Sut bynnag bydd Cymru yn perfformio yn y Chwe Gwlad eleni, o ran ailgylchu, rydyn ni eisoes ar y brig! Rydyn ni'n 2il yn y byd, ar ôl dringo i fyny o'r 3ydd safle ond rydyn ni eisiau'r safle cyntaf!
Achub bwyd rhag y bin sbwriel yw'r cam cryfaf i'n helpu ni gyrraedd yno. Mae’n ddychrynllyd meddwl fod chwarter cynnwys y bin sbwriel cyfartalog yn fwyd, a gellid bod wedi bwyta mwy nag 80% ohono. Mae hynny'n swm syfrdanol o £84 y mis yn cael ei wastraffu fesul cartref – arian a phrydau bwyd yn mynd yn syth yn y bin!

Pweru’r Chwe Gwlad gyda gwleddoedd diwastraff penigamp
P'un a wyt ti’n llenwi dy fol cyn y gic gyntaf, yn cael tamaid hanner amser, neu'n dathlu buddugoliaeth, bydd y seigiau cyflym, hawdd a blasus hyn yn dy helpu i achub bwyd rhag y bin a sicrhau profiad penigamp i ti wrth fwynhau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad!
Cyri cyw iâr 'hanner a hanner' – Y wledd hanner amser ddelfrydol! Taflah gyw iâr a llysiau dros ben i dy hoff saws cyri a’i weini gyda sglodion cartref â'r croen arnynt a reis – 'hanner a hanner', clasur o gyfuniad Cymreig!
Tosti caws epig – Un o hanfodion gêm rygbi! Galli ddyrchafu dy dosti drwy ychwanegu ham dros ben, sbigoglys, neu domatos wedi'u sleisio i wneud byrbryd buddugol.
Ysgytlaeth adferol – Ar gyfer bore drannoeth! Blendia ffrwythau, llaeth a hyd yn oed iogwrt dros ben i gael hwb egni adfywiol cyn mynd yn ôl at y gemau nesaf.

Ailgylchu’r hyn na alli ei fwyta – a phweru'r Chwe Gwlad!
Wrth baratoi dy wleddoedd ar ddyddiau gêm, paid â gadael i'r darnau anfwytadwy fynd yn wastraff – ailgylcha’r esgyrn, y plisg wyau a'r plicion anfwytadwy hynny i helpu i gynhyrchu ynni adnewyddadwy!
Yng Nghymru, mae gwastraff bwyd yn cael ei droi’n ynni glân, gwyrdd trwy dreulio anaerobig, gan bweru cartrefi, cymunedau… a hyd yn oed y Chwe Gwlad:
Pweru dy teledu gartref – Un cadi yn llawn gwastraff bwyd = 2 awr o drydan – digon i wylio dau hanner y gêm, yn ogystal â’r sgwrs ar ôl y gêm!
Goleuo Stadiwm y Principality – mae bananas yn pweru’r chwaraewyr, a gall crwyn banana bweru’r gêm! Pe bai pawb yng Nghymru yn ailgylchu dim ond un croen banana, gallem gadw llifoleuadau’r stadiwm wedi’u pweru am 10 diwrnod cyfan.
Cadw dy ddiodydd yn oer – Gall un cadi gwastraff bwyd bweru oergell am 18 awr – digon o amser i oeri dy gwrw ar gyfer y gêm fawr!
Mae gan dy wastraff bwyd bŵer – defnyddia fe!
Mae pob pryd sy'n cael ei achub a phob tamaid o fwyd sy'n cael ei ailgylchu yn dod â Chymru'n agosach at fod yn Rif 1 am ailgylchu! Achuba dy fwyd o'r bin trwy greu prydau blasus ar ddiwrnod y gêm ac ailgylchu'r hyn na alli di ei fwyta i helpu i bweru cartrefi, cymunedau… a’r gêm ei hun.


