Skip to main content
English
English
Rhes o jariau clir yn cynnwys grawnfwydydd a grawn

Sut i Ailgylchu

Sut i leihau, ailddefnyddio ac atgyweirio

Ar y dudalen hon

Mae lleihau eich gwastraff ac ailddefnyddio eitemau cymaint â phosibl yn ffordd wych o leihau eich effaith ar yr amgylchedd. O feddwl yn wahanol am yr hyn rydych yn ei brynu, i ail-lenwi poteli dŵr, defnyddio ‘bagiau am oes’, neu gompostio gartref – mae sawl ffordd o wneud gwahaniaeth go iawn.

Ffyrdd o leihau faint o wastraff rydych yn ei greu

  • Prynu dim ond yr hyn y mae ei angen arnoch a defnyddio’r hyn a brynwch;

  • Prynu llysiau a ffrwythau rhydd ac osgoi eitemau sy’n dod mewn llawer o ddeunydd pacio;

  • Cofrestru i dderbyn biliau neu fancio di-bapur;

  • Defnyddio llestri a chyllyll a ffyrc go iawn yn eich partïon yn hytrach na rhai plastig untro.

Ffyrdd o ailddefnyddio eitemau

  • Defnyddio cynwysyddion gwydr, plastig a chardbord i roi bywyd newydd iddyn nhw;

  • Gwneud yn siŵr bod gennych fagiau siopa ailddefnyddiadwy pan fyddwch yn mynd i siopa er mwyn osgoi prynu rhagor;

  • Troi hen ddillad, tyweli neu gynfasau yn gadachau glanhau;

  • Ailddefnyddio papur lapio neu fagiau anrhegion;

  • Defnyddio poteli dŵr y gellir eu hail-lenwi;

  • Cyfrannu paent dros ben i’ch elusen leol. Gallwch ddod o hyd i’ch cynllun agosaf ar wefan Community Repaint;

  • Rhoi hen ddodrefn neu nwyddau’r cartref i’ch siopau elusen lleol neu eu hysbysebu ar-lein. Gallwch hefyd wirio ein Lleolydd Ailgylchu i ddod o hyd i fannau ailgylchu cyfagos;

  • Prynu eitemau ail-law yn hytrach na phrynu rhai newydd, neu brynu eitemau a fydd yn para’n hirach na rhai tafladwy. Mae batris y gellir eu hailwefru yn rhatach na rhai tafladwy, a gellir eu defnyddio dro ar ôl tro.

Dysgwch fwy am Community Repaint
Dod o hyd i gyfleuster ailgylchu lleol

Mae gan rai cynghorau yng Nghymru siopau ailddefnyddio yn eu canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref, sy’n galluogi ailddefnyddio, atgyweirio a gwerthu eitemau. Mae hyn yn osgoi gwastraffu eitemau sydd â bywyd ar ôl ynddynt o hyd. Gweler gwefan eich cyngor lleol i ddarganfod pa gyfleusterau ailddefnyddio mae’n eu cynnig.

Edrychwch ar wefan eich cyngor lleol am fanylion.

Darganfyddwch rai o’r sefydliadau yng Nghymru a fydd yn cymryd eich eitemau i’w hailddefnyddio:

Sefydliadau ailddefnyddio

Ffyrdd o atgyweirio hen eitemau

Mae caffis trwsio’n cael eu cynnal yn rheolaidd mewn trefi a phentrefi ledled Cymru.

Gallwch fynd ag eitemau o’r cartref sydd wedi torri ond sydd â bywyd ar ôl ynddynt o hyd i gaffi trwsio. Gall y rhain gynnwys dyfeisiau technoleg, nwyddau trydanol, dillad, peiriannau o’r cartref a llawer mwy!

Bydd gwirfoddolwyr yn rhoi cynnig ar atgyweirio’r eitemau ac yn rhoi cyngor ichi er mwyn ichi allu atgyweirio’r eitemau eich hunan yn y dyfodol.

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am eich caffi trwsio agosaf.

Mae’n dda gwybod

Mae mwy a mwy o siopau diwastraff yn agor ledled Cymru. Gallwch brynu eich bwyd mewn siopau diwastraff lleol, lle gallwch fynd â chynwysyddion gyda chi a’u hail-lenwi gyda chymaint neu cyn lleied ag y dymunwch.

Mae gan rai siopau diwastraff jariau am ddim a gyfrannwyd, a gallwch eu defnyddio os nad oes gennych gynwysyddion gartref.

Sicrhewch eich bod yn storio eich bwyd yn gywir, a defnyddiwch fwyd dros ben i wneud rysetiau newydd. I gael cynghorion defnyddiol ar storio bwyd, rysetiau blasus a chyngor ar ddogni a chynllunio prydau, ewch i Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon