Oeddech chi’n gwybod mai Cymru yw’r ail wlad orau yn y byd am ailgylchu ar hyn o bryd? Mae hynny’n ardderchog! Ond dydyn ni ddim am roi’r gorau iddi yn y fan yna – rydym ni’n anelu am aur, ac mae angen eich help chi arnom ni. Y Nadolig hwn, ymunwch â’n cenhadaeth enfawr i roi Cymru ar y brig.
Mae’r Nadolig yn gyfnod o lawenydd a dathlu, ond dyma pryd byddwn ni’n creu’r gwastraff mwyaf hefyd – o wleddoedd y Nadolig, i bentyrrau o becynnau a phapur lapio. Eleni, gadewch i ni fanteisio ar bob cyfle i ailgylchu, ailddefnyddio a lleihau gwastraff.
Dyma’ch canllaw cyflym i ailgylchu 12 eitem gyffredin y Nadolig yn y ffordd gywir!
1. Goresgyn eich pecynnau cardfwrdd
Mae’r Nadolig yn golygu llawer o anrhegion, a llawer o anrhegion yn golygu mynydd o flychau cardfwrdd! Mae 95% o bobl yng Nghymru eisoes yn ailgylchu cardfwrdd, felly gadewch i ni wella ar hynny trwy dynnu tâp pecynnu, gwasgu blychau a’u torri yn ddarnau llai i arbed lle. Ceisiwch gadw cardfwrdd yn sych hefyd fel ei fod yn aros yn ei siâp gorau ar gyfer ailgylchu.
2. Rhowch anrheg i’r blaned – Ailgylchwch (neu ailddefnyddiwch) y tybiau a’r tuniau siocledi
Ydych chi wedi gorffen â’r holl dybiau siocledi a melysion? Gellir eu hailgylchu’n gyfan gwbl! Mewn gwirionedd, mae gan dros 90% ohonom yng Nghymru dybiau ailgylchu eisoes, ond pam ddim rhoi ail fywyd iddyn nhw? Ceisiwch eu hail-lenwi â mwy o bethau da, trefnu eitemau bach y cartref, neu hyd yn oed eu troi’n dybiau storio hwyliog ar gyfer teganau plant.
3. Bwytewch, ailgylchwch a byddwch lawen
Mae’r Nadolig yn gyfnod o wledda, ond mae gwastraff bwyd yn broblem enfawr. Mae chwarter o’r bin sbwriel cyffredin yn cynnwys bwyd, sy’n ffigur anferthol, a gellid bod wedi bwyta dros 80% o’r bwyd hwnnw.
I osgoi gwastraffu bwyd ac arian, ceisiwch gynllunio ymlaen llaw cyn mynd i siopa a throi bwydydd dros ben yn brydau bwyd blasus y diwrnod canlynol. Rhowch ba fwydydd bynnag dydych chi ddim yn gallu eu bwyta, fel esgyrn twrci, crafion ffrwythau a llysiau, bagiau te a phlisg wyau, yn eich cadi bwyd er mwyn iddyn nhw allu cael eu hailgylchu i’w troi yn ynni adnewyddadwy. Gallai un cadi yn unig yn llawn gwastraff bwyd wedi’i ailgylchu bweru teledu yn ddigon hir i wylio Home Alone!
4. Peidiwch â ffaelu’ch ffoil
Oeddech chi’n gwybod bod eitemau metel fel ffoil yn gallu cael eu hailgylchu droeon heb golli ansawdd? Wrth i chi baratoi eich prydau bwyd Nadolig neu gladdu mins peis, ailgylchwch unrhyw ffoil glân, yn cynnwys casys mins peis. Rinsiwch ffoil yn gyflym i gael gwared ar unrhyw fwyd, saim neu olew, a’i wasgu’n belen yn barod ar gyfer y broses didoli deunydd ailgylchu heb iddo fynd ar goll.
5. Mynnwch gael Nadolig glanach a gwyrddach – Ailgylchwch eich poteli pethau ymolchi a’ch erosolau
Wrth i chi baratoi ar gyfer eich partïon, eich digwyddiadau a’ch dathliadau Nadolig, peidiwch ag anghofio ailgylchu unrhyw boteli pethau ymolchi ac erosolau gwag - fel poteli plastig siampŵ a sebon golchi dwylo, a chwistrellau gwallt, chwistrellau diarogli ac erosolau metel ewyn eillio. Gadewch unrhyw gaeadau, labeli, pigau arllwys a sbardunau chwistrellu arnynt. Bydd y rhain yn cael eu tynnu yn y broses ailgylchu, ond tynnwch unrhyw bympiau oddi ar boteli pethau ymolchi a’u rhoi yn eich bag neu’ch bin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu. Gwnewch yn siŵr fod erosolau yn wag. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn ailgylchu ein poteli pethau ymolchi a’n herosolau, felly ymunwch â’r ymdrech i wneud y Nadolig yn wyrddach a glanach.
6. Papur lapio
Nid oes modd ailgylchu pob math o bapur lapio. Mae rhai mathau’n cynnwys llawer o inc neu’n cynnwys haenen o fetel neu blastig na ellir ei gwahanu oddi wrth y papur. Gall rhai mathau o bapur fod yn denau iawn hefyd, sy’n golygu nad yw ei ansawdd yn ddigon da i’w ailgylchu ac mae tâp gludiog hefyd yn golygu nad oes modd ei ailgylchu. I osgoi gwastraff, ceisiwch gadw papur lapio sydd mewn cyflwr da ar gyfer y flwyddyn nesaf, neu byddwch yn greadigol â ffyrdd eraill o lapio sy’n ecogyfeillgar, fel papur newydd, lapiau ffabrig neu fag anrheg.
7. Ailgylchwch eich cardiau a’ch amlenni Nadolig
Gellir ailgylchu’r rhan fwyaf o gardiau Nadolig yn eich cynhwysydd neu’ch bag ar gyfer cardfwrdd neu bapur – cofiwch dynnu unrhyw gliter, rhubanau, clymau a ffoil. Gallech chi gadw cardiau i greu eich cardiau’ch hun y flwyddyn nesaf, hefyd!
8. Rhowch ail fywyd i nwyddau trydanol y cartref
A oes gennych chi oleuadau Nadolig wedi torri neu flendiwr nad yw’n gweithio mwyach? Ewch â nhw i ddigwyddiad lleol Caffi Trwsio Cymru lle bydd y gwirfoddolwyr medrus efallai’n gallu eu trwsio! Os nad oes modd eu trwsio o gwbl, ewch â nhw i’ch canolfan ailgylchu leol.
Cofiwch fod unrhyw eitem â phlwg neu’n defnyddio batris yn cael ei dosbarthu yn Gyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff (WEEE) a gellir ei hailgylchu yn hytrach na’i rhoi yn y bin.
9. Peidiwch ag anghofio am ddyfeisiau trydanol bach
Os oes gennych chi hen ddyfeisiau sydd wir wedi cyrraedd diwedd eu hoes, gellir eu hailgylchu nhw hefyd. Ewch â nhw i’ch canolfan ailgylchu leol neu’u hailgylchu o’ch cartref os yw eich Cyngor lleol yn casglu eitemau trydanol bach.
10. Rhowch ail gyfle i’ch batris
Mae’r holl ddyfeisiau newydd hynny dros y gwyliau yn golygu bod llawer o fatris i’w gwaredu! Gellir ailgylchu batris wedi’u defnyddio, ac mae rhai cynghorau’n eu casglu o’r cartref, neu gallwch fynd â nhw i fannau ailgylchu mewn llawer o siopau ac archfarchnadoedd. Gallech hefyd ddewis batris sy’n gallu cael eu hailwefru a’u defnyddio droeon, gan leihau faint o wastraff sy’n cael ei greu.
11. Rhowch fywyd newydd i’ch hen ddillad
Os ydych chi’n clirio’ch cwpwrdd dillad ar ôl cael dillad newydd, cofiwch na ddylai unrhyw ddillad gael eu rhoi yn y bin. Gellir gwerthu neu gyfrannu eitemau mewn cyflwr da, a gellir mynd â darnau o ddillad wedi treulio i fanc ailgylchu tecstilau neu hyd yn oed eu huwchgylchu i fod yn rhywbeth unigryw a hyfryd!
12. Ailgylchwch eich coeden Nadolig – Real neu artiffisial
Pan fydd yn amser tynnu eich coeden Nadolig i lawr, gwnewch yn siŵr eich bod yn ei gwaredu’n gyfrifol. Gellir ailgylchu 100% o goed go iawn a’u troi’n bren mân ar gyfer parciau. Ewch â nhw i ganolfan ailgylchu neu gwiriwch a yw eich Cyngor yn eu casglu, os ydych yn derbyn gwasanaeth casgliadau gwastraff gardd. Os ydych chi’n barod i waredu coeden artiffisial mewn cyflwr da, ystyriwch ei chyfrannu i roi bywyd arall iddi!