Skip to main content
English
English

Potiau a Thybiau Plastig

Ailgylchu gartref

Ailgylchu oddi cartref

Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Potiau a Thybiau Plastig mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.

Gweld mannau ailgylchu cyfagos

Pa botiau a thybiau plastig y gellir eu hailgylchu?

  • Potiau iogwrt;

  • Tybiau siocled neu losin;

  • Potiau bwyd a thybiau cawl neu nwdls;

  • Tybiau sy’n cynnwys nwyddau glanhau fel deunydd tynnu staeniau a glanweithydd;

  • Tybiau cig

  • Tybiau menyn a marjarîn;

  • Cynwysyddion tecawê a phrydau parod;

  • Tybiau plastig sy’n dal ffrwythau neu lysiau;

  • Potiau sy’n cynnwys cynnyrch gofal croen a gwallt;

  • Cynwysyddion teisennau.

Nid yw’n bosibl ailgylchu potiau a thybiau plastig sydd wedi’u gwneud o blastig du neu frown yng Nghymru ar hyn o bryd.

Ewch i fwrw golwg ar ein tudalen Tybiau Siocled a Losin Plastig

Pa botiau a thybiau plastig na ellir eu hailgylchu?

  • Potiau paent – ailgylchwch y rhain yn eich Canolfan Ailgylchu

  • Teganau plastig – ailgylchwch y rhain yn eich Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref;

  • Polystyren, e.e. y deunydd a ddaw y tu mewn i focsys nwyddau;

  • Pecynnau swigod plastig sy’n dal tabledi a chapsiwlau.

Sut i ailgylchu potiau a thybiau plastig

  • Defnyddiwch ddŵr golchi llestri dros ben i rinsio eich potiau a thybiau plastig cyn eu hailgylchu. Gall gweddillion bwyd halogi’r deunyddiau eraill i’w hailgylchu;

  • Gadewch unrhyw labeli a chaeadau arnynt ond tynnwch unrhyw haenau o blastig ystwyth a phadiau amsugnol, a rhowch y rhain yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu;

  • Ailgylchwch unrhyw lewys cardbord gyda’ch cardbord;

  • Tynnwch unrhyw gaeadau plastig ystwyth oddi ar eich potiau a thybiau a’u hailgylchu gyda bagiau plastig a deunydd lapio mewn siopau manwerthu mawr. Fel arall, rhowch nhw yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.

Gallwch ddod o hyd i’ch lleoliadau ailgylchu agosaf ar gyfer bagiau a deunyddiau lapio plastig yma.

Ailgylchu eitem arall

Feindiwch eich ganolfan ailgylchu agosaf

Eitemau tebyg

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon