Mae gan hyd yn oed ailgylchwyr gwych Cymru gwestiynau. Ceisiwch atebion i’ch cwestiynau chi o inni gael ailgylchu’n well gyda’n gilydd
Mae pobl Cymru’n ailgylchu mwy nag erioed o’r blaen. Mae nifer anhygoel – 95% ohonom – yn ailgylchwyr rheolaidd a Chymru yw’r ail genedl orau yn y byd, ac yn anelu at gyrraedd rhif 1. Rydyn ni wedi dod ymhell, ond mae lle i dyfu o hyd.
Mae ein hymchwil yn dangos bod llawer o bobl yn dal i brofi dryswch am beth y gellir – ac na ellir – ei ailgylchu o gartref, ac eitemau mwy cymhleth fel ffoil, bagiau a deunydd lapio plastig, a phecynnau ffoil bwyd a diodydd sydd ar frig y rhestr honno.
Dyna pam, ar gyfer Wythnos Ailgylchu eleni, rydyn ni’n ateb y cwestiynau sydd gennym ni oll am ailgylchu, er mwyn inni ailgylchu’n well gyda’n gilydd a helpu Cymru i gyrraedd Rhif 1.
Atebion i’ch cwestiynau:
Mae ailgylchu mor ddryslyd, on’d yw e?
Does dim rhaid iddo fod – nodwch eich cod post yn ein Lleolydd Ailgylchu i ddarganfod beth i’w ailgylchu yn eich ardal chi.
Dyw un eitem anghywir yn y bin ddim yn gallu gwneud unrhyw ddrwg, nag yw e?
Gall! Gall dim ond ambell i eitem anghywir gennym ni oll, fel tiwbiau past dannedd a gwydrau yfed wedi torri, ‘halogi’ yr ailgylchu a gesglir, sy’n lleihau ei ansawdd a’i werth – ac mae rhai eitemau fel batris yn beryglus gan eu bod yn gallu achosi tanau yn y cyfleuster ailgylchu. Dysgwch fwy am halogi ailgylchu a sut i wella eich ailgylchu.
Mae ychydig o ymdrech gennym ni oll yn mynd ymhell, felly gwiriwch cyn taflu gan ddefnyddio ein Lleolydd Ailgylchu.
A yw fy ailgylchu’n gwneud gwahaniaeth go iawn?
Ydi, mae e! Mae eich ailgylchu’n adnodd gwerthfawr a gellir ei droi’n nwyddau newydd. Ewch i Fy Ailgylchu Cymru i ddarganfod i ble mae eich ailgylchu’n mynd.
Ydi, mae e! Mae ailgylchu’n lleihau’r gwastraff a gaiff ei anfon i dirlenwi, yn cyfyngu ar yr angen am ddeunyddiau crai, ac yn arbed ynni. Gwyliwch ein fideos i ddarganfod sut yn union caiff eich eitemau cyffredin eu hailgylchu.
Gyda diolch i holl ddinasyddion Cymru sy’n ailgylchu mwy o’r pethau cywir, Cymru yw cenedl orau’r DU am ailgylchu, ac yn ail yn y byd. Darganfyddwch beth allwch chi ei wneud yn ystod Wythnos Ailgylchu eleni i helpu Cymru gyrraedd rhif 1.
![10 peth y gallwch ei wneud i helpu Cymru gyrraedd y brig](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimages.ctfassets.net%2F258mk2knbtzc%2F67ki70qHGYHjwTvlJLSWGE%2Fc8911d3ea2171f3ce0979549f2823bd3%2FPlastic_bottles.jpg&w=3840&q=75)
10 peth y gallwch ei wneud i helpu Cymru gyrraedd y brig
O wydrau yfed wedi torri i becynnau ffoil bwyd a diodydd, darganfyddwch beth i’w wneud â’r eitemau anoddach hynny i daclo’r dryswch a helpu Cymru gyrraedd rhif 1 am ailgylchu.
![Ydych chi erioed wedi meddwl tybed beth sy’n digwydd i’ch ailgylchu go iawn?](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimages.ctfassets.net%2F258mk2knbtzc%2F33oSdbZc6K6SqV1UAvyO4T%2F64958477b3a6849dfa09946328562a8a%2FGlass_bottles_small.jpg&w=3840&q=75)
Ydych chi erioed wedi meddwl tybed beth sy’n digwydd i’ch ailgylchu go iawn?
Gwyliwch ein fideos i ddarganfod yn union sut caiff eich eitemau bob dydd eu hailgylchu, beth sy’n digwydd iddyn nhw, yn ogystal ag awgrymiadau defnyddiol a ffeithiau.
![I ble mae fy ailgylchu’n mynd?](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimages.ctfassets.net%2F258mk2knbtzc%2F17HMaETkXgHVPCa1NK0lPW%2Fed06bb4faaa4adca73bfd2dcb55a2c69%2FMy_Recycling_Wales_frontpage_001.png&w=3840&q=75)
I ble mae fy ailgylchu’n mynd?
Archwiliwch wefan Fy Ailgylchu Cymru i ddysgu i ble’r aiff eich ailgylchu unwaith mae eich cyngor lleol wedi’i gasglu.
![Os na alli di ei fwyta fe, ailgylcha fe!](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimages.ctfassets.net%2F258mk2knbtzc%2F5bOBtrhh9HIm6hURM780V6%2F02b40c3b68d18b08a50cbe7e89c3dd9e%2FWeb_page_stat_Wel.png&w=3840&q=75)
Os na alli di ei fwyta fe, ailgylcha fe!
Bagiau te, esgyrn, bwyd heibio’i ddyddiad – ych a fi neu beidio – rhowch y cwbl yn y bin bwyd! Yng Nghymru, caiff gwastraff bwyd ei ailgylchu i greu ynni adnewyddadwy.
![Mae cost taflu bwyd bwytadwy yn £52 y mis i aelwydydd Cymru](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimages.ctfassets.net%2F258mk2knbtzc%2FzJGlDziXwv6bSTgNMpINv%2F7c06b41b192b443d8f0ac7da7745eab2%2FCutting_vegetables_in_pot_FD_0325_SS.jpg&w=3840&q=75)
Mae cost taflu bwyd bwytadwy yn £52 y mis i aelwydydd Cymru
Gallwch osgoi gwastraffu arian drwy roi hwb i’ch prydau bwyd gyda bwyd a allai fynd yn wastraff fel arall. Porwch ein syniadau rysetiau sydyn, hawdd a hyblyg am ysbrydoliaeth.