Skip to main content
English
English
A woman smiling wearing a red festive jumper in front of a festive background including a decorated tree and candy cane decor.

Newyddion Ac Ymgyrchoedd

Yn breuddwydio am Nadolig gwyrdd?

Cadwch hi'n Nadoligaidd ac yn eco-ymwybodol heb dorri'r banc. Hoff gyfnewidiadau-eco dros y Nadolig, wrth ein Uwch Rheolwr Ymgyrch, Angela Spiteri.

Nadolig yw un o’m hoff adegau o’r flwyddyn! Y sbarcl, y partïon llawen, y cyffro ar wynebau fy mhlant. Mae’n gyfnod llawn hud a llawenydd – ond mae hefyd yn gyfnod o orfwyta a goryfed.

Gan fy mod yn fam i ddau o blant, rwy’n deall pa mor hawdd yw hi i fynd ychydig dros ben llestri, ond trwy gyfnewid ychydig o bethau syml, gallwn ni wneud dewisiadau gwyrddach heb golli’r sbarcl hwyliog hwnnw. Hefyd, mae Nadolig gwyrddach nid yn unig yn gyfeillgar i’r blaned, mae’n fforddiadwy hefyd.

Felly, dyma rai o’m hoff gynghorion hawdd a fforddiadwy, sy’n berffaith ar gyfer pobl brysur a theuluoedd sydd am gadw’r hud, tra’n ychwanegu ychydig o wyrddni.

1. Gwisgoedd parti: Gwyrdd yw’r du newydd!

Clothes hanging on racks in lots of bright colours. a bright pink and bright blue dress is hanging separately on display, sequined.

Mae pob un ohonom ni eisiau teimlo’n wych yn y parti, ond does dim angen i chi brynu rhywbeth newydd ar gyfer hynny! Rwy’n troi at eitemau ail-law pan fydda’ i’n chwilio am rywbeth unigryw a ffasiynol, ond heb bris nag ôl-troed maint sled Siôn Corn. I mi, mae fel helfa drysor – dydych chi byth yn gwybod pa em y gallech chi ddod o hyd iddo. Ewch i siopau elusen lleol, siopau vintage, neu farchnadoedd ar-lein fel Vinted ac eBay. Hefyd, gallech chi geisio ail-greu gwisg y llynedd trwy ei chyfuno ag ategolion newydd (ail-law).

Ar gyfer achlysur mawreddog, mae benthyca neu rentu yn opsiwn gwych arall – yn berffaith ar gyfer edrych yn arbennig heb lenwi’ch cwpwrdd dillad â gwisg y byddwch efallai ond yn ei gwisgo unwaith neu ddwywaith.

2. Ailfeddyliwch am eich anrhegion Nadolig: Llai o wastraff, mwy o galon

A small pile of festive wrapping paper on a grey sofa. In the foreground, blurred is a Christmas tree with red and gold decorations.

Bob blwyddyn, mae gwerth tua £42 miliwn o anrhegion nad oes eu heisiau yn mynd i safleoedd tirlenwi ( yn ôl Cyfeillion y Ddaear). Mae’n ystadegyn syfrdanol. Rwyf wedi gweld fy hun pa mor gyflym mae fy mhlant, a hyd yn oed oedolion, yn colli diddordeb mewn rhai anrhegion; felly, rwy’n canolbwyntio nawr ar ddewis rhai sy’n fwy ystyriol ac yn llai gwastraffus.

Un o’m hoff opsiynau yw darganfyddiadau ail-law (ac rwy’n cael yr un cyffro yn eu derbyn, ac yn aml yn anfon dolenni at nwyddau ail-law rwy’n eu llygadu at fy nheulu). Y llynedd, des i o hyd i siaced vintage anhygoel i fy mam, teganau ardderchog o Marketplace i’r plant, a chrys ‘Western’ neilltuol o’r 1980au i’m gŵr. Yn aml, mae cymeriad a hanes i anrhegion ail-law, sy’n eu gwneud yn llawer mwy arbennig. Ac i’r plant, sy’n mynd yn rhy fawr i deganau a dillad cyn y Nadolig nesaf hyd yn oed, mae’n arbed llawer iawn o arian – felly, mae’n gwneud synnwyr perffaith i mi, mewn gwirionedd.

Pan fydda’ i’n prynu pethau newydd, rwy’n ceisio cefnogi brandiau a gwneuthurwyr annibynnol. Rwyf hefyd yn hoffi siopa’n lleol ac mae marchnadoedd Nadolig yn siop un stop wych ar gyfer darganfyddiadau lleol. Mae rhywbeth arbennig iawn am roi anrheg o waith llaw, p’un a yw’n ddarn o gelf neu’n emwaith o waith llaw – mae’n teimlo’n fwy personol a chynaliadwy!

Erbyn hyn, rwyf hefyd wedi dechrau rhoi profiadau yn anrheg yn hytrach na ‘phethau’ – fel tocynnau i sioe theatr, dosbarth celf, diwrnod sba, blasu gwin, te prynhawn neu hyd yn oed wasanaeth tanysgrifio. I’m plant a’m gŵr, sydd eisoes â digonedd o bethau, mae profiadau’n golygu bod ganddyn nhw rywbeth hwyliog i edrych ymlaen ato ar ôl y Nadolig, a bod ychydig llai o annibendod gartre’.

3. Ceisiwch fenthyca yn lle prynu: Cael beth sydd ei angen arnoch heb yr annibendod

headphones and a DJ deck with two cute little white decorative snowmen on them. A Christmas tree is in the background

Mae’r Nadolig yn aml yn galw am bethau nad ydym yn eu defnyddio trwy’r flwyddyn, fel taclau cegin ychwanegol, seinyddion parti, neu addurniadau. Yn hytrach na phrynu mwy o bethau a fydd yn eistedd yn y cwpwrdd am weddill y flwyddyn, beth am fenthyca’r hyn sydd ei angen arnoch chi? Gofynnwch i ffrind neu rhowch gynnig ar wasanaeth rhentu fforddiadwy Benthyg Cymru ar gyfer popeth o daclau cegin fel blendwyr ac offer gweini bwffe, i oleuadau tylwyth teg a seinyddion. Mae’n ffordd wych o arbed lle ac arian.

4. Trwsiwch rywbeth: A’i wneud yn Nadoligaidd

A box of tabgled christmas lights on a red table. A Christmas tree is in the background

Weithiau, mae angen ychydig o ofal ar ein hoff eitemau Nadoligaidd i roi ail fywyd iddyn nhw. Ac un ffordd wych, hawdd a rhad ac am ddim o’u rhoi ar waith eto yw mynd â nhw i Gaffi Trwsio, lle gall gwirfoddolwyr medrus drwsio unrhyw beth o offer trydanol i’ch hoff siwmper Nadolig â phwyth rhydd, gan eu hachub yn aml rhag y bin. Edrychwch ar wefan Caffi Trwsio Cymru am ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn eich ardal leol.

5. Addurniadau ail-law ac wedi’u creu gennych chi: Gadewch i ni fod yn Greadigol!

pink, red, white and silver decorations on a Christmas tree

Does dim rhaid prynu addurniadau disglair newydd i addurno’ch cartref. Mae siopau elusen yn llawn nwyddau Nadoligaidd yr adeg hon o’r flwyddyn, p’un a ydych chi eisiau eu defnyddio fel y maent neu’u troi’n ddarnau creadigol ac unigryw.

Flynyddoedd yn ôl, prynais i focs o drugareddau rhad o siop elusen, a gydag ychydig o’m hud i fy hun, decoupage a thaeniad o sbarcl, llwyddais i’w troi’n addurniadau unigryw sy’n edrych yn fendigedig ar fy nghoeden o hyd. Mae creu crefftau â llaw yn cymryd ychydig mwy o amser, ond mae’n therapiwtig iawn – ac mae hefyd yn brosiect hwyliog i’w wneud gyda phobl eraill.

6. Gwledda mewn ffordd sy’n gyfeillgar i’r blaned ac yn fforddiadwy: Cynllunio, paratoi a phlatio â gofal

A top-down photo of a crispy turkey garnished don't he right with a pot of cranberry sauce to the left and a plate of roast potatoes on a blue festive tablecloth.

P’un a ydych chi’n llenwi’ch troli ar gyfer diwrnod Nadolig neu ar gyfer parti epig Nos Galan, mae’n hawdd mynd dros ben llestri, sy’n gallu arwain at wastraffu bwyd ac arian.

Fy mhrif air o gyngor yw y dylech chi gynllunio’ch bwydydd ymlaen llaw – gwnewch restr a glynu ati. Mae’n swnio’n syml, ond gall yr eiliau sy’n llawn pethau atyniadol y Nadolig eich denu’n hawdd, a chyn i chi wybod, rydych chi’n cerdded allan o’r archfarchnad gyda digon o fwyd i fwydo Pegwn y Gogledd i gyd! Gydag ychydig o gynllunio, gallwch chi dretio’ch hun, heb fynd dros ben llestri.

A pheidiwch ag anghofio bod yn greadigol gyda bwydydd dros ben yn eich oergell. Mae stwnsh tatws a bresych gyda chawsiau Nadolig neu gyri twrci sy’n defnyddio ein holl gig a llysiau dros ben yn ddau ffefryn yn fy nhŷ i, ond mae llawer o ffyrdd blasus i wneud y gorau o’ch hoff fwyd. Edrychwch ar wefan Caru Bwyd Casáu Gwastraff i gael ysbrydoliaeth wych ar gyfer prydau bwyd.

7. Meistrolwch eich ailgylchu: Gadewch i ni roi Cymru ar y brig!

a table with a red festive tablecloth with various empty drink bottles on it. Festive candles and plates are also on the table

Dyma reswm ychwanegol i ddathlu’r Nadolig hwn: yn ddiweddar, enillodd Cymru deitl y wlad ail orau yn y byd am ailgylchu. Ond dydyn ni ddim am roi’r gorau iddi yn y fan yna – rydym ni’n anelu am aur. Gan mai’r Nadolig yw’r tymor gwastraff ychwanegol, perffeithio ailgylchu yw’r ffordd hawsaf y gallwn ni wneud ein rhan. Felly, p’un a ydych chi gartref, neu’n mwynhau digwyddiad Nadoligaidd, cofiwch: mae pob eitem sy’n cael ei hailgylchu’n gywir yn dod â Chymru’n agosach at y brig.

Ddim yn siŵr beth sy’n mynd ble? Peidiwch â phoeni – gall Cymru yn Ailgylchu helpu. Darllenwch ein blog i gael cynghorion ar ailgylchu dros y Nadolig neu ewch i’n Lleolydd Ailgylchu i chwilio am eitemau penodol. Cofiwch, gyda’r holl wyliau banc, efallai bydd eich diwrnodau casglu gwastraff ailgylchu ychydig yn wahanol dros gyfnod y Nadolig. Gwiriwch wefan eich Cyngor i weld manylion am newidiadau.

Cynnwys cysylltiedig

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon