Ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha.
Lansiwyd ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha yn gyntaf ym mis Medi 2020, a hwn yw ymgyrch ailgylchu mwyaf Cymru erioed, sy’n anelu at helpu Cymru gyrraedd ei dargedau o ailgylchu 70% erbyn 2025 a bod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050.
Ariennir ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha gan Lywodraeth Cymru ac fe’i rheolir gan Cymru yn Ailgylchu; cynhaliwyd yr ymgyrch mewn tair rownd rhwng Medi 2020 a Mawrth 2021.
Cymru yw’r drydedd genedl orau yn y byd am ailgylchu ar hyn o bryd, ac mae’r ymgyrch yn annog dinasyddion Cymru i ailgylchu mwy o’r pethau cywir yn fwy aml er mwyn helpu i gael Cymru i rif un yn y byd am ailgylchu.
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru i hyrwyddo neges Bydd Wych. Ailgylcha i'w cwsmeriaid, gweithwyr, myfyrwyr, ymwelwyr, aelodau, tenantiaid a rhanddeiliaid.
Darganfod mwy
Cewch fwy o wybodaeth am ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha yma www.byddwychailgylcha.org.uk Os oes gennych chi ddiddordeb bod yn bartner ymgyrch, anfonwch ebost atom at [email protected] Byddwch yn rhan o rywbeth Gwych a dewch inni gael Cymru i’r brig!