. Caniau bwyd a diodydd

P’un ai gwneud eich hoff fyrbryd ydych chi, fel ffa pob ar dost, neu’n mwynhau diod adfywiol, cofiwch ailgylchu eich caniau bwyd a diodydd – gellir eu hailgylchu dro ar ôl tro. Mae ailgylchu un can yn arbed digon o ynni i bweru sugnwr llwch am awr.

5. Poteli a jariau gwydr

Mae’n hawdd ailgylchu gwydr, ac mae 91% ohonom yng Nghymru’n ailgylchu ein poteli a’n jariau, sy’n golygu y gellir ei ailgylchu i wneud nwyddau newydd. Rhowch rinsiad i boteli a jariau gwydr, gan roi’r caead yn ôl arnynt cyn eu rhoi yn eich ailgylchu.

6. Papur a cherdyn

Gellir ailgylchu cardiau cyfarch, ond tynnwch unrhyw rubanau, llwch llachar a ffoil oddi arnynt cyn eu rhoi yn eich ailgylchu. Os caiff eich papur a’ch cardbord ei ailgylchu ar wahân, rhowch eich cardiau yn eich cynhwysydd cardbord a’r amlenni yn eich cynhwysydd papur.

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon