Skip to main content
English
English

Newyddion Ac Ymgyrchoedd

Pwerwch eich arferion boreol gyda Phŵer Bananas!

Mae bananas wedi ennill eu plwyf fel ffrwyth daionus iawn. Maen nhw’n ffynhonnell egni ardderchog, yn rhoi hwb i bŵer ein hymennydd, maen nhw’n flasus dros ben gyda hufen iâ, ac maen nhw hyd yn oed yn dod wedi’u pacio’n glyd yn eu siwt archarwr eu hunain.

Rydym nawr yn darganfod ffordd fwy anarferol o ddefnyddio ein ffrind melyn crymaidd. Nid dim ond pobl y maen nhw’n rhoi egni iddynt; pan maen nhw’n cael eu hailgylchu, gellir troi crwyn bananas (yn ogystal â gwastraff bwyd arall), yn ynni i bweru eich arferion boreol, a phob math o bethau anhygoel. Does dim rhyfedd bod mwy a mwy o bobl Cymru’n ailgylchu eu gwastraff bwyd i greu pŵer.

1. Amser cawod!

Amser deffro gyda’ch cawod foreol, wedi’i phweru gan grwyn bananas y mis diwethaf. Gallai 50 o grwyn bananas wedi’u hailgylchu bweru eich cawod 5 munud yn y bore.

2. Steil gan fananas eilgylch

Gall ailgylchu 30 o grwyn bananas greu digon o ynni i bweru sychwr gwallt am 10 munud, mwy na digon o amser i’ch cael yn barod am y diwrnod.

3. Rhowch y tegell i ferwi gyda chydwybod lân

Angen caffein i wynebu’r bore? Mae ailgylchu dim ond 8 croen banana’n creu digon o ynni i ferwi’r tegell i wneud eich disgled foreol.

Beth arall allaf ei ailgylchu?

Mae crwyn bananas yn eitemau o wastraff bwyd na ellir eu bwyta, ond gellir eu hailgylchu. Mae eitemau eraill o wastraff bwyd anochel y gellir eu hailgylchu a’u troi’n ynni’n cynnwys:

  • Esgyrn cig neu bysgod;

  • Bagiau te a gwaddodion coffi;

  • Holl grafion ffrwythau a llysiau;

  • Plisg wyau;

  • Crafion oddi ar y plât a bwyd sydd wedi mynd heibio’i ddyddiad.

I ddarganfod sut caiff eich gwastraff bwyd ei droi’n drydan, ac i ddarganfod sut gallwch ddechrau ailgylchu eich gwastraff bwyd, ewch i fwrw golwg ar ein tudalen ‘Sut mae ailgylchu gwastraff bwyd yn gallu creu ynni’.

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon