Skip to main content
English
English
Eitemau o fwyd gydag wynebau ac aelodau cartŵn gyda'r geiriau "Ymunwch a'r ymgyrch gwastraff bwyd gwych" mewn gwyn a ddu ar gefndir goch

Ymunwch â’r Ymgyrch Gwastraff Bwyd Gwych

Gweithgareddau sy’n cyd-fynd â’r cwricwlwm a chystadleuaeth i blant 5 i 11 mlwydd oed

Mae Cymru’n un o ailgylchwyr gorau’r byd, ond gwastraff bwyd yw cynnwys chwarter y bin sbwriel domestig o hyd – digon i lenwi 3,300 o fysiau deulawr bob blwyddyn! Gellid bod wedi bwyta 80% o hwn, swm syfrdanol! A gellid bod wedi ailgylchu’r gweddill i greu ynni adnewyddadwy i bweru ein cartrefi.

Cymrwch ran

Rydym yn galw ar blant 5 i 11 mlwydd oed i ddod yn ddinasyddion hysbys, hunanymwybodol, a helpu cael Cymru i #1 yn y byd am ailgylchu a dod yn genedl ddiwastraff cyn 2050.

Lawrlwythwch ein hadnoddau hyblyg, addasadwy a rhyngweithiol a’u defnyddio yn yr ystafell ddosbarth neu mewn gwasanaeth. Bydd disgyblion yn dysgu am werth bwyd, sut gallwn fanteisio i’r eithaf ar y bwyd sydd gennym, gan greu ynni adnewyddadwy drwy ailgylchu’r hyn na ellir ei fwyta.

Mae’r sesiwn yn cynnig y cyflwyniad perffaith i’n cystadleuaeth gwaith cartref: creu poster rysáit i ysbrydoli teuluoedd i daclo gwastraff bwyd.

Caiff rhieni neu ofalwyr rannu posteri rysáit eu plant yma erbyn 30 Ebrill 2024 am gyfle i ennill gwobrau yn cynnwys hamper bwyd wedi’i deilwra i’w teulu nhw a gwerth £50 o lyfrau i ysgol eu plant.

Mae’r gweithgareddau’n cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru a gellir eu defnyddio fel rhan o dystiolaeth Eco-Sgolion eich ysgol.

Eitemau o fwyd gydag wynebau ac aelodau cartŵn ar gefndir goch

Dechreuwch arni gyda’n hadnoddau am ddim

I lawrlwytho ein hadnoddau am ddim, cwblhewch y ffurflen isod.

  1. Cyflwyniad bwyd gwerthfawr – i’w gynnal fel gwers neu wasanaeth hwyliog a rhyngweithiol: mae gwerth yn perthyn i bob tamaid o fwyd a brynwn a gallwn arbed arian a diogelu ein planed drwy fanteisio i’r eithaf arno! Bydd disgyblion yn trafod sut i achub Arthur y fanana, rhoi cynnig ar gwis mathemateg gwastraff bwyd a gwylio fideo sy’n dangos y wyddoniaeth sy’n sail i ailgylchu gwastraff bwyd. (25 munud)

  2. Cystadleuaeth yr Ymgyrch Gwastraff Bwyd Gwych – dilynwch y cyflwyniad gyda gweithgaredd gwaith cartref 30 munud: rydyn ni’n herio disgyblion i greu rysáit gyffrous ar gyfer defnyddio bwyd sydd mewn perygl o gael ei wastraffu. Caiff rhieni gyflwyno ffotograff o boster rysáit eu plentyn drwy ein tudalen teuluoedd am gyfle i ennill gwobrau! (30 munud). Rydym wedi cynnwys taflen ddigidol gyda’n hadnoddau, a gallwch daro hon yn newyddlen neu system ebost eich ysgol.

  3. Sesiwn ystafell ddosbarth ddilynol – anogwch ddisgyblion i ddod â’u rysetiau i’r dosbarth i rannu eu syniadau ac ysbrydoli ei gilydd! Gallwch hefyd rannu gwybodaeth am leihau gwastraff bwyd a’r gystadleuaeth teulu gyda rhieni – does ond angen ichi gynnwys y daflen ddigidol hon yn newyddlen eich ysgol neu yn eich system ebostiau.

Bus full of food waste

Ewch â’ch dysgu ymhellach

Hoffech chi ddysgu mwy am wastraff bwyd? Pan fyddwch yn cwblhau’r ffurflen, byddwch hefyd yn cael mynediad at yr adnoddau hyn sy’n cyd-fynd â’r cwricwlwm sy’n archwilio gwastraff bwyd yn fwy manwl.

Cwis Gwastraff Bwyd – rhowch eich gwybodaeth ar brawf ynglŷn â gwastraff bwyd bwytadwy ac anfwytadwy a sut mae gwastraff bwyd anfwytadwy’n cael ei droi’n ynni adnewyddadwy.

Ymgyrch Gwyddoniaeth: Microbau Hudol – cwblhewch arbrawf i ddangos bod modd cynhyrchu biodanwydd o wastraff bwyd wedi’i ailgylchu.

Ymgyrch Mathemateg: Her Pweru – defnyddiwch fathemateg i ddangos sut gall gwastraff bwyd fel crwyn bananas a bagiau te bweru dyfeisiau bob dydd.

Ymgyrch Ieithoedd a Llythrennedd: Barddoniaeth Byw – lluniwch gerdd i ddweud wrth eraill am ailgylchu gwastraff bwyd.

Cofrestrwch i lawrlwytho ein hadnoddau am ddim

Mae’r Ymgyrch Gwastraff Bwyd Gwych yn rhan o ymgyrch cenedlaethol ‘Bydd Wych. Ailgylcha’ Cymru yn Ailgylchu, sy’n cyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o fod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050 a rhoi hwb i Gymru i gyrraedd rhif 1 yn y byd am ailgylchu.

Gallwch ddysgu mwy am ymgyrch ‘Bydd Wych. Ailgylcha’ yma.

Mae bananas yn pweru Efan, a’r crwyn yn pweru’r tŷ! Gwyliwch y fideo i ddarganfod sut mae mam a mab yn rhoi hwb i grempog glasurol gyda ffrwythau goraeddfed fel nad oes unrhyw beth yn cael ei wastraffu, gan ailgylchu’r eitemau bwyd na ellir eu bwyta i helpu creu ynni adnewyddadwy.