Skip to main content
English
English
Gluniadur a thabled a ffôn symudol are ddesg

Sut i Ailgylchu

Sut caiff eitemau trydanol eu hailgylchu?

Ar y dudalen hon

Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff (Waste Electrical and Electronic Equipment/WEEE) yw un o’r ffrydiau gwastraff sy’n tyfu gyflymaf ac y llynedd, cynhyrchodd y byd 50 miliwn o dunelli o wastraff trydanol, yn cynnwys nwyddau cegin, ffonau symudol, cyfrifiaduron, setiau teledu, tŵls trydanol ac electronig. Gellir ailgylchu neu ailddefnyddio’r rhain oll.

Pam mae’n bwysig ailgylchu eitemau trydanol?

Caiff nifer enfawr o eitemau trydanol eu prynu bob blwyddyn ac ar hyn o bryd, dim ond cyfran fach, o eitemau bach yn enwedig, sy’n cael eu casglu ac felly’n gallu cael eu hailgylchu. Mae llawer ohonom nad ydym yn ymwybodol y gellir ailgylchu eitemau fel haearnau smwddio, tostwyr a ffonau symudol. Mae’r eitemau hyn yn dueddol o eistedd mewn cwpwrdd neu ddrôr yn hel llwch, pan allant mewn gwirionedd fod yn fwy defnyddiol.

Mae eitemau trydanol yn cynnwys amrywiaeth o ddeunyddiau y gellir eu gwahanu i’w hailgylchu a’u defnyddio mewn nwyddau newydd, fel metelau gwerthfawr yn cynnwys aur a chopr. Mae hyn i gyd yn arbed adnoddau ac ynni.

Mae gwneud un cyfrifiadur desg a monitor yn defnyddio mwy na 240kg o danwydd ffosil, 21kg o gemegau (yn cynnwys elfennau anadnewyddadwy prin), ac 1.5 tunnell o ddŵr ffres. Gall ailddefnyddio ac ailgylchu cymaint ag y gallwn ar WEEE arbed adnoddau gwerthfawr ac mae’n arbed swm sylweddol o ynni.

Sut caiff eitemau trydanol eu hailgylchu?

Gellir ailddefnyddio eitemau sy’n dal i weithio’n iawn. Mae elusennau cenedlaethol fel y British Heart Foundation yn casglu eitemau trydanol, ac felly hefyd rhai elusennau lleol llai. Maen nhw’n croesawu eitemau trydanol sy’n addas i’w hailwerthu, gan eu bod yn gallu sicrhau arian gwerthfawr i’w helusen.

Caiff cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff ei gasglu mewn Canolfannau Ailgylchu. Caiff wedyn ei gludo i gyfleuster ailbrosesu lle caiff yr eitemau eu rhwygo’n ddarnau mân.

Ar ôl rhwygo’r eitemau, mae magnetau cryf yn tynnu’r metelau fferrus, fel dur, allan. Caiff metelau anfetelaidd eraill eu tynnu gan ddefnyddio cerrynt trydanol. Wedyn, caiff yr holl ddeunyddiau crai eu dosbarthu i greu pethau newydd sbon.

Sut caiff WEEE ei ddefnyddio?

Mae eitemau trydanol yn cynnwys nifer o wahanol gydrannau, ac unwaith y maent wedi’u hadfer i’w hailgylchu, gellir eu defnyddio eto ar gyfer amrywiaeth o ddibenion newydd.

Er enghraifft, gellir troi’r motor copr mewn peiriannau torri glaswellt yn bibellau copr, arian mewn rhai gwledydd, gemwaith, weiren, ac fel weiren weindio ar gyfer motorau mewn nwyddau trydanol newydd fel oergelloedd, sugnwyr llwch, tŵls, geganau a motorau.

Mae’r bwrdd cylched mewn dyfeisiau gemau electronig yn cynnwys amrywiaeth o fetelau gwerthfawr yn cynnwys platinwm a phaladiwm, ac os cânt eu hailgylchu, gellir eu defnyddio mewn trawsnewidyddion catalytig, ffonau symudol a gemwaith.

Gellir tynnu metelau gwerthfawr a lled werthfawr o ffonau symudol a’u batris i’w hailgylchu. Mae cydrannau defnyddiol eraill y gellir eu hailddefnyddio hefyd, fel erialau, cysylltwyr batris, sgriniau LCD, lensys, microffonau, clawr y ffôn ei hun, sgriwiau, slotiau cardiau SIM a seinyddion.

Sut i ailgylchu eitemau trydanol dieisiau neu wedi malu

Mae pob person yn y Deyrnas Unedig yn prynu, ar gyfartaledd, bron i dair eitem drydanol newydd bob blwyddyn – neu tua 170 miliwn yn genedlaethol. Am bob 5.9kg o nwyddau trydanol bach a brynwyd yn 2012 (y nifer cyfartalog fesul person), dim ond ffracsiwn o’r eitemau hyn (1.8kg) gafodd eu hanfon i’w hailgylchu. Ni ddylid rhoi eitemau trydanol dieisiau yn y bin – os ydyn nhw’n ddiffygiol ac na allwch eu rhoi i elusen, gallwch fynd ag eitemau i’ch Canolfan Ailgylchu leol. Mae rhai cynghorau lleol yng Nghymru’n cynnig casgliadau WEEE bach wrth ymyl y ffordd.

Rhowch eich cod post yn ein teclyn Lleolydd Ailgylchu isod i ddod o hyd i’ch canolfan ailgylchu agosaf sy’n derbyn cyfarpar trydanol gwastraff.

Mae llawer o fanwerthwyr yn cynnig cynlluniau ailgylchu am ddim neu opsiynau dychwelyd. Gofynnwch yn y siop berthnasol am fwy o wybodaeth.

Mae rhai cynghorau lleol hefyd yn derbyn nwyddau trydanol bach mewn bagiau clir fel rhan o’u casgliad ailgylchu o gartref – nodwch eich cod post isod i wirio.

Dysgu mwy am sut i ailgylchu eitemau trydanol
Dod o hyd i’ch lleoliadau agosaf i ailgylchu eitemau trydanol

Darganfod a allwch ailgylchu eitemau trydanol gartref

Nodwch eich cod post i wirio

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon